Eglwys yn cymeradwyo gwasanaeth bendithio ar gyfer partneriaethau o’r un rhyw
Bydd cyplau o’r un rhyw yn gallu derbyn bendith ar eu partneriaeth sifil neu briodas yn eglwysi yr Eglwys yng Nghymru am y tro cyntaf ar ôl i ddeddfwriaeth newydd gael ei phasio heddiw (Medi 6).
Cymeradwywyd Bil i awdurdodi gwasanaeth o fendith gan aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yn ei gyfarfod. Fe’i pasiwyd gan y mwyafrif angenrheidiol o ddwy ran o dair ym mhob urdd o’r tri – Esgobion, clerigion a lleygwyr.
Defnyddir y gwasanaeth yn arbrofol am bum mlynedd a mater i glerigion unigol fydd penderfynu a ydynt am ei arwain ai peidio.
Eglwys yn cymeradwyo gwasanaeth bendithio ar gyfer partneriaethau o’r un rhyw - The Church in Wales