Gwrthod achos disgyblu yn erbyn Esgob Llandaf
Mae achos disgyblu yn erbyn Esgob Llandaf wedi dod i ben ar ôl i gŵyn yn ei herbyn gael ei thynnu'n ôl.
Roedd Esgob Llandaf, June Osborne, i fod i ymddangos gerbron Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru yn sgil cŵyn gan Ddeon Llandaf, Gerwyn Capon.
Erbyn hyn, mae Mr Capon wedi tynnu ei gŵyn yn ôl o’i wirfodd ac yn ddiamod ac o ganlyniad i hynny mae'r achos wedi'i wrthod gan Lywydd y Tribiwnlys Disgyblu.
Dywedodd y Proctor, sef y cyfreithiwr oedd â'r dasg o gyflwyno'r achos i’r Tribiwnlys, wrth y Llywydd fod y Deon wedi “dod i benderfyniad clir a phendant” i dynnu ei gŵyn yn ôl ac “nad oedd digon o dystiolaeth i fodloni baich y prawf” yn unol â’r safon angenrheidiol.
Wrth gloi'r achos, canmolodd y Llywydd, Mark Powell CF, weithredoedd y Deon. Dywedodd, “Yn fy mhrofiad i, gall achosion fel y rhain gynyddu allan o reolaeth yn gyflym. Mae gofyn cryn ddewrder a gras i gymryd cam yn ôl ac ailystyried eich safbwynt unwaith y bydd prosesau ffurfiol fel y rhain wedi dechrau. Gobeithio y gall hyn fod yn sbardun ar gyfer iacháu a chymrodeddu rhwng pawb.”
Cafodd y penderfyniad ei groesawu gan yr Esgob June, a ddywedodd, “Rwy'n falch o glywed bod y mater hwn wedi'i ddatrys bellach a bod yr achos wedi'i wrthod. Bu'n gyfnod heriol i Eglwys Gadeiriol Llandaf a'r Esgobaeth. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth rwyf wedi'i chael gan fy nghydweithwyr ac rwy’n gofyn inni barhau i gadw'r Deon yn ein gweddïau.”
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, “Rwy'n croesawu’r eglurder yn nyfarniad Llywydd y Tribiwnlys Disgyblu a’r ffaith bod y mater wedi dod i ben erbyn hyn. Fy ngobaith yw y bydd yna gyfle newydd bellach i ailadeiladu ymddiriedaeth a chwilio am iachâd.”
Gallwch ddarllen adroddiad y Llywydd yn llawn yma: Disciplinary Tribunal of the Church in Wales - The Church in Wales