"Dewi, Nawddsant Cymru, yn sant ar gyfer ein hoes ni heddiw.”
Y Parchedig Dyfrig Lloyd, ein Swyddog Iaith Gymraeg ac Eciwmeniaeth a Deon Ardal Deoniaeth Caerdydd, yn myfyrio ar Dewi Sant.
Hoffwn awgrymu bod Dewi, Nawddsant Cymru, yn sant ar gyfer ein hoes ni heddiw. Er iddo fyw ‘nôl yn y 6ed Ganrif, eto mae rhywbeth yn hynod o gyfoes ac yn heriol am ei neges sy’n cyffwrdd yn ddwfn â’n cyd-destun ni heddiw, bron i fil pum cant o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Un o’r pethau dydyn ni ddim bod tro yn ei werthfawrogi am Oes y Seintiau, pan wreiddiwyd y ffydd Gristionogol yn ein gwald, yw mai cyfnod cythryblus a pheryglus ydoedd. Roedd ymadawiad y Rhufeiniaid â Phrydain yn y flwyddyn 410 ar ôl bod mewn grym am bedwar cant o flynyddoedd wedi gadael y wlad yn rhanedig ac yn ddiamddiffyn. Fel canlyniad, dechreuodd y llwythau oddi mewn iddi gecru ac ymladd ymhlith ei gilydd am rym a manteisiodd y Gwyddelod a’r Sacsoniaid ar yr anhrefn i’w dibynnon eu hunain. Roedd yn oes ansefydlog gyda phobl yn byw mewn ofn trais, heb fawr o heddwch a heb fawr o obaith. Wrth ddarllen rhwng y llinellau ym Muchedd Dewi gan Rhigyfrach, fe welwn gysgodion o’r rhaniadau, y bygythiadau a’r anrhefn a oedd yn plagio’r wlad.
Mae’n rhyfedd i feddwl mai mewn cyfnod mor gythryblus ac anodd fel hwn y gwir wreiddiwyd yr efengyl yng Nghymru. Do, roedd gan y seintiau ffydd gadarn ac ysbryd arloesol ond yn bwysicach byth, amwn i, yr oedd eu dyfalbarhad; y dyfalbarhad i wynebu’r anhrefn a’r ansicrwydd gyda dim mwy, mae’n debyg, na rym di-rym cariad sy’n ganolog i’r efengyl Gristionogol. Nifer fach oedd y ffyddloniaid a oedd yn rhan o’r cymunedau Cristionogol a sefydlwyd gan y seintiau megis Dewi. Ansicr oedd dyfodol y cymunedau hyn, ond mawr oedd ei ffydd yng ngallu gweddnewidiol yr efengyl.
Mae deall y cyd-destun hwn yn taflu goleuni ar bwysigrwydd geiriau Dewi i ni heddiw. Pan deimlwn weithiau yn anobeithiol neu’r dyfodol yn ymddangos yn ansicr, neu teimlwn nad oes gennym yr adnoddau i gwrdd â’r heriau, cawn ein hannog gan eiriau Dewi Sant i ddyfalbarhau mewn ffydd, gobaith a chariad fel dilynwyr Iesu Grist.
“Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi”.
Gweddi:
Dduw, creawdwr nef a llawer,
diolchwn i ti am ddyfalbarhad dy was Dewi,
am esiampl ei fywyd ffyddlon
ac am ei waith diflino o blannu’r newyddion da am Iesu Grist
yn ddwfn yn ein tir.
Cynorthwya ni yn ein bywydau a’n gwaith,
yn wyneb llwyddiant a siom,
i ddilyn esiampl Dewi,
i ddyfalbarhau gyda llawenydd yn ein ffydd
ac wrth inni wneud y pethau bychain
er lles dy deyrnas di,
trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.