Corff Llywodraethol i Drafod Cronfa'r Eglwys Aml-Filiynau o bunnoedd
Bydd cyfarfod allweddol o’r Eglwys yng Nghymru fis nesaf yn trafod dosbarthu mwy na £137m i eglwysi ar draws Cymru.
Caiff yr arian ei ryddhau o gronfeydd hanesyddol wrth gefn dros y degawd nesaf i helpu eglwysi i dyfu a gwasanaethu eu cymunedau yn fwy effeithiol. Buddsoddir i ddatblygu gweinidogaethau a chynlluniau newydd, yn ogystal â chryfhau gwaith presennol.
Gwnaed y cyhoeddiad am y Gronfa Twf gan Archesgob Cymru Andrew John, flwyddyn yn ôl Fe’i disgrifiodd fel buddsoddiad “mwyaf difrifol a sylweddol” yr Eglwys ers ei ffurfio fwy na 100 mlynedd yn ôl.
Caiff diweddariad ar ei ddyrannu a’i ddosbarthu, yn ogystal â blaenoriaethau strategol, ei roi i aelodau Corff Llywodraethol yr Eglwys yn ei gyfarfod deuddydd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 5-6 Medi. Bydd aelodau hefyd yn cael cyfle i drafod y cynlluniau mewn grwpiau a bwydo eu sylwadau a’u syniadau yn ôl i’r cyfarfod. Caiff y dyraniadau terfynol eu penderfynu maes o law.
Ffurfir y Corff Llywodraethol o 144 o glerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys, ac mae’n cynnwys yr holl esgobion. Mae eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Prif anerchiad gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol;
- Bil i ddiwygio’r system o ethol Archesgob Cymru ac esgobion newydd drwy wneud newidiadau i’r Colegau Etholiadol;
- Cynnig i gadarnhau ymrwymiad yr Eglwys i enwadau Cristnogol eraill o amgylch y byd;
- Adroddiad gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a roddir gan ei ddirprwy-ganghellor newydd, yr Athro Elwen Evans CF;
- Anerchiad, yn ystod y gweddïau agoriadol, gan Sheran Harper, llywydd byd-eang Undeb y Mamau.
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad ar gael ar-lein yn: https://www.churchinwales.org.uk/cy/about-us/governing-body/meetings/