Ymgyrch Rhoi Anrhegion yn Lledaenu Cariad yn Ardal Weindogaeth Taf Rhymni
Mae Eglwys Sant Tyfaelog, Pontlotyn, Ardal Weinidogaethol Taf Rhymni wedi meddwl am ffordd wych o ddangos gwir ysbryd y Nadolig trwy ofyn i’w cynulleidfa enwebu pobl yn eu cymuned i dderbyn anrheg Nadolig gan yr eglwys.
Dechreuodd y fenter rhoi anrhegion yn ystod COVID, fel ffordd i’r eglwys ddod â’r Efengyl a chariad Crist yn ystod tymor y Nadolig i’r rhai a allai fod yn ynysig ac yn cael trafferth ag unigrwydd. Ers hynny mae wedi tyfu i gynnig rhoddion nid yn unig i'r ynysig a'r unig, ond i'r rhai sydd, am ba reswm bynnag, yn ei chael yn anodd ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Meddai’r Parchg Darren Lynch, curad MA Taf Rhymni ( yn y llun yma wedi gwisgo fel Siôn Corn), “Mae’n ystum bach, yn anrheg gobaith, yn aml yn cynnwys cannwyll, mins peis, addurn bach a cherdyn wedi’i wneud â llaw.
Ar ôl y pandemig fe benderfynon ni gadw’r traddodiad hwn gan ei fod yn ffordd i ni barhau i ddod â’r Efengyl i’n cymuned ar yr adeg Nadoligaidd hon.
Mae hefyd yn ffordd i’r eglwys ymgysylltu â’r dref a helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac iselder a all fod yn rhan o’r cyfnod hwn.
Mae’n bwysig, wrth i ni deithio trwy’r Adfent a ninnau i gyd yn ymbaratoi i ddathlu genedigaeth Crist, ein bod ni’n cofio pam y daeth Ef – er mwyn ein caru ni. Dyna pam mae’r eglwys yn gwasanaethu’r gymuned hon fel hyn.
Dim ond cariad ydyw.”
Os hoffech chi ddarganfod mwy am Rhodd Sant Tyfaelog gallwch ddod o hyd iddyn nhw ar Facebook.