'Peidiwch â Gadael i’w Golau Ddiffodd'
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn annog cynulleidfaoedd i gefnogi Apêl Nadolig i helpu’r rhai yn y Tir Sanctaidd y mae’r rhyfel wedi effeithio arnynt.
Mae’r Apêl, a lansiwyd gan elusen Friends of the Holy Land yn codi arian i gefnogi prosiectau Cristnogol a chymorth dyngarol yn Gaza, Israel, y Lan Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem. Mae eisoes wedi derbyn cyfraniad o £5,000 gan Gronfa Cenhadaeth Dramor yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd cyfraniadau yn:
- Helpu Cristnogion lleol i ddangos cariad Iesu mewn ffyrdd ymarferol drwy gefnogi anghenion sylfaenol pobl o bob ffydd sy’n cysgodi mewn eglwysi yn Gaza.
- Talu am offer meddygol a chyflenwadau hanfodol i helpu pobl sy’n wael ac wedi eu hanafu yn Ysbyty Al-Ahli yn Gaza, a gaiff ei reoli gan yr Eglwys Esgobol yn Jerwsalem.
- Talu i brosiectau cyfredol barhau yn y Lan Orllewinol, Gaza, Dwyrain Jerwsalem ac Israel drwy’r cyfnod cythryblus hwn a thu hwnt.
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, “Mae ein cyd-Gristnogion, sy’n byw ym man geni ein ffydd, yn ymbil am help a chefnogaeth wrth i’w bywydau gael eu tynnu’n ddarnau gan ryfel. Mae’r gri nid yn unig drostynt eu hunain ond ar gyfer eu gwaith dyngarol ar gyfer pobl o bob ffydd yn y rhanbarth.
“Mae’n gri, rwy’n siŵr, y mae llawer o eglwysi eisoes wedi ymateb iddi drwy, efallai, elusennau eraill. Ond os nad ydych wedi ymateb neu ddewis apêl hyd yma, rydym yn eich annog i gefnogi Friends of the Holy Land a gwneud hyn eich Apêl Adfent neu Nadolig. Gofynnwn i chi ei chefnogi yn hael, gyda chyfraniadau a gyda’ch gweddïau, fel y gall golau Crist, Tywysog Heddwch, ymdreiddio drwy’r dyddiau tywyll hyn.”
Meddai Brendan Metcalfe, Prif Swyddog Gweithredol Friends of the Holy Land, “Bu Cristnogion y Tir Sanctaidd yn oleuni, yn ysbrydol a hefyd yn ymarferol, yn y rhanbarth am filoedd o flynyddoedd. Maent yn dilyn Iesu lle cerddodd ef ac yn caru eu cymdogion drwy ddarparu’r mwyafrif helaeth o ysgolion, ysgolion da, prifysgolion a gofal cymdeithasol yn y tiriogaethau Palesteinaidd. Ni allwn adael i’r golau hwnnw ddiffodd yn ein cenhedlaeth ni.
“Gan ein bod wedi cofrestru fel elusen ym Mhalestina, yn ogystal ag yn y Deyrnas Unedig, mae gennym ein cyfrif banc lleol ein hunain felly gallwn ymateb yn gyflym iawn i anghenion brys teuluoedd ar y Lan Orllewinol, Gaza, Dwyrain Jerwsalem ac Israel. Ers dechrau’r rhyfel, rydym wedi anfon US$50,000 yn uniongyrchol at y ddau arweinydd Eglwys yn yr Eglwysi Lladin ac Uniongred iddynt brynu cyflenwadau, dŵr a hanfodion eraill fel y gall y tua 1,500 sy’n cysgodi gyda nhw oroesi. Rydym hefyd wedi anfon £27,500 i gefnogi apêl Esgobaeth Jerwsalem ar gyfer Ysbyty Al-Ahli, yr unig ysbyty sy’n dal i weithredu yng ngogledd Gaza.
“Yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, byddwn mewn cysylltiad rheolaidd gyda’r ddwy Eglwys i asesu eu hanghenion parhaus. Yn dilyn y rhyfel, mae Cristnogion yn debygol o gael eu gadael gyda chyfyngiadau tyn a fawr o incwm o dwristiaeth. Ni fydd gan dri-chwarter ohonynt gartref i ddychwelyd iddo oherwydd difrod bomiau. Gall gadael ymddangos yr unig ddewis. Dyma’r amser i helpu a buddsoddi yn nyfodol y gymuned hanfodol yma”.
Mewn llythyr a anfonwyd at elusen Friends of the Holy Land ar 1 Tachwedd, diolchodd Archesgob yr Eglwys Uniongred Roegaidd yn Gaza, yr Archesgob Alexios o Tiberias, iddynt am eu cefnogaeth. Dywedodd, “Mae’r cyrchoedd awyr diwahân ar sifiliaid wedi arwain at ofn marw ymysg pobl, yn arbennig ar ôl marwolaeth 18 aelod o’n heglwys: cafodd plant, menywod a phobl ifanc, teuluoedd cyfan eu lladd.
“Mae’r Eglwys Uniongred yn talu’r pris am fynnu parhau gyda’i gweinidogaeth yn Gaza gan yr effeithiwyd ar ein plwyfolion a chyfleusterau’r plwyf. Ond rydym yn barhau i dystio i’n ffydd Uniongred, ac yn yr amgylchiadau hyn diolchwn o waelod ein calonnau am yr help y gwnaethoch ei ddarparu fel mater o frys a heb aros i ni ofyn. Bu eich help yn hollbwysig ar gyfer y rhai mewn poen ac sy’n dioddef yn ein heglwys.”
Rhoddi
- Gallwch gyfrannu’n uniongyrchol at Apêl Nadolig Friends of the Holy Land.
- Os ydych yn talu treth incwm yn y Deyrnas Unedig, peidiwch anghofio rhoi Cymorth Rhodd ar eich cyfraniad i gynyddu eich cyfraniad gan 25%. Ar gyfer y rhai sy’n dymuno cyfyngu eu cyfraniadau i gefnogi’r ysbyty, nodwch “Al-Ahli” pan fyddwch yn gwneud eich rodd.
- Gallwch ffonio swyddfa Friends of the Holy Land ar 01926 512980 i gyfrannu dros y ffôn neu os ydych angen unrhyw help wrth gyfrannu.
Gweddio
Mae’r Esgobion wedi cyhoeddi gweddïau dros heddwch yn Israel a Gaza y gallwch eu darllen neu eu lawrlwytho yma: