Esgob Llandaf yn ymddeol
Ar ôl pum mlynedd o wasanaeth fel Esgob Llandaf, mae’r Gwir Barchedig June Osborne yn ymddeol ddydd Mercher 30 Tachwedd.
Mewn neges i’r esgobaeth, dywedodd yr Esgob June, “Bu’n anrhydedd cael gwasanaethu fel Esgob Llandaf. Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr a’m ffrindiau gwych sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth ac yn gefn yn gyson. Diolch am adael imi fod yn rhan o lunio Llandaf. Mae wedi bod yn gymaint o fraint ac rydych chi wedi bod yn fendith mor nerthol i mi.”
Cyhoeddodd yr Esgob June ei bwriad i ymddeol ym mis Medi wedi 47 mlynedd yn y weinidogaeth. Dywedodd yr Esgob June ei bod wedi’i synnu gan sylwadau ei bod yn ymddeol yn gynnar, “Mae’n ymddangos bod fy mhenderfyniad i ymddeol ym mis Rhagfyr wedi peri syndod i lawer ohonoch. Yn wir, dwi wedi cael llawer o negeseuon yn sôn fy mod i’n ‘ymddeol yn gynnar’. Dwi ddim yn siŵr y byddai unrhyw un o’r clerigwyr yma yn meddwl bod ymddeol yn 69 a hanner yn mynd yn ‘gynnar’!”
Diolch am adael imi fod yn rhan o lunio Llandaf
Wrth egluro’i phenderfyniad i ymddeol, dywedodd yr Esgob June, “Byddwn i wedi gorfod ymddeol fis Mehefin nesaf fan bellaf. O gofio hynny, roeddwn i eisiau dewis yr amser gorau i’r Esgobaeth. Roedd yna ddau ffactor pendant wrth imi wneud y penderfyniad. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd £100m yn cael ei ryddhau ar gyfer efengylu a thwf eglwysig a dylai’r penderfyniadau sydd ynghlwm â gwario rhan o’r arian hwnnw yn Llandaf fod yn nwylo fy olynydd i. Nhw fydd yn gyfrifol am hyn ac felly nhw ddylai benderfynu sut mae’r arian i gael ei wario.
“Hefyd, dwi am iddyn nhw gael yr uwch dîm presennol yn gyfan wrth iddyn nhw ymgymryd â’r cyfrifoldeb. Un o’r rhoddion mwyaf sydd gennym i’w cynnig i’r esgob nesaf yw sgiliau a chymeriad fy nghydweithwyr uwch, a’r ymdeimlad o weithio, trwy gytuno ac anghytuno, fel tîm hynod effeithiol a hynod ymroddgar.”
Bydd yr esgobaeth yn dal â lle arbennig yng nghalon yr Esgob June a fydd yn cadw dyfodol yr esgobaeth yn ei gweddïau, “Bydd yr esgobaeth bob amser yn fy ngweddïau a byddaf yn annog yr esgob nesaf yn ei flaen. Mae gennyn ni gyfeiriad cryf a gobeithio y bydd yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn dal i ffynnu a datblygu. Gobeithio y bydd ein harweinwyr lleyg gwych yn dal i deimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud mor dda. Gobeithio y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn dysgu sut i feithrin ei harweinyddiaeth hi ei hun yn y dyfodol. Gobeithio y bydd plannu eglwysi, fel rhan o arallgyfeirio bywyd eglwysig, yn dal i gyffroi pobl a bod pawb yn ymddiried yn yr ifanc i blannu eglwysi newydd mewn ffordd fydd yn denu eu cenhedlaeth nhw.”
Pan ofynnwyd am ei chynlluniau ar gyfer ymddeol, dywedodd yr Esgob June ei bod yn edrych ymlaen at addoli wrth ymyl ei gŵr Paul yn yr eglwys, “Mae un cynllun mawr gen i, sef eistedd wrth ymyl fy ngŵr i Paul yn yr eglwys. Mae fy ngweinidogaeth i wastad wedi ei adael e’n eistedd ar ei ben ei hun neu’n gofalu am y plant ac fe fydd addoli ochr yn ochr yn hyfrydwch newydd inni.”
Bydd gwasanaeth ffarwelio’r Esgob June yn cael ei gynnal am 6pm yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.