“Pêl-droed, Ffydd, Dyfodol”
Dros wyliau’r ysgol cynhaliodd Ardal Weinidogaeth Gogledd Caerdydd wersyll pêl-droed yn Eglwys Sant Denys yn Llys-faen gyda chefnogaeth gan Ambassadors Football, elusen sy’n partneru ag eglwysi lleol i gyflwyno gwersylloedd pêl-droed seiliedig ar ffydd a rhannu Iesu trwy bêl-droed ar draws y byd.
Nod Llysgenhadon Pêl-droed yw chwalu rhwystrau a chyrraedd plant trwy’r gamp y maen nhw’n ei charu, gan eu dysgu am Iesu yn y broses.
Mae ein Uwch Swyddog Ymgysylltu, Steve Lock, yn myfyrio ar ei profiad yno.
“Waw, Waw, Waw!
Am dri diwrnod anhygoel o bêl-droed, cymrodoriaeth, a ffydd. Mae hynny ynddo'i hun yn ddatganiad rhyfedd i mi, yn ysgrifennu fel rhywun sydd ddim yn hoffi pêl-droed o gwbl!
Fodd bynnag, fel y mae Paul yn ein hatgoffa yn 1 Corinthiaid 9 v22 “Dyma i gyd yr wyf yn ei wneud er mwyn yr efengyl, er mwyn rhannu ei bendithion.”
Rydyn ni i fod yn bopeth i bawb felly, gydag amharodrwydd (os dw i'n onest), fe wnes i gytuno i helpu gyda'r digwyddiad hwn a dw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny.
Cawsom ein cyfarfod y bore cyntaf a roedd e'n arllwys y glaw, roeddwn i'n sefyll, yn mynd yn soeglyd o dan ymbarél wrth ochr y cae pêl-droed. Roedd tîm Football Ambassadors ar dân dros Iesu – a dyna pam y cymerais ran. Eu gweledigaeth yw gwasanaethu’r eglwys leol, gan ei hysbrydoli a’i harfogi i adeiladu perthnasau Crist-ganolog trwy bêl-droed, ac ni allai’r tywydd hyd yn oed lesteirio hynny. Eu his-bennawd yw “Pêl-droed, Ffydd, Dyfodol” a thrwy gyfres o wersi, fideos, drama, ac wrth gwrs pêl-droed.
Fe wnaethon nhw gyflwyno Iesu i griw o blant mewn ffordd oedd yn gwneud synnwyr a thros y tridiau fe wnaeth y bechgyn a’r merched ddarganfod beth mae cyfeillgarwch gyda Iesu yn ei olygu i bob un ohonyn nhw’n bersonol.
Roedd y boreau’n ymdrin â sgiliau pêl-droed yn hyfforddi allan ar y cae ac, yn gymysg â hynny, straeon am sut mae Iesu ddim yn eithrio ac yn gwahodd pawb yn ddiamod (yn wahanol i sgowtiaid pêl-droed sy’n chwilio am dalent, oedran, neu rinweddau nodedig eraill).
Yn y prynhawn rhoddwyd y sgiliau pêl-droed a'r gwerthoedd Cristnogol hynny ar waith ar y cae. Roedd cyfweliadau yn y gadair boeth gyda'r hyfforddwyr hefyd yn bwysig i helpu'r plant i ddarganfod perthnasedd ffydd yn eu taith bersonol gyda Duw a'r fordd y mae Ffydd yn gallu eu helpu gyda'u dyfodol.
Hyd yn oed fel rhywun nad yw’n cael pêl-droed, byddwn yn argymell Ambassadors i unrhyw eglwys sydd eisiau helpu’r plant yn eu cymunedau i ddod o hyd i Iesu drostynt eu hunain.”