Eglwys yn Helpu Ledaenu Llawenydd y Nadolig yng Nghwm Cynon
Ers 2015 mae Eglwys Sain Ffagan, Aberdâr wedi bod yn estyn allan at y rhai a fyddai ar eu pen eu hunain ar Ddydd Nadolig i gynnig bwyd, hwyl a chyfeillgarwch ar Ddydd Nadolig. Maen nhw’n falch iawn o fod yn ôl eto ar gyfer Nadolig 2023 gan wneud yn siŵr nad oes rhaid i neb dreulio’r Nadolig ar ei ben ei hun.
Gwahoddir pobl o bob rhan o Gwm Cynon a fyddai o bosibl yn treulio Dydd Nadolig ar eu pennau eu hunain i ymuno â'r dathliadau yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yn Aberdâr.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae angen blaendal o £5 y gellir ei ddychwelyd i sicrhau lle. Ar ôl cyrraedd bydd gwesteion yn cael lluniaeth ac adloniant. Bydd cinio Nadolig poeth yn cael ei weini tua 1pm ac wedi hynny byddwn yn ymlacio ac yn gwylio neges Nadolig y Brenin.
Maen nhw’n apelio am yrwyr a fyddai’n gallu cludo pobl i’r lleoliad ac oddi yno ar y diwrnod, gan ddefnyddio eu cerbydau eu hunain. Maent hefyd angen gwirfoddolwyr cyffredinol i gyflawni amrywiaeth o rolau o lapio anrhegion a phlicio llysiau i gyfarfod a chyfarch ar y diwrnod.
Y llynedd dywedodd mynychwr, “Roeddwn i wrth fy modd yn sgwrsio â phawb, clywed eu straeon a gweld eu hwynebau yn gwenu.”
Dywedodd rhywun arall, “Diolch yn fawr iawn am y gwaith rydych chi i gyd yn ei wneud - mae cymaint o bobl yn ei werthfawrogi, gan gynnwys fi. Dduw bendithia chi gyd.”
Dywed Fr Richard Green, offeiriad ffocal yn Sain Ffagan ac Arweinydd Ardal Weinidogaeth o Ardal Weinidogaeth Cynon Uchaf, “Mae cwmni adeg y Nadolig wedi bod yn rhedeg mewn rhyw ffurf yn Aberdâr ers 2015. Mae’r cysyniad yn un syml: pobl sydd fel arall ar eu pen eu hunain ar Gwahoddir Dydd Nadolig i ymuno am ddiwrnod o fwyd, hwyl ac adloniant.
Mae’n ddigwyddiad sy’n dod â phobl ynghyd ac yn cynrychioli gwir ystyr y Nadolig. Mae’r gwirfoddolwyr – y mae llawer ohonynt hefyd ar eu pen eu hunain – yn cael gwir foddhad o ddarparu diwrnod cofiadwy i eraill.
Mae'r gwesteion yn mwynhau amser gwych yn rhannu'r diwrnod arbennig hwn gydag eraill. Mae llawer yn dweud mai dyma’r Diwrnod Nadolig gorau maen nhw erioed wedi’i gael!”
Os hoffech fynychu’r digwyddiad, neu wirfoddoli mae manylion llawn ar gael ar wefan Sain Ffagan.