Esgobaeth Llandaf yn Ymrwymo i Gyfraddau’r Cyflog Byw Gwirioneddol Newydd
Mae cyfraddau LivingWageUK ar gyfer 2022/2023 wedi codi, sy'n golygu codiad cyflog i gannoedd o filoedd o weithwyr fel ein gweithwyr ni.
Mae Esgobaeth Llandaf yn falch o fod yn un o'r 462 o Gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i dalu'r 'Cyflog Byw Gwirioneddol’.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw'r unig gyfradd cyflog yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei chyfrifo'n annibynnol i fod yn ddigon i weithwyr a'u teuluoedd fyw arni. Mae'r gyfradd yn cael ei sefydlu bob mis Tachwedd, ac mae wedi cynyddu o bunt rhwng 2021 a 2022. Fu’r gyfradd erioed yn bwysicach nag yn ystod yr argyfwng costau byw.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Esgobaeth, James Laing, "Mae'n ymhlyg ac mae’n amlwg. Mae'r Beibl yn ein galw i drin pawb â chyfiawnder: y peth lleiaf y gallwn ni fel Eglwys ei wneud yw talu cyflog rhesymol i’r bobl rydyn ni’n eu cyflogi – a galw wedyn ar bobl eraill i wneud yr un fath."
Hyd yn hyn, mae 17,518 o weithwyr yng Nghymru, o blith y 400,000 ledled y Deyrnas Unedig, wedi gweld cynnydd yn eu cyflog oherwydd y Cyflog Byw Gwirioneddol sydd bellach yn £10.90 yr awr. Mae dros 11,000 o gyflogwyr yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol drwy'r Deyrnas Unedig.
Mae'r gwahaniaeth y mae ennill y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ei wneud o'i gymharu â 'Chyflog Byw Cenedlaethol' y llywodraeth yn cyfateb i £2730 y flwyddyn ar draws y Deyrnas Unedig. Dyna wahaniaeth o bwys i aelwydydd sy'n ceisio dal i fyny â chostau byw cynyddol, ac mae'n achubiaeth mewn rhai achosion.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Cyflog Byw Gwirioneddol LivingWageUK a chyfraddau cyflog eraill yn y Deyrnas Unedig?
Dim ond y Cyflog Byw Gwirioneddol:
- sydd wedi’i seilio ar gostau byw
- sy’n gymwys i bawb dros 18 oed
- sydd â chyfradd Llundain ar gyfer pwysoliad Llundain (£11.95 erbyn hyn)
Yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cyflog Byw, gofynnir i bob cyflogwr roi'r cynnydd yn y gyfradd fesul awr ar waith cyn gynted â phosibl cyn 14 Mai 2023.
Gweler y gyfradd newydd: https://www.livingwage.org.uk/news/2022-23-real-living-wage-increases
I weld rhestr o bob sefydliad sy'n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teg o gyflog, ewch i https://www.livingwage.org.uk/living-wage-map