Yr Wythnos Fawr a'r Pasg - Eglwys Dewi Sant
Annwyl Gyfeillion,
Mae’r Pasg yn hwyr eleni, gyda Dydd y Pasg yn syrthio ar y trydydd Sul ym mis Ebrill. Erbyn hynny bydd y Gwanwyn yn ei ogoniant, a bydd bywyd wedi ailgydio ac yn brysur ailsefydlu ei hun ar ôl y gaeaf hir. Yr ydym yn ffodus yma yn hemisffer y gogledd gyda’r Gwanwyn a’r Pasg yn cyd-ddigwydd, oherwydd y mae’r bywyd newydd a welwn ni ym myd natur yr adeg hon o’r flwyddyn yn ein cyfeirio ni at y bywyd newydd a’r gobaith a ddaw i’n rhan trwy atgyfodiad Iesu Grist.
Bob blwyddyn y mae’r Wythnos Fawr a’r Pasg yn ein gwahodd i ni i deithio ffordd y groes, i deithio trwy ddioddefaint, duwch ac anobaith dydd Gwener y Groglith a chyrraedd penllanw y daith â’r gobaith, y llawenydd a’r bywyd newydd a ddaw o’r bedd gwag a’r Iesu atgyfodedig. Y mae tymor y Dioddefaint a’r Pasg yn cyhoeddi y gwirionedd mawr i ni; er mor arw y prynhawn a chyn ddued y nos daw gwawrddydd newydd i lewyrchu arnom. Wedi’r groes daw bore’r trydydd dydd.
Yn ystod yr Wythnos Fawr a’r Pasg eleni eto, bydd arlwy o wasanaethau yn yr eglwys ac ar ffurf podlediadau. Yr wyf yn mawr obeithio y byddwch yn ymuno â ni fel y gall pob un ohonom deithio gyda’n gilydd i ddirgelwch ein hiachawdwriaeth a ddaw trwy farw ac atgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Gyda phob bendith dros yr Ŵyl sanctaidd hon,
Dyfrig (Ficer Eglwys Dewi Sant)
Eglwys Dewi Sant
St Andrews Crescent, Caerdydd, CF10 3DD
Podlediadau a Gwasanaethau yn yr Eglwys
13 Ebrill: Dydd Mercher yr Wythnos Fawr
10.30am Y Cymun Bendigaid a Myfyrdod
8.00pm – Cwmplin a Myfyrdod dros Zoom
14 Ebrill: Nos Iau Cablyd / Maundy Thurday
7.30pm – Y Cymun Bendigaid, Diosg yr Allor a Gwylnos
Podlediad ar gyfer Nos Iau Cablyd
15 Ebrill: Dydd Gwener y Groglith / Good Friday
2.00pm – Gwasanaeth y Groglith Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd yn Eglwys Dewi Sant.
Gobeithir ei ffrydio ar y we. Manylion pellach i ddilyn. Pregethwr: Y Parchedig Catrin Roberts
16 Ebrill: Noswyl y Pasg / Easter Eve
8.00pm - Gwasanaeth Goleuni a’r Cymun Bendigaid
17 Ebrill: Dydd y Pasg / Easter Day
8.00am – Y Cymun Bendigaid
Podlediad o’r gwasanaeth boreol
10.30am – Y Cymun Bendigaid ar gân
6.00pm – Yr Hwyrol Weddi ar gân a Phregeth
Podlediad o’r Hwyrol Weddi a Phregeth
20 Ebrill: Dydd Mercher y Pasg
10.30am Y Cymun Bendigaid
Podlediadau ar gael YouTube: Eglwys Dewi Sant Caerdydd - YouTube