" Canys nid yw Duw yn Dduw annhrefn ond o heddwch." — Myfyrdod Adfent
Y Parch Emma Ackland, Caplan yr Esgob Mary, yn myfyrio ar Heddwch i nodi Ail Sul yr Adfent.
Roedd y gair ‘Heddwch’ yn cael ei ddefnyddio ym mhobman o’m cwmpas yn fy arddegau yn Belfast cyn cytundeb Dydd Gwener y Groglith ac yn ystod cyfnod a elwir ar lafar yn ‘yr helyntion’. Roedd heddwch yn ymddangos mor annhebygol yng Ngogledd Iwerddon bryd hynny ag y mae mewn rhannau eraill o'n byd nawr. Gall seibiant rhag trais a rhyfel ymddangos yn amhosibl, fel y gall ceisio datgelu ymdeimlad o heddwch yn ein bywydau a'n calonnau ein hunain.
Yn ddiweddar, mae’r cadoediad arfaethedig yn y Dwyrain Canol yn atgof bregus o’r potensial ar gyfer heddwch hyd yn oed yng nghanol y gwrthdaro dyfnaf. Mae'n dangos y gallai heddwch fod yn bosibl pan fydd pobl yn fodlon ceisio dealltwriaeth, er ei fod yn dal i fod yn waith ar y gweill.
" Canys nid yw Duw yn Dduw annhrefn ond o heddwch." (1 Corinthiaid 14:33) mae’r adnod hon yn siarad â chalon yr Adfent, tymor sy’n ein galw i lonyddwch a myfyrdod. Nid absenoldeb gwrthdaro yw heddwch, fel y disgrifir yn yr adnod hon, ond presenoldeb trefn Duw, lle mae cymod, undod, a dealltwriaeth yn teyrnasu. Mae'r heddwch hwn yn ein galw i gofleidio cytgord yn ein perthynas â'n gilydd ac â Duw.
Daw un o’r profiadau mwyaf personol a gaf o’r fath heddwch o fyw trwy broses heddwch Gogledd Iwerddon. Am ddegawdau, cafodd cymunedau eu rhwygo’n ddarnau gan lofruddiaeth a sectyddiaeth gan adael creithiau dwfn. Ond gwaith unigolion ymroddedig oedd â'u hymroddiad i wrando a deall a dawelodd y trais yn y pen draw. Yn ganolog i'r gwaith hwn roedd Mo Mowlam, gwraig sy'n cael ei hanwybyddu mor aml. Roedd Mowlam yn ganolog i feithrin deialog rhwng ochrau a oedd yn gwrthdaro. Roedd parodrwydd Mowlam i wasanaethu’r bobl drwy roi cyd-ddealltwriaeth a pharch yn ganolog i’r trafodaethau, yn allweddol yng Nghytundeb Gwener y Groglith 1998. Dangosodd ei gwaith anhunanol nad yw heddwch yn ymwneud â dileu gwahaniaethau ond yn hytrach am gadw lle iddynt a cheisio cymod â chariad a pharch.
Gwyddom fod Iesu yn cynnig anrheg ddwys: “ Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr.” (Ioan 14; 27). Ond nid yw yr heddwch hwn yn oddefol ; mae'n gofyn am weithredu ar ein rhan i wella rhaniadau ac i adeiladu pontydd rhwng pobl. Mae’n heddwch sy’n gofyn inni wynebu ein hofnau, cydnabod a herio’r rhaniadau sy’n ein gwahanu, ac ymddiried ym mhresenoldeb cariad Duw yn ein bywydau.
Mae cerdd Maya Angelou, "Let There Be Peace on Earth," yn adleisio'r un teimlad. " Bydded heddwch ar y ddaear, a dechreued gyda mi." Mae Angelou yn ein hatgoffa bod ceisio heddwch yn dechrau o fewn pob un ohonom. Geilw Angelou am i ni gario yr heddwch hwn allan i'r byd.
Yr Adfent hwn, mewn byd sydd ei angen mor ddirfawr, gadewch inni geisio’r heddwch y mae Crist yn ei gynnig a dod â’r heddwch hwnnw i’r byd yn fwriadol, un weithred o ‘Mowlam’ ar y tro.