Diwinyddiaeth Diogelu
Diogelu. Mae’n air sydd, i rai, yn dwyn i gof seminar arall y mae’n rhaid inni ei ddilyn a blwch arall i’w dicio. Yn y pen draw, rydyn ni weithiau’n teimlo bod gennyn ni bethau gwell i’w gwneud nag eistedd drwy gwrs diogelu arall neu ddarllen neges ebost neu erthygl arall ar y pwnc.
Serch hynny, y gwir amdani yw bod diogelu yn gwbl annatod i’n ffydd. Mae’n rhan o’n galwedigaeth ac fe ddylai fod yn ganolog i’n disgyblaeth, ein gweinidogaeth a’n cenhadaeth. A ninnau’n Gristnogion, mae gan bob un ohonon ni rôl bwysig i’w chwarae o ran hybu lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed. Mae rhoi sylw i ffiniau rhyngbersonol ac anghydbwysedd pŵer ymhell o fod yn anghyfleustra: mae’n rhan annatod o ffydd sy’n rhoi bywyd ac sy’n llawn tosturi.
Y gwir amdani yw bod diogelu yn gwbl annatod i’n ffydd.
Efallai y gall deall gwreiddiau diwinyddol a Beiblaidd diogelu ein hysbrydoli a’n herio tuag at weledigaeth newydd o bwysigrwydd meithrin diwylliant o ddiogelwch yn ein heglwysi. Wedi’r cyfan, fel y mae’r diwinydd Krish Kandiah yn ei ddweud, yn y Beibl mae yna “fandad, cymhelliant a chenhadaeth glir i sicrhau bod y rhai sy’n agored i niwed neu a allai fod yn agored i niwed yn cael eu clywed, eu hamddiffyn a’u trin yn briodol, yn effeithiol, yn deg ac yn dosturiol”.
Mae’r sylfaen ddiwinyddol ar gyfer diogelu yn deillio o’n creadigaeth ni ar lun Duw. Mae’r cynsail ar gyfer sut y dylen ni ymwneud â’n gilydd wedi’i osod yn ein hadnabyddiaeth ni o Dduw, a’n gwybodaeth o sut mae Duw yn gweithredu. Ysgrifennodd Martin Buber, y diwinydd Iddewig: “yn y dechrau roedd perthynas”. Mewn geiriau eraill, Duw perthynas yw ac mae cysyniad y Drindod gariadus, Duw yn ‘dri mewn un’, yn pwysleisio hynny i ni. Felly, ein galwedigaeth ni fel Cristnogion yw adlewyrchu’r berthynas sy’n Dduw – cariadus, cadarnhaol, croesawgar, gofalus, ac amddiffynnol.
Wedi’r cyfan, yn Salm 121, mae Duw ei hun yn cael ei ddisgrifio fel ein “ceidwad” a gellir cyfieithu’r gair Hebraeg a ddefnyddir yno (somereka) fel “diogelu”. Yn wir, mae hyd yn oed cysyniad diwinyddol “iachawdwriaeth” yn gysylltiedig â hyn, gan fod gwraidd y gair “iachawdwriaeth” mewn Groeg (soteria) yn awgrymu cadw’n ddiogel. Felly, mae gofal a thosturi wrth wraidd bodolaeth Duw ei hun. O ganlyniad, rydyn ni ein hunain yn cael ein herio i fyw gofal a chariad radicalaidd Duw, gan sicrhau ein bod yn dadlau dros y gostyngedig, y colledig, a’r lleiaf yn ein cymunedau. Fel y mae llyfr y Diarhebion (31:8) yn ein hannog: “dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a’r tlawd”.
Ac, wrth gwrs, mae hyn yn gysylltiedig â’r groes, sy’n sefyll yng nghanol ein ffydd. Drwy gydnabod arswyd a phoen y groes a phresenoldeb Duw yng nghri ingol Iesu, cawn ein gorfodi i herio pob math o gam-drin, trais a dioddef. Mae’r groes, fel y dywed y diwinydd Elaine Brown Crawford, “yn ddatganiad tragwyddol na ddylai pobl gael eu cam-drin”.
Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a’r tlawd.
Yna, mae ing y groes yn arwain at yr atgyfodiad, sy’n cadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i feithrin diogelwch i’r rhai sydd dan fygythiad, gan arwain at drawsnewid, bywyd newydd, a gobaith i unigolion a chymunedau. Ac, yn union fel yr oedd gan yr Iesu atgyfodedig greithiau ar ei gorff, felly rydyn ninnau hefyd yn sefyll ochr yn ochr â’r rhai sy’n dwyn eu creithiau cudd eu hunain, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu hanwybyddu a’u methu gan yr Eglwys yn y gorffennol.
Felly, mae’r eglwysi o dan fandad i ddod yn lleoedd sy’n ymgorffori teyrnas lle mae urddas a gwerth gwaelodol pawb yn cael eu hybu. Gall strwythurau a phrosesau diogelu ymddangos yn anghyfleus ar brydiau, ond maen nhw’n rhan hanfodol o’r mandad hwn. Gallant ddod yn gyfrwng ar gyfer teyrnas Dduw, lle gall plant a phobl sy’n agored i niwed gael cymorth i ffynnu a chael y lleoedd diogel y maen nhw’n eu dymuno ac yn eu haeddu. Gan hynny, mae diogelu nid yn unig wrth wraidd bodolaeth ac ewyllys Duw, ond mae wrth wraidd ein hunaniaeth ni’n hunain fel Cristnogion, yn sail i bopeth a wnawn, popeth rydyn ni’n sefyll drosto, a phopeth ydyn ni. Drwy bwysleisio bod gofal a diogelwch yn ganolog yn ein heglwysi gallwn adeiladu cymunedau croesawgar, gobeithiol, tosturiol o gariad a gras.