Eglwys [a’i wal] yng nghalon y gymuned leol
Gan Matthew Chinery, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Yy Eglwys yng Nghymru
Ers bron cyhyd ag y mae pobl wedi bod yn codi waliau, mae pobl eraill wedi bod yn taro peli yn eu herbyn. Er bod modd olrhain fersiynau trefnedig o bêl-law (neu 'fives’, 'jeu de paume' neu 'handball’) mor bell yn ôl â’r Rhufeiniaid – o leiaf – am ganrifoedd lawer bu cysylltiad agos rhwng y gamp a'r eglwys. Am ganrifoedd ar draws Ewrop, a nunlle'n fwy na Chymru, roedd mynwentydd yn atseinio â sbonc pêl yn erbyn wal yr eglwys, a byddai wardeniaid yn cwyno bod gemau ar y Sul yn torri ar draws gwasanaethau (ac yn torri ambell ffenest hefyd!). Mae'r tensiynau rhwng awdurdodau’r eglwys a chwaraewyr pêl-law i’w gweld yn glir yn Llanfair Isgoed yn Esgobaeth Mynwy, lle cafodd yr arysgrif ganlynol ei cherfio (ac yn dal yno hyd heddiw):
Who Ever hear on a Sonday,
Will Practis Playing At Ball,
it May Be before Monday,
The Devil Will Have you All.
Wrth i’r torfeydd – a’r cyfleoedd i wneud arian – dyfu yn y ddeunawfed ganrif a’r ganrif wedyn, gwelwyd y gêm yn symud i ffwrdd o’r eglwysi i waliau a chyrtiau pwrpasol, a’r rheiny wedi’u codi yn aml yng ngardd tafarn. Pan oedd hi ar ei hanterth, dyma bron yn sicr y gamp fwyaf poblogaidd yng Nghymru, ond yn sgil cynnydd rygbi a phêl-droed yn yr ugeinfed ganrif, dirywiodd y gêm ac erbyn heddiw un cwrt pêl-law yn unig sy’n goroesi yng Nghymru, yn Nelson.
Ledled Ewrop, mae pêl-law drefnedig mewn mynwentydd wedi diflannu bron yn llwyr, heblaw am un pentref hynod yn Ne-ddwyrain Ffrainc.
Mae Artignosc-sur-Verdon, yn ddwfn yn Provence, yn bentref cysglyd, ychydig yn rhy bell o'r môr ac o faes awyr (yn wir o unrhyw ddinas o sylwedd) i fod yn gyrchfan i dwristaidd. Mae nifer fawr o'i 250-300 o drigolion yn hanu o deuluoedd sy’n byw yno ers cenedlaethau. Bu’r cenedlaethau a fu yn difyrru’r amser drwy daro pêl fach galed yn erbyn wal orllewinol eglwys y plwyf, sy'n cefnu ar sgwâr y pentref. Er bod dyfeisio tarmac a chynnydd y car modur wedi troi mannau chwarae yn briffyrdd ac wedi lladd y gêm yn y pentrefi cyfagos, wnaeth yr Artignoscaises ddim gadael i hyn ddigwydd. Mae ceir yn dod i stop ar ymyl y cwrt tra bod y pwynt yn parhau, cyn cael eu chwifio drwodd cyn y serf nesaf. Mae'r hen bêl galed wedi’i disodli gan bêl denis, sy’n fwy caredig i’ch dwylo ac i'r maen. Mae wal flaen y cwrt yn cynnwys holl nodweddion ecsentrig pensaernïaeth eglwysig: bydd y chwaraewyr yn anelu at y cerfiadau ar ddrws pren y gorllewin i greu adlam annisgwyl, neu’n ceisio gwyro’r bêl oddi ar y bibell draenio fetel i dwyllo’r gwrthwynebydd.
Rai blynyddoedd yn ôl cyfunodd y pentref ei ŵyl flynyddol (sy’n cael ei chynnal yn agos at Ŵyl yr Ymgnawdoliad bob blwyddyn) â thwrnamaint pêl-law a ddaeth i gael ei adnabod yn gyflym fel 'Cwpan y Byd Paume Artignoscaise'. Ar y dechrau, llwyddodd i ddenu cyn-drigolion, oedd wedi hen symud i ffwrdd, yn ôl i'r pentref am y penwythnos. Wedyn dechreuodd chwaraewyr Pelota a phêl-law o rannau eraill o dde Ffrainc ddod draw. Ac ers 2017, mae grŵp bach o chwaraewyr pêl-law a fives o'r Deyrnas Unedig yn gwneud y daith ar draws y Sianel i’w throi hi'n gystadleuaeth ryngwladol go iawn. Eleni, roeddwn i wrth fy modd yn cael gwahoddiad i ymuno â dwsin o gyd-chwaraewyr i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd ar ran tîm Prydain Fawr.
Mae'r penwythnos wedi gadael argraff enfawr arna i. Roedd eistedd yn sgwâr y pentref am ddiwrnod yn rhoi cipolwg anhygoel ar fywyd pentrefol. Yng ngwres haul canol dydd, bu Tîm Prydain yn ymarfer cymaint ag y gallem. Tua 4 o’r gloch, dyma bobl ifanc y pentref yn heidio i'r sgwâr, gan hyfforddi i efelychu llwyddiant eu teidiau a’u neiniau yn yr hen dwrnameintiau (ac i guro eu rhieni). Erbyn chwech, byddai’r chwaraewyr 'proffesiynol' yn dod allan, gan bwyso a mesur eu gwrthwynebwyr Prydeinig yn fanwl mewn cyfres o ornestau a oedd wedi'u coreograffu'n ofalus. Erbyn canol yr hwyr, roedd sgwâr y pentref yn fwrlwm o fywyd a chwerthin, i gyd yng nghysgod eglwys blwyf Romanésg odidog o’r 11eg ganrif. Y gamp fach hon - ac felly yr eglwys sy'n ei chynnal – yw'r glud sy'n dal y pentrefwyr at ei gilydd, ar draws cenedlaethau a dosbarthiadau cymdeithasol (does gêm ratach i'w chwarae yn y byd – cyfanswm y gost: un bêl denis). Mae dieithriaid yn cael eu croesawu â chynhesrwydd y dylai pob cynulleidfaoedd eglwysig anelu ato.
Fydd neb yn synnu i glywed bod yr eglwys wledig yn Ffrainc yn ei chael hi'n anodd. Mae argyfwng o ran galwedigaethau yn golygu bod clerigwyr yr esgobaethau wedi’u gwasgaru'n hynod o denau; mae Artignosc yn rhannu un offeiriad gyda chwe eglwys arall, ac mae gwefan yr Esgobaeth yn awgrymu bod rhaid aros o leiaf mis tan yr offeren nesaf. Ond ar y dydd Gwener, pan lwyddes i i fynd i mewn, dyma weld eglwys sydd wedi’i chynnal yn hyfryd ac yn amlwg yn annwyl iawn gan y pentref cyfan. Wrth siarad ag un wraig leol y tu mewn, dywedodd mai 'yr eglwys yw y pentref'. Yr argraff a gefais oedd bod rôl allweddol yr eglwys yn ei champ unigryw yn rhan allweddol o hynny.
A beth felly am Gwpan y Byd? Fe enillon ni, fe gollon ni (rhai, gan gynnwys fi fy hun, yn fwy na'i gilydd) fe floeddion ni, fe chwarddon ni ac fe ddawnsion ni, i gyd wrth syllu ar wal orllewinol yr eglwys a'r ddwy groes ar do'r brif eglwys a'r clochdy. Dyma atgof braf am sut gall presenoldeb yr eglwys yn y gymuned fod yn fendith mewn ffyrdd anarferol ac annisgwyl. Ac os oes gan unrhyw glerigwyr sy’n darllen hyn wal eglwys a fyddai’n gwneud y tro ar gyfer gêm o jeu de paume, efallai y gallen nhw roi gwybod i mi?
Mae croeso i chwaraewyr o bob safon, gan gynnwys dechreuwyr, ar y cwrt pêl-law yn Nelson.
Mae yna sesiynau rheolaidd ar ddydd Mawrth a dydd Iau, 6-8pm a cheir y manylion ar Facebook: https://www.facebook.com/groups/559881479199117
Cyhoeddwyd Handball – The Story of Wales’ First National Sport gan Kevin Dicks gan y Lolfa Cyf
Pan nad yw Matthew Chinery yn gweithio fel Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Corff y Cynrychiolwyr, mae bron yn sicr ar gwrt pêl-law neu fives rywle yn y byd.