Hafan Amdanom ni Esgob Llandaf

Esgob Llandaf

Esgob Mary Stallard

Etholwyd y Gwir Barchedig Mary Stallard yn esgob nesaf Llandaf ddydd Iau 19eg Ionawr ar ôl iddi dderbyn dwy ran o dair o’r pleidleisiau yn y Coleg Ethol.

  • Ddydd Mercher 19eg Ebrill cynhelir Synod Sanctaidd i gadarnhau etholiad Esgob Mary yn esgob nesaf Llandaf. Cynhelir y gwasanaeth yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, am 6.00pm.
  • Cynhelir gwasanaeth Croesawu Esgob Mary ddydd Sadwrn 29ain Ebrill yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Croeso cynnes i bawb ddod i’r gwasanaeth.

Esgob Mary Stallard

Yn hanu o Birmingham, cafodd yr Esgob Mary Stallard ei magu mewn rheithordy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd sy’n golygu iddi gael ei magu mewn cartref lle anogwyd codi cwestiynau am fywyd a ffydd.

Bu Mary yn darllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India.

Ymysg y menywod cyntaf i’w hordeinio fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn 1997, gwasanaethodd fel curadur yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003 penodwyd Mary yn Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandau yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Detholiad Taleithiol.

Rhwng 2011 a 2018 gwasanaethodd fel Caplan Anglicanaidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad Cyswllt yn Ardal Cenhadaeth Wrecsam. Roedd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd San Silyn yn Wrecsam.

Daeth yn Archddiacon Bangor ac offeiriad cyswllt Llandudno yn 2018. Cafodd Mary ei phenodi ym mis Ionawr y llynedd yn Esgob Cynorthwyol Bangor, a chafodd ei chysegru fel esgob ym mis Chwefror.

Mae gweinidogaeth darlledu sylweddol yr Esgob Mary wedi ei gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac mae wedi cyfrannu at Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales yn all Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.

Mae Mary yn briod â’r Parch Andrew Sully, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Llandudno, ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion. Mae ei hobïau yn cynnwys coginio, darllen a rhedeg.

Cysylltwch â Swyddfa yr Esgob

David Williamson, Cynorthwy-ydd Gweithredol

Ebost: bishop.llandaffEA@cinw.org.uk

Ffôn: 029 2056 2400