Eglwysi ledled Cymru yn ymgynnull y tu allan i Senedd Cymru i #GweddïoAmHeddwch yn y Dwyrain Canol
Wythnos yma (ar ddydd Mercher) 24 Medi 2025), daeth arweinwyr eglwysi, aelodau eglwysi a cynrychiolwyr o fudiadau dyngarol Cymorth Cristnogol, Embrace the Middle East a CAFOD yng Nghymru ynghyd y tu allan i Senedd Cymru mewn ymateb i'r argyfwng sy’n gwaethygu yn Gaza a’r Llain Gorllewinol.

Ymhlith y rhai a gymerodd ran mewn moment o weddi gyhoeddus y tu allan i’r Senedd oedd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru; Y Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru; Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn; Elinor Wyn Reynolds, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg; Y Parchedig Andrew Charlesworth, cyd-Gadeirydd Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd; yr Hybarch Mones Farah, Esgobaeth Tyddewi; a Katie Lewis, Embrace the Middle East. Ar ôl amser o weddi, bu’r rhai a oedd wedi ymgynnull yn cyd-sefyll mewn distawrwydd gan ddal Llinell Goch dros Gaza, a gwelwyd nifer o Aelodau Seneddol Cymru yn ymuno.
Dywedodd Mari McNeill, Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru: “Rydym yn dyst i’r trais dinistriol sy’n gwaethygu yn Gaza a’r Llain Orllewinol ac mae lleisiau arweinwyr eglwysig Palestinaidd dros undod a terfyn ar y gwrthdaro yn atseinio ar draws yr eglwysi yn fyd-eang, gan ein hannog i ymateb yn glir a chadarn a gyda thosturi.
“Credwn fod tystiolaeth Gristnogol weladwy ac unedig yn y foment hynod ddifrifol hon yn angenrheidiol —tystiolaeth sydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad cytûn dros heddwch, cymod, ac urddas i holl bobl Duw.
“Rydym yn gobeithio y bydd cynifer o eglwysi â phosibl ledled Cymru yn parhau i ymuno mewn gweddi a gweithred. Credwn, trwy sefyll gyda’n gilydd, mewn undod â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan drais ac anghyfiawnder, y gallwn atgyfnerthu’r alwad am gadoediad parhaol ac uniongyrchol, rhyddhau’r gwystlon, mynediad llawn i gymorth dyngarol, ac am broses heddwch cyfiawn ac ystyrlon.”
Roedd y foment tu allan i'r Senedd yn dilyn Diwrnod Heddwch y Byd y CU (dydd Sul 21 Medi) a’r alwad fyd-eang i weddi gan Gyngor Eglwysi’r Byd, yn galw ar eglwysi i weddïo ac i gyd-sefyll mewn tystiolaeth gyhoeddus o undod â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y trais yn y Dwyrain Canol, gan gynnwys Cristnogion Palesteinaidd. Trefnwyd y cynlluniau hyn mewn cydweithrediad agos rhwng asiantaethau Cristnogol Prydeinig gan gynnwys Cymorth Cristnogol, CAFOD, Tearfund, Embrace the Middle East, Amos Trust, Sabeel-Kairos, Y Crynwyr ym Mhrydain, All We Can, Reconciling Leaders Network, Difference, Friends of the Holy Land, USPG, a’r Centre for Missionaries from the Majority World.
Ymhlith yr enwadau a rhwydweithiau eglwysig yn ymuno â’r alwad i weddi a thystiolaeth gyhoeddus yng Nghymru oedd Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb Bedyddwyr Cymru, Synod Cymru yr Eglwys Fethodistaidd, a Synod Cymru yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig.
Mae Cymorth Cristnogol Cymru yn galw ar eglwysi lleol ledled Cymru i lunio Llinell Goch dros Gaza, gan fynegi ein hundod â’n cymdogion yn Gaza a galw am weithredu mwy pendant. Ynghyd â’r alwad i weddi a’r weithred Llinell Goch, mae gan Cymorth Cristnogol amrywiaeth o adnoddau i helpu eglwysi i ymuno â’r alwad am heddwch cyfiawn. Mae’r rhain yn cynnwys tri ffilm sy’n cynnwys lleisiau o Balesteina dan feddiant, ynghyd ag adnoddau i eglwysi yn Gymraeg a Saesneg, sydd ar gael trwy ymgyrch Heddwch Cyfiawn.
Anogodd Dr Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, wrth eglwysi i archwilio’r adnoddau Heddwch Cyfiawn newydd :“Eleni yng Nghymru rydym yn nodi 100 mlynedd ers i’r eglwysi uno o dan Apêl Heddwch Arweinwyr Eglwysi Cymru 1925 i America. Roedd yn ddatganiad dewr a chadarn yn erbyn gwrthdaro, gan danlinellu’r alwad Feiblaidd, wedi’i seilio ar ddysgeidiaeth Crist, sy’n galw ar ei ddilynwyr i fod yn wneuthurwyr heddwch unedig.
“Mae’r alwad hon i weddi a thystiolaeth, ynghyd ag adnoddau newydd Heddwch Cyfiawn Cymorth Cristnogol yn gyfle i ni gael ein harwain gan y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ryfel a thrais yn y Dwyrain Canol heddiw. Gadewch i ni fyfyrio ar ein hymateb yn 2025 i alwad Crist sy’n ein galw i undod, cyfiawnder, tosturi ac i heddwch, gan wreiddio hynny yn fwyfwy yng nghymunedau ac eglwysi Cymru.”

Gweddi dros y Tir Sanctaidd
Dad Grasol, daeth dy Fab bendigedig, Iesu Grist o’r nefoedd i fod yn fara’r gwirionedd sy’n rhoi bywyd i’r byd:
Yn dy drugaredd, dyro fwyd i bawb yn Gaza a thu hwnt sy’n dioddef o newyn er mwyn iddynt dderbyn bara materol i fwydo eu cyrff a bara nefol i gynnal eu heneidiau.
Trwy rym dy Ysbryd, tyrd â’r rhyfel creulon hwn i ben ar frys gyda rhyddhad i’r holl garcharorion, gofal meddygol i’r clwyfedig, cysur i’r rhai sydd wedi colli anwyliaid ac agor llwybr i greu heddwch cyfiawn a pharhaol yma yn y wlad lle bu dy Fab, ein Harglwydd Iesu Grist ei hun yn gweini yn ystod ei fywyd daearol.
Yr hwn sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Sanctaidd, un Duw, yn awr a hyd byth.
Amen
Y Parchedicaf Ddr. Hosam E. Naoum, Archesgob Anglicanaidd yn Jerwsalem, Awst 2025