Yr Eglwys i Gynnal Cynhadledd Hinsawdd i Gymru Gyfan – Cyhoeddiad yr Archesgob
Iechyd dyfrffyrdd a thirwedd Cymru fydd canolbwynt cynhadledd hinsawdd i Gymru gyfan a drefnir gan yr Eglwys yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Bydd y digwyddiad deuddydd yn dod ag academyddion, ymgyrchwyr, grwpiau ymgyrchu a rhanddeiliaid at ei gilydd i drafod effaith diwydiant, amaethyddiaeth a chartrefi ar yr amgylchedd.
Cyhoeddwyd y gynhadledd gan Archesgob Cymru, Andrew John, yn ei anerchiad i aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys ar ddechrau ei gyfarfod deuddydd heddiw (5 Medi).
Dywedodd bod gan Gymru “y cyfle i ail-ddylunio ein dull o ymwneud ag ynni, dŵr, defnydd tir a chynaliadwyedd y cyflenwad bwyd ac ar lefel leol” a bod yr Eglwys yng Nghymru mewn sefyllfa dda i ddwyn pobl at ei gilydd mewn “sgwrs a phartneriaeth dda”.
Dywedodd yr Archesgob Andrew bod cynlluniau ar y gweill ar gyfer “sgwrs ddeallus a didwyll am un o’r heriau mwyaf yr ydym yn ei hwynebu”. Dywedodd y bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl allweddol wrando ar ei gilydd a “dod o hyd i nid yn unig iaith gyffredin ond hefyd gytuno ar yr egwyddorion eang sy’n rhoi cyfle i bolisi a chyfarwyddyd ddod i’r amlwg.”
Swyddogaeth yr Eglwys, meddai, yw dwyn pobl at ei gilydd: “Rydym wedi gweld bod yn rhaid i eglwys olygu llawer mwy na gweddïau ac ymgynnull ar y Sul, y gall ein hymrwymiad i gyfiawnder, i’r greadigaeth, i’r tlawd ein harwain i fannau anghyfforddus... Nid ni yw’r arbenigwyr ond rydym yn gwybod sut mae cyfeirio da yn edrych a beth sydd ei angen i bobl ffynnu. Ni ddylid fyth ddibrisio ein gallu i ddwyn pobl at ei gilydd mewn sgwrs dda a phartneriaeth.”
Bydd y gynhadledd yn digwydd yn ail hanner 2024. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn nes at yr amser.
Yn y cyfamser, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gwneud cynnydd cynnar da yn ei ymateb i’r argyfwng hinsawdd, dywedodd yr Archesgob Andrew. “Y mae pethau, wrth gwrs, i’w dathlu: y mae yn awr yn ddwy flynedd ers i ni stopio buddsoddi mewn tanwydd ffosil - llwyddiant mawr a gweithred gyhoeddus. Nid oedd y cam hwnnw yn ymddangos yn debygol ychydig flynyddoedd yn ôl. Rydym wedi gosod nodau uchelgeisiol ac wedi dangos cynnydd cynnar da. Pleidleisiodd y Corff Llywodraethol hefyd dros ein huchelgais sero net. Mae gennym Gynllun 10 Pwynt i’n sbarduno i weithredu a chyfrifiannell carbon, yr Offeryn Ôl Troed Ynni, i arwain ein cynlluniau.”
Galwodd ar yr eglwysi i ddefnyddio’r Offeryn Ôl Troed Ynni, gan eu herio i’w gwblhau erbyn y Nadolig. “Mae hyn yn gam hawdd i’r eglwysi ei gymryd ond yn un allweddol gan ei fod yn dangos i ni ble’r ydym ni a sut y gallwn gyrraedd y man lle’r ydym am fod,” dywedodd.
Roedd y blaenoriaethau eraill i’r Eglwys yng Nghymru yn cynnwys mwy o gefnogaeth i’w chenhadaeth a gweinidogaeth, dywedodd yr Archesgob. Mae’r Gronfa Dwf ar gael ar gyfer efengylu a disgwylir amrywiaeth eang o geisiadau, o ddigwyddiadau bywyd fel bedyddio, priodasau ac angladdau i arloesi a phlannu eglwysi.
Roedd yr heriau penodol yn cynnwys recriwtio’r bobl gywir a chefnogi’r gweithlu sy’n bodoli. “Mae’n ymddangos bod strategaeth daleithiol ar gyfer recriwtio yn allweddol os ydym am ddod o hyd i’r nifer o arloeswyr, gweinidogion lleyg trwyddedig ac eraill i weithio gyda ni,” dywedodd yr Archesgob, gan ychwanegu, ar yr un pryd bod ar gydweithwyr angen “cefnogaeth anferth” yn y weinidogaeth y maent yn ei chynnig. “Mae’r hyn yr ydym yn gofyn amdano ganddynt yn sylweddol. Mae’r cyfnod pan oedd Cristnogaeth yn ffynnu wedi hen fynd. Mae arnom angen agwedd llai adweithiol gyda mwy o ffocws a’i mynegi’n dda i weinidogaeth.”
Un maes i’w ddatblygu oedd gwaith tîm, fel y dangoswyd mewn Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth. “Maent yn caniatáu i ni wneud gyda’n gilydd yr hyn na allem ei wneud ar wahân,” dywedodd.
Roedd Grŵp Blaenoriaethau Gwaith wedi cael ei sefydlu i edrych ar strwythur llywodraethu’r Eglwys a’r posibilrwydd o ddwyn y rhannau strategol ac ariannol at ei gilydd. Roedd hefyd yn edrych ar y ffactorau oedd yn gwneud i’r Ardaloedd Gweinidogaeth ffynnu. “Mae’n dod yn amlwg bod ychydig o egwyddorion syml ond hanfodol yn allweddol: iechyd ysbrydol yr eglwysi, trefniadau llywodraethu syml, perthnasau cydweithredol allweddol yn yr Ardal Weinidogaeth ac ymrwymiad rhagweithiol cryf i ymgysylltu gyda’r ardal,” dywedodd. Byddai’r canlyniadau’n cael eu rhannu pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau.
Datblygiad arall oedd “cymuned ddysgu” i wrando ar enghreifftiau o gynlluniau llwyddiannus sy’n digwydd mewn cadeirlannau, eglwysi gwledig a threfol a’u rhannu. Byddai’r Gymuned Ddysgu Esgobaethol/Taleithiol yn cyfarfod yn hwyrach eleni. “Nid yw ein hanes bob amser wedi ei nodweddu gan gystadleuaeth iach gyda rhannu a didwylledd hael. Dylai diwylliant newydd o gefnogaeth i’n gilydd ar draws yr esgobaethau ddod yn normal ac nid yn eithriadol,” dywedodd yr Archesgob Andrew.
Daeth i ben trwy ddweud, “Yr hyn sy’n ganolog i’n bywyd yw cred bod Duw yn ein caru ni a’r byd hwn, nad yw perthynas â Duw yn bosibl heblaw pan fydd wedi ei hagor gan Iesu Grist. Mae popeth arall yn llifo o’r argyhoeddiad hwn.”
Mae anerchiad llawn yr Archesgob a ffotograff ohono ynghlwm.
Bydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru, Casnewydd, ar 5-6 Medi. Mae mwy o wybodaeth yma https://www.churchinwales.org.uk/en/news-and-events/governing-body-meeting-september-5-6/
Mae croeso i ohebwyr a chriwiau ffilmio fod yn bresennol. Bydd y cyfarfod hefyd yn cael ei ffrydio yn fyw trwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn www.eglwysyngnghymru.org.uk a’r sianel YouTube https://www.youtube.com/user/churchinwales