Archesgob yn annog y llywodraeth newydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol
Mae Archesgob Cymru yn annog y llywodraeth newydd i fynd i’r afael â “her enfawr” newid hinsawdd, yn ogystal ag adeiladu cymdeithas ddiogel a theg.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, yn dilyn canlyniad yr Etholiad Cyffredinol, mae’r Archesgob Andrew Jones yn cydnabod “cyfrifoldeb aruthrol” y llywodraeth newydd ac yn dweud fod y rhai sydd mewn grym ac mewn gwrthblaid yn ei weddïau.
Neges yr Archesgob Andrew i’r llywodraeth newydd
Mae tasg llywodraethu yn gyfrifoldeb aruthrol. Heddiw, rydym yn gweddïo dros ein weinyddiaeth a’n gwrthblaid newydd. Dyletswydd unrhyw lywodraeth yw hyrwyddo lles pawb, a chefnogi pob un sy'n gweithio tuag at y nod honno.
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn dal ati i weithio ochr yn ochr â phawb sy’n gweithredu yn unol â’n gwerthoedd Cristnogol, sef gwasanaeth dihunan a gofal dros yr anghenus.
Galwn ar ein llywodraeth newydd i dalu sylw i her enbyd newid hinsawdd, i adeiladu dyfodol diogel a chynaliadwy ac i weithio tuag at gymdeithas deg a chyfiawn.
Mae tasg llywodraethu yn gyfrifoldeb aruthrol. Heddiw, rydym yn gweddïo dros ein weinyddiaeth a’n gwrthblaid newydd. Dyletswydd unrhyw lywodraeth yw i hyrwyddo lles pawb, ac i gefnogi pob un sy'n gweithio tuag at y nod hwnnw.