Hafan Cefnogaeth Adeiladau Diogelu Ein Heglwysi Yn ystod Llifogydd

Diogelu Ein Heglwysi Yn ystod Llifogydd

Gyda’r llifogydd diweddar a’r tywydd garw, mae nawr yn amser da i sicrhau bod ein heglwysi wedi’u paratoi’n dda ar gyfer tywydd y gaeaf.

Ar wahân i wneud yn siŵr bod cwteri, pibellau dŵr a draeniau’n glir, mae hefyd yn werth edrych ar ystafelloedd boeler os yw’r rhain wedi’u lleoli o dan lefel y ddaear, gan wirio bod gorchuddion y to yn dal dŵr a bod unrhyw lechi neu deils sy’n rhydd yn cael eu trwsio.

Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl wrth wirio’r adeilad ac os sylwch ar rywbeth sydd angen ei drwsio, cysylltwch â’r tîm eiddo am ragor o gyngor neu cysylltwch ag un o’r contractwyr ar y Rhestr Contractwyr Cymeradwy.

Mae cynnal a chadw rheolaidd yn hanfodol i gadw ein hadeiladau yn gynnes, yn sych ac mewn cyflwr da wrth i ni fynd i mewn i'r hyn sy'n debygol o fod yn aeaf gwlyb ac oer.

Os oes gennych unrhyw bryderon am gyflwr cyffredinol eich eglwys, cysylltwch â Paul, Uwch Syrfëwr Eglwysig paulcascarini@cinw.org.uk a Martyn Ysgrifennydd DAC martynjones@cinw.org.uk ac edrychwch ar y dolenni i gyngor isod os gwelwch yn dda. ystyried tanysgrifio i Rybuddion Tywydd y Swyddfa Dywydd Met Office

Flood – protecting your church property | Church Guidance | Ecclesiastical

The Historic Religious Buildings Alliance | Flooding

Natural Resources Wales / Preparing for a flood