Clwb Gwyliau yn Dod â Llawenydd i Gymuned Penarth

Mewn dathliad bywiog o ffydd, hwyl a chyfeillgarwch, mae clwb gwyliau Penarth unwaith eto wedi dod â phobl o bob oed ynghyd yng nghanol y dref.

Cynhaliwyd y Clwb Gwyliau wrth ymyl maes chwarae'r plant a bwytai lleol, lle roedd chwerthin, lliw a cherddoriaeth yn llenwi awyr yr haf. Wedi'i drefnu gan Ardal Weinidogaeth Penarth mewn partneriaeth â Cytûn, cynigiodd y clwb gymysgedd llawen o gestyll neidio, gemau parasiwt, crefftau, pêl-droed a mwy, pob un wedi'i gynllunio i groesawu teuluoedd o bob cwr o'r gymuned.
Ochr yn ochr â'r hwyl, creodd cerddoriaeth fyw, tystiolaethau calonogol a straeon Beiblaidd diddorol le i blant ac oedolion fyfyrio ar bŵer trawsnewidiol adnabod Iesu fel ffrind personol.

“Mae'n dda gweld yr eglwys mor weladwy,” meddai'r Parchedig Jimmy Young, a ymunodd â churad newydd yr ardal weinidogaeth, y Parchedig Susannah, aelodau o dîm YFM, a gwirfoddolwyr o eglwysi ledled Penarth.
Nawr yn ei bedwaredd flwyddyn, mae'r clwb yn parhau i dyfu, gan ddenu teuluoedd sy'n dychwelyd a hyd yn oed trigolion o gartref gofal cyfagos, a ymunodd yn y gerddoriaeth a'r chwerthin. Roedd yn ddathliad rhyng-genhedlaethol o gymuned a ffydd go iawn.
Wrth i'r diwrnod ddod i ben, roedd un peth yn glir: nid digwyddiad yn unig oedd hwn, roedd yn gipolwg ar yr eglwys ar ei gorau: agored, llawen, a bywiog gyda chariad Crist.
Ond meddai Iesu, “Gadewch i'r plant bach ddod ata i. Peidiwch â'u rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad yr Un nefol.” – Mathew 19:14
Da iawn i bawb a wnaeth iddo ddigwydd!