Hwb ariannol i brosiectau ffydd yr ifanc
Mae dwy o eglwysi’r De wedi cael arian i annog pobl ifanc i ddatblygu eu ffydd Gristnogol.
Cafodd Ardal Weinidogaethu De Cwm Cynon £500 i brynu Beiblau i bobl ifanc eu defnyddio yn ystod cwrs Alffa i Bobl Ifanc. Yng Nghaerdydd, cafodd Eglwys Sant Marc yn y Gabalfa £785 i weithio gyda Chwmni Theatr Saltmine i gynnal dramâu Beiblaidd addas i'r teulu ar gyfer ysgolion lleol.
Nod y ddau brosiect yw ennyn diddordeb pobl ifanc yn y ffydd Gristnogol a'u cyflwyno i neges Iesu Grist sy'n newid bywydau.
Mae Ardal Weinidogaethu Cwm Cynon wedi lansio cwrs Alffa i Bobl Ifanc yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr. Amser cinio bob dydd Iau am hanner awr mae 30 o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i ofyn cwestiynau am fywyd, ffydd ac ystyr. Mae Arweinydd yr Ardal Weinidogaethu, y Parchedig Peter Lewis, yn credu bod annog pobl ifanc i ofyn cwestiynau anodd am y byd o’u cwmpas yn gallu eu helpu i ddeall sut y gall ffydd gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.
"Rydyn ni'n siarad am sut mae deall byd lle mae pethau drwg yn digwydd a sut gallai Duw ein hysbrydoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y gymuned leol," meddai'r Parchedig Peter. "Roedden ni am i'r bobl ifanc gael Beibl y gallen nhw ei ddefnyddio gartref er mwyn iddyn nhw barhau i archwilio ffydd.
"Fe wnaethon ni gais i'r Gronfa Genhadaeth i helpu’n Hardal Weinidogaethu i brynu Beiblau sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc er mwyn iddyn nhw eu defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Mae gan y Beiblau hyn le i ysgrifennu myfyrdodau neu dynnu mân luniau tra maen nhw'n darllen darnau. Doedden ni ddim am i bobl roi'r gorau i feddwl am y cwestiynau y buon ni’n eu trafod yn Alffa i’r Ifanc - rydyn ni am iddyn nhw ddarganfod neges yr Efengyl o gariad a gobaith ac ystyried sut gall Iesu gyfoethogi eu bywydau."
Dod â neges Iesu sy’n newid bywydau i bobl ifanc drwy adrodd straeon sydd wrth wraidd prosiect theatr newydd eglwys Sant Marc. Ynghyd ag Eglwys St Phillip y Nhremorfa, byddan nhw’n gweithio gyda Chwmni Theatr Saltmine i gynnal cyfres o gynyrchiadau difyr wedi'u hysbrydoli gan fywyd yr Iesu. Gwahoddir ysgolion lleol i ddod i glywed straeon am ffydd, gobaith a chariad.
Dywedodd Becky Heaps, Bugail Plant a Theuluoedd, "Rŷn ni'n falch iawn ein bod yn gweithio gyda Saltmine i gyflwyno Iesu i blant mewn ffordd hwyliog a deniadol. Bydd plant yn dod i ffwrdd gyda gwell dealltwriaeth o bwy yw Iesu a bydd ganddyn nhw gysylltiad â'r eglwys. Mae'n bwysig i ni fod plant yn gwybod pwy yw Iesu a sut gall gael dylanwad cadarnhaol ar eu lles ysbrydol ac emosiynol. Gobeithio y byddan nhw'n dod i'r eglwys gyda'u teulu ac yn darganfod cymuned eglwysig gyfeillgar a chefnogol."
Anogir Ardaloedd Gweinidogaethu i wneud cais i Gronfa Cenhadaeth yr Esgobaeth sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer prosiectau cymwys.