Deled Dy Deyrnas
Oddi wrth Esgob Mary
Gweddi yw curiad y galon sydd yng nghanol ein bywyd cyffredin fel Cristnogion. Mae’n hyfryd i mi ddarganfod sut mae hyn yn cael ei rannu mewn cymaint o amrywiaeth o ffyrdd ar draws ein hesgobaeth. Yn ein Cadeirlan mae gweddi foreol iawn yn cyffwrdd â llawer o fywydau. Roedd ein Deon, Richard yn rhannu heddiw sut y daeth rhai dynion ifanc i mewn i’r gadeirlan yn gynnar iawn heddiw ar ôl noson allan yng Nghaerdydd. Cawsant eu syfrdanu i weld yr adeilad ar agor toc wedi 6yb ac wrth eu bodd yn cael eu croesawu i mewn, ac roeddent yn falch o gael cynnau canhwyllau a chael eiliad i weddïo am bethau sy’n bwysig yn eu bywydau.
Mae dysgu pobl am weddi a darparu cyfleoedd a gofodau gweddïo mewn amrywiaeth o ffyrdd yn rhan mor bwysig o’n disgyblaeth. Mae'r fenter "Deled Dy Deyrnas" yn adnodd sy'n cael ei gynnig i'r eglwys gyfan o 18-28 Mai. Yr wythnos hon mae ap wedi'i lansio i gefnogi'r fenter hon. Os oes gennych ddiddordeb ewch i: www.thykingdomcome.global
Mae hwn yn amser prysur o’r flwyddyn, gyda chymaint o gyfleoedd ar gyfer gweddi a gwasanaeth. Mae wythnos Cymorth Cristnogol yn dechrau wrth gwrs ar y Sul (14-20 Mai). Cymeradwyaf yn wresog eu hadnoddau ar gyfer gweddi a rhoi. Eleni mae'r ffocws ar Malawi, gwlad lle mae prisiau byd-eang cynyddol a newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol. Efallai na fyddwn yn clywed llawer am yr argyfwng bwyd sy’n datblygu sy’n effeithio ar Ddwyrain Affrica ond mae asiantaethau fel Cymorth Cristnogol yn ceisio ein galluogi i ymateb gyda dysg, gweddi, eiriolaeth dros newid byd-eang a haelioni.
Mae hyn oll yn allweddol i’n gwaith o fod yn adeiladwyr Teyrnas Dduw, cynyddu ein gallu i wneud daioni a bod yn rhan o adrodd stori lawen Duw o obaith.