Gweddi dros Wcráin
Mae'r Esgob June yn gwahodd Esgobaeth Llandaf i gynnau cannwyll am 8pm bob nos i weddïo dros ateb heddychlon i argyfwng Wcráin-Rwsia
Mae'r Esgob June yn gwahodd Esgobaeth Llandaf i gynnau cannwyll am 8pm bob nos i weddïo dros ateb heddychlon i argyfwng Wcráin-Rwsia.
Gweddi dros y rhai sy’n dioddef o ganlyniad i’r rhyfel
Arglwydd Dduw, clyw ein cri dros bawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r rhyfel hwn, dros bawb yn y wlad hon sy’n pryderu dros anwyliaid yn byw yn yr Wcráin dros bawb sydd wedi ffoi o’u mamwlad ac yn hiraethu, dros bawb sydd wedi colli cartrefi ac yn anobeithio am y dyfodol, dros bawb sydd wedi cael eu hanafu’n gorfforol, meddyliol neu’n ysbrydol gan y gwrthdaro, dros bawb sy’n galaru am anwyliaid a laddwyd yn y bomio a’r brwydro.
Arglwydd, gwelwn yn rhy eglur y llanast a’r gost ddynol sydd i’r rhyfel hwn, gofynnwn arnat i amgylchynu pawb sydd dy angen di heddiw â gwybodaeth o’th gariad di-ffael.
Meddala galonnau ac agora lygaid pawb sy’n mynnu parhau â’r ymosodiad milwrol treisgar hwn fel y gallent weld y niwed, y poen a’r creulondeb y maent yn achosi i’w cyd-ddyn, ac o weld y poen, cant eu harwain, trwy dy Ysbryd Glân, i edifarhau ac o edifarhau ceisio’r ffordd sy’n arwain at heddwch, cymod ac adferiad i’r rhan ohono o’r byd, trwy un a alwodd bawb i fyw mewn cytgord a thangnefedd, Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.
Gweddi dros Wcráin
Dduw’r bobloedd ac awdur tangnefedd,
Gweddïwn dros bawb sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro presennol yn Wcráin a'r cyffiniau. Boed i genhedloedd y byd, eu llywodraethau a'u harweinwyr seilio’u penderfyniadau ar dy ddoethineb Di ym mhob peth sy’n creu heddwch.
Dduw cariadlon, cydnabyddwn fod gwrthdaro'n dod â cholled drasig i bawb sy'n rhan ohono, a gweddïwn felly i lygaid a chalonnau gael eu hagor i'r pethau hynny sy'n ein huno yn ein dynoliaeth gyffredin.
Ar yr adeg hon o ofn a thensiwn, gweddïwn dros dy blant annwyl; ar iddynt weld ofn a bygythiadau’n gostwng, i’w galluogi i fyw mewn tangnefedd ac urddas.
Gweddïwn dros adfer yn Wcráin yr heddwch y dyhëwyd amdano gyhyd.
Arglwydd, cydnabyddwn mai braint a chyfrifoldeb i bob un ohonom yw gweddi; gan hynny cynhaliwn yn ein calonnau y sefyllfa hon a’i chyd-destun, a'r dyfodol, gan hyderu yn y cariad a ddangosir i bawb drwy Dy Fab, Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen
Ysgrifennwyd gan y Parch Caroline Downs, Ardal Weinidogaeth y Rhath a Cathays.
Cymorth Cristnogol
Gweddïo dros Wcráin - Cymorth Cristnogol Prayers for Ukraine - Welsh - Christian Aid
Apêl argyfwng Wcrain wedi lansio neithiwr. Diolch o galon ichi am eich cefnogaeth. Dyma’r linc am fwy o fanylion: Ukraine Crisis Appeal - Christian Aid