Torri Bara gyda'ch AS newydd
‘A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni’, Hebreaid 10:25
Yn ystod Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, lansiwyd adnodd newydd yn y Gymraeg gan Cymorth Cristnogol, sef ‘Torri Bara gyda’ch Aelod Seneddol Newydd’.
Wrth i’n Haelodau Seneddol newydd setlo wedi’r Etholiad Cyffredinol, mae Cymorth Cristnogol yn galw arnom i fagu perthynas ac i gychwyn sgwrsio gyda’n cynrychiolwyr Llywodraeth DU.
Gyda newid mewn Llywodraeth, daw’r cyfle i ni roi ein ffydd ar waith ac annog y rhai mewn sefyllfaoedd o rym i sicrhau bod materion cyfiawnder byd-eang ar blaen eu hagenda.
Mae’r adnodd newydd (hefyd ar gael yn Saesneg ‘Breaking Bread with your new MP’) yn ganllaw ar groesawu’r Aelod Seneddol newydd i’ch eglwys - p’un ai’n fore coffi neu ginio cawl. Yn yr Eisteddfod arwyddodd yr Esgob Mary lythyr at ei AS newydd.
Yn ogystal â’r adnodd ‘Torri Bara’, mae yna hefyd adnoddau pellach i ganfod mwy am yr hyn y mai Cymorth Cristnogol yn galw'r Llywodraeth DG newydd i’w gwneud megis tair taflen gwybodaeth ar yr angen am heddwch, cyfiawnder dyled a chyfiawnder hinsawdd. Mae hefyd gwrs ‘Taclo Tlodi’ er mwyn helpu Cristnogion i ddeall materion tlodi a chyfiawnder a sut i siarad gyda cynrychiolwyr gwleidyddol amdanynt.
Ond yn ôl at Torri Bara. Trwy wahodd yr Aelod Seneddol sydd newydd ei ethol i’ch eglwys i dorri bara a siarad am dlodi gallech sbarduno perthynas ar gyfer trechu tlodi a allai bara am flynyddoedd i ddod.
Mae torri bara yn symbol o groeso, lletygarwch, gofal, didwylledd a heddwch. Wrth dorri bara, rydym yn adeiladu ac yn cryfhau ein perthynas ag eraill. Gall y prydau symlaf - hyd yn oed paned de a bisged - helpu i feithrin perthynas.
Mae’r weithred gyffredin a’r symbolaeth o rannu bara gyda dieithriaid yn amlwg mewn sawl rhan o’r Beibl. Byddai Iesu’n aml yn rhannu bara gyda’i gymdogion a dod yn gyfaill iddynt - ac fel gweithred ganolog y Swper Olaf, mae torri bara yn llawn arwyddocâd arbennig i Gristnogion.
I ganfod mwy, ewch i wefan Cymorth Cristnogol <https://www.christianaid.org.uk/get-involved/campaigns> a chliciwch ar ‘Get Involved’, wedyn ‘Campaigns’