Amdanom ni
Ein gweledigaeth yw i bawb ddod i adnabod cariad Duw trwy wirionedd, prydferthwch a gwasanaeth, gan fyw bywydau cyflawn a chyfoethog trwy ffydd.
Trawsffurfio bywydau trwy fyw a dwyn tystiolaeth i Iesu Grist yw ein galwad. Ceisiwn wneud hyn mewn Esgobaeth sy’n gadarn, yn hyderus, yn fyw ac sy’n byw y ffydd, gan fynd i’r afael â realiti a chymhlethdodau bywyd a gwasanaethu eraill yn Ei enw.
Mae ein cred angerddol yn sofraniaeth Duw yn golygu ein bod yn edrych i barhau Eglwys Crist a’i chenhadaeth trwy adrodd stori lawen Iesu, a thyfu Teyrnas Dduw trwy alluogi pawb i gymryd ran i weithio tuag at y dyfodol a’i adeiladu mewn gobaith a chariad.
Esgobaeth Llandaf
Esgobaeth Llandaf yw’r mwyaf poblog o blith y chwe Esgobaeth yng Nghymru. Mae ei thiriogaeth yn ymestyn o orllewin Caerdydd yn y dwyrain i Gastell Nedd yn y gorllewin a hyd at Heol Blaenau’r Cymoedd yn y gogledd.
Rhennir yr Esgobaeth i dros 100 o blwyfi (neu, i fod yn hollol gywir, bywoliaethau). Mae pob plwyf yn dod o dan awdurdod clerig mewn urddau sanctaidd a ellir fod yn Offeiriad-mewn-Gofal, Ficer/Periglor/Ebrwyad, Rheithor, neu sydd â theitl arall.