Gŵyl Angylion y Bont-faen
Mae Eglwys y Groes Sanctaidd yn y Bont-faen yn cynnal gŵyl angylion yn ystod yr Adfent. Mae’r arddangosfa hardd a thawel yn canolbwyntio ar yr angylion trawiadol a ddyfeisiwyd ac a ddyluniwyd sawl blwyddyn yn ôl gan yr artist Anne-Marie Kers ac a wnaed gyda chymorth cyd-artistiaid Claire Carrington, Dawn Wesselby a chefnogaeth gan grwpiau cymunedol lleol o Eglwys Sant Wulfram yn Grantham.
Aeth Helen Whyment, aelod o gynulleidfa’r Groes Sanctaidd, ati i olrhain yr angylion – a oedd wedi’u storio yn Eglwys Gadeiriol Sheffield – a threfnu iddynt gael eu cludo i’r Bont-faen.
Mae Helen yn esbonio “Pan gysylltais i â Chadeirlan Sheffield, roedden nhw ar fin cael gwared arnyn nhw. Cymerais gambl heb wybod a oedd modd eu defnyddio ai peidio a chael eu cludo i'r Groes Sanctaidd. Roedden nhw mewn cyflwr truenus! Roedd yr adenydd wedi'u chwalu a'u rhwygo a'r cyrff wedi'u difetha gan lwydni a dirywiad cyffredinol. Daeth aelodau’r eglwys a phobl leol y Bont-faen at ei gilydd i’w hadfer a nawr maen nhw nôl ‘yn eu llawn ogoniant.”
Ac mae grwpiau cymunedol lleol y Bont-faen hefyd wedi ymuno yn yr ysbryd ac wedi bod yn brysur yn crefftio eu angel eu hunain i fynd gyda'r angylion mwy na bywyd i wneud arddangosfa anhygoel yn y Groes Sanctaidd.
Meddai'r Parchedig Duncan Ballard, Arweinydd Ardal Weinidogaeth, ‘Pan awgrymais angylion ar gyfer arddangosfa eleni, doeddwn i byth yn disgwyl yr arddangosfa wych hon!
Mae pobl y Bont-faen wir wedi gwneud pob ymdrech. Os oes gennych chi ychydig funudau sbâr ar adeg hynod o brysur y flwyddyn, beth am alw i mewn i’r eglwys a mwynhau’r harddwch a’r llonyddwch wrth i’r angylion ddod â’u neges o obaith a chariad atoch i bawb yn y gymuned.”
Os hoffech ddod i gwrdd â’r angylion, mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac ar agor tan 6 Ionawr 2025. Mae gwasanaethau Eglwys y Groes Sanctaidd dros gyfnod yr Adfent yn cynnwys:
20 Rhagfyr – Cyngerdd Côr Meibion y Bont-faen am 7pm
24 Rhagfyr – Gwasanaeth Crib Plant am 4pm
24 Rhagfyr – Offeren hanner nos am 11pm
25 Rhagfyr – Cymun Nadolig am 11yb
29 Rhagfyr – Gwasanaeth Cymun Angylion o Deyrnas Gogoniant am 11am
5 Ionawr 2025 – Caneuon mawl y Nadolig am 6pm