Pregeth yr Esgob Mary
Dduw, gwnaethost ni i ti dy hun ac mae ein calonnau yn aflonydd nes iddynt gael eu gorffwysfa ynot. Amen.
Wel, mae hyn i gyd ychydig yn llethol!
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb yma am eich croeso: ffrindiau sydd wedi teithio’n bell a/neu wedi ildio’r penwythnos i fod yma. I lu o bobl brysur: gwesteion dinesig, ffrindiau eciwmenaidd, arweinwyr ffydd a gwleidyddion sydd wedi gwneud amser i fod yma. Ac wrth gwrs, rwy'n ddyledus i'n Deon y Tra Pharchedig Richard Peers, i David Williamson yn Llys yr Esgob, i’r Canon Mark Preece a'r holl dîm o bobl ryfeddol sydd wedi gweithio mor galed i wneud y dathliad heddiw yn achlysur mor arbennig a llawen. Diolch o waelod calon. Mae'n eithaf llethol gweld fy enw i'n cael ei ychwanegu at y rhestr o Esgobion Llandaf - yn cynnwys cydweithwyr gwych sydd wedi cyflawni'r rôl hon ac sy'n dal yn hynod gefnogol i waith y gymuned Gristnogol yma, a rhestr o arwyr y ffydd gan gynnwys William Morgan, ac mor bell yn ôl â’r Seintiau Dyfrig, Teilo ac Euddogwy - yr estynnodd eu ffydd a'u tystiolaeth ledled Cymru ac ymhellach eto. (Rhaid i mi addo i’m cydweithwyr nad ydw i yma ar gyrch o'r Gogledd - i geisio mynd ag esgyrn Dyfrig Sant yn ôl i Enlli!).
Mae'r saint yn bwysig, maen nhw'n ein hatgoffa ni i gyd o gwmwl mawr y Tystion - yr holl rai byw a’r ymadawedig rydyn ni’n credu eu bod nhw’n gweddïo droson ni ac sy’n arwydd cyson o gariad a gobaith Duw. Mae ar bob un ohonon ni angen anogaeth ar ein siwrnai ffydd, ac rydyn ni'n gweld hyn hefyd yn ein darlleniadau.
Mae'r ddau ddarlleniad rydyn ni wedi'u clywed yn ein gwasanaeth yn siarad am y bywyd y mae Duw bob amser yn ein gwahodd ni iddo. Mae’r darnau hyn yn cael eu darllen gan Gristnogion ledled y byd, ac mae'n wych i mi fod Efengyl heddiw yn cynnwys testun fy nghonffyrmasiwn i. Yn 13 oed pan wnes i fy ymrwymiad fy hunan i Grist, cefais i’r geiriau a glywsom yn yr Efengyl, "Mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd".
Mae ein darlleniadau i gyd yn dweud sut mae Duw yn ein galw ni i fywyd.
Yn y darlleniad Cymraeg clywsom am un o wyrthiau'r eglwys gynnar: Tabitha neu Dorcas – Cristion ffyddlon, oedd yn adnabyddus am ei gwasanaeth mawr i'w chymuned a'i chariad at ei chymdogion. Roedd Tabitha wedi byw bywyd da a bu farw, ac roedd ei chymuned yn galaru. Mae’r apostol Pedr yn gweddïo dros ei chorff a’i galw hi'n ôl yn fyw. Mae ei hadfywiad hi’n dod â llawer o bobl i ffydd.
Mae yna gymaint yma am alwad Duw i fywyd newydd.
Mae'n digwydd yn Jopa – lle enwog yn y Beibl – dyma lle ffodd y proffwyd Jona pan gafodd ei alw gan Dduw i Ninefe ac nad oedd yn awyddus i fynd. Roedd yn hafan, ac oddi yno cafodd ei alw gan Dduw i fod yn ddewr. Ac mae Duw yn ein galw ninnau i fod yn feiddgar ac yn ddewr heddiw.
Dyma'r ddinas hefyd lle cafodd Pedr weledigaeth o gynwysoldeb Duw a'i heriodd i ddysgu pethau newydd fel ei fod yn gallu dweud, "Nid yw Duw yn un i hybu rhaniadau" ac i groesawu'r rhai roedd wedi bod yn anfodlon ymwneud â nhw. Rwy'n falch bod yr Eglwys yng Nghymru yn cymryd camau ymlaen i fod yn fwy cynhwysol, rydyn ni'n gwybod bod gennyn ni ffordd i fynd gyda hyn. Mae dysgu pethau newydd wrth galon ffydd. Rwyf mor falch bod addysg a'n hysgolion anhygoel (gan gynnwys ein hysgolion eglwysig), a'n colegau a'n prifysgolion, wrth galon bywyd yr esgobaeth.
Wrth i Pedr weddïo dros Tabitha mae'n defnyddio geiriau sy'n adleisio'r geiriau Aramaeg a ddywedodd Iesu pan atgyfododd ferch o farwolaeth. Dywedodd Iesu wrth ferch Jairus, "Talitha koum" – "cwyd ferch fach". Meddai Pedr, "Tabitha koum" – “Cwyd Tabitha”. Pan fo Pedr yn gwneud yr hyn a wnaeth Iesu, mae yna fywyd newydd. Mae Duw yn ein galw ni oddi wrth ofn, i weledigaeth ehangach. Mae Duw yn ein galw ni i gyd, o ba gyfnod bynnag o fywyd, i fywyd yn ei holl lawnder, i fod yn llawen. Ein tasg ni, fel Pedr, yw gwneud yr hyn a wnaeth Iesu, i weld gyda'i lygaid a'i ddychymyg e, i siarad geiriau Crist o fywyd, iachâd a gobaith a bod yn arwyddion gweithgar a beiddgar o gariad a gras Iesu i eraill.
Mae ein darlleniad o’r Efengyl hefyd yn ymwneud â galwad Duw i fywyd. Nid yw Iesu yn anwybyddu anawsterau ffydd.
Y cwestiwn mwyaf cyffredin sydd wedi’i ofyn imi hyd yma yw, ‘felly, Esgob Mary sut ydych chi'n mynd i atal dirywiad ac adeiladu'r eglwys? Alla i ddim. Gyda'n gilydd efallai y gallwn ni.
A phan nad yw'n hawdd, gallwn gymryd cysur yn y rhan hon o Efengyl Ioan lle mae Iesu ei hun yn gweld llawer o bobl yn cerdded i ffwrdd oddi wrtho ef a'i ddysgeidiaeth – ac eto i gyd nid dyna ddiwedd y stori. Mae'r Efengyl yn ymwneud â ffydd sy'n dod â bywyd.
Ond roedd ffydd yn ddadleuol hyd yn oed yn nyddiau Iesu. Efallai y byddwn ni weithiau'n dychmygu bod cred yn Nuw wedi mynd yn gymhleth dim ond oherwydd safbwyntiau neu faterion modern. Mae'r Efengyl yn dweud nad oedd cadw'r ffydd byth yn hawdd nac yn ddi-faich. Roedd hi wastad yn gostus.
Clywsom yn y darlleniad heddiw fod rhai oedd wedi gwrando ar ddysgeidiaeth Iesu yn cwyno ac yn grwgnach, hyd yn oed yn digio wrth ei neges. Cwyno, digio ymysg pobl Dduw! Does bosib! Allwn ni ddychmygu hynny'n digwydd yn ein mysg ni!!
Diolch i Dduw fod ein creawdwr yn ein hadnabod mor dda ac yn ein caru. I'n hangen, i’n brwydr ac i’n cyflwr toredig ni dyma Duw yn rhoi rhodd – yr Ysbryd sy'n rhoi bywyd sy'n dangos ffordd wahanol i ni.
Mae Iesu'n galw ei ddilynwyr agosaf at ei gilydd ac yn dangos sut mae hyn yn edrych. Mae'n dangos y parch mwyaf cariadus atyn nhw, gan ofyn, beth sydd arnoch chi ei eisiau? Ydych chi eisiau cerdded i ffwrdd hefyd? Mae am i'w ffrindiau ddilyn mewn cariad ac nid ofn.
Mae Simon Pedr yn ateb, fel Martha hithau ychydig benodau wedyn, gyda chyffes ffydd "at bwy arall gawn ni fynd? Gennyt ti mae geiriau’r bywyd tragwyddol". Mae Pedr wedi dechrau deall rhywbeth dyfnach am ffydd. Nid "i ble’r awn ni?" ond "at bwy?" mae ffydd yn ymwneud â pherthnasoedd.
Yn Iesu, cafodd Pedr fyd newydd yn agor, byd Duw. Mae'n dechrau gweld fel mae Iesu'n gweld, gan ddechrau dysgu caru eraill fel mae Iesu yn eu caru. Mae ei fywyd blaenorol, rhigolaidd yn dod yn ffres, yn llawn syndod a gobaith oherwydd Iesu. Efallai y byddwn ni'n clywed hyn fel galwad i ni, i edrych hefyd ar ein gilydd a'n byd drwy lygaid cariadus, parchus a thyner Iesu.
A dyna rydyn ni'n cael ein galw iddo fel pobl ffydd heddiw. Daeth Iesu i fod fel ni er mwyn i ninnau ddysgu dod yn debyg i Grist hefyd.
A dyma pam mae'r posibilrwydd o weinidogaethu yma yn Llandaf mor gyffrous. Mae'n amser pwysig i allu dangos bod ffydd yn bwysig. Ac mae'n wych bod ein Heglwys yn genedlaethol yn barod i wneud buddsoddiad sylweddol i ymestyn ein gwaith.
Ein her ni yw gweithio'n effeithiol gyda'n gilydd, gan gydnabod rhodd ein hamrywiaeth, bod yn Iesu-ganolog, yn agored i ddysgu pethau newydd a dangos perthynas, cariad a charedigrwydd ym mhopeth wnawn ni.
Mae gan yr Eglwys Gristnogol lais sy'n gallu siarad â bywydau a chymunedau yng nghanol rhyfel, sy'n gallu siarad geiriau o iachâd i'r clwyfedig, gallwn roi croeso i'r gwan a’r unig, noddfa i'r bregus a gallwn siarad, dysgu a gweithredu dros weddnewid ar faterion enfawr megis yr Argyfwng Hinsawdd, y materion ynglŷn ag urddas a gwerth pob bywyd dynol, argyfwng costau byw a masnachu pobl i enwi dim ond rhai o'r materion mawr sy'n ein hwynebu.
Mae Duw yn ein galw ni nawr i fod yn bobl fywiol yn cael eu harwain gan yr ysbryd. Wedi'n hadnewyddu a'n hadfywio yn ein ffydd er mwyn dod â gobaith i eraill. I dyfu'r eglwys fel adnodd ar gyfer gweddi, dysgu, ymgysylltu a gobeithio.
Rwy'n llawn cyffro ar yr alwad i fod yn arweinydd yn yr Eglwys yng Nghymru ymysg cymuned fywiog o leisiau ffydd yma. Mae’n wych teimlo cysylltiad â gwahanol rannau o'n heglwys a'n cymdeithas. Mae gweithio mewn cyfeillgarwch ag eraill ar bob lefel mor bwysig, mewn ardaloedd gweinidogaethu, ledled ein hesgobaeth a'r Eglwys yng Nghymru, gyda'n partneriaid a'n cyfeillion eciwmenaidd a chyda chymunedau ffydd ehangach a chyda phawb sy'n ceisio gweithio dros obaith cyfiawnder, urddas a heddwch i'r holl greadigaeth. Mae cymaint o botensial inni adeiladu arno ac ymestyn y gwaith a ddechreuodd yma ganrifoedd lawer yn ôl.
Gydag Esgobaeth Llandaf mi wna i bopeth o fewn fy ngallu i'n galluogi i gydweithio er mwyn parhau i ddangos bod ffydd yn bwysig, bod gennyn ni stori lawen i'w hadrodd ac i adeiladu’n gallu i wneud daioni.
Croeso i Esgobaeth Llandaf @EsgobMary! Bydded i'ch gweinidogaeth gael ei llenwi â bendithion, doethineb, a helaeth ras wrth i chi arwain a meithrin eich praidd. #SulBugailDa @LlandafDio
— Archbishop Andrew John (@ArchbishopWales) April 30, 2023
Gweddïwn
Dduw sy’n dod â bywyd,
Diolch dy fod ti’n galw pob un ohonom ni a’th fod yn rhoi inni mewn ffyrdd arbennig i fendithio dy waith creu.
Cynorthwya bob un ohonom i glywed dy alwad, i adnabod ein doniau ac i'w defnyddio'n ddoeth i ddod â gobaith ac iachâd i eraill.
Amen.