Sut mae'r Eglwys yn helpu pobl i ymdopi â galar?
FE GEWCH CHI GYSUR YN YR EGLWYS
Mae miloedd o bobl yn ymweld ag eglwysi a chofebau i'r Frenhines Elizabeth i osod blodau mewn teyrnged ac i ddangos eu parch. Yr eglwys yw’r lle gorau i gynnig cefnogaeth a chysur i'r rhai sy'n galaru. Maen nhw’n lleoedd diogel ar gyfer myfyrdod tawel ac, mewn cyfnod o alar cenedlaethol, yn dod yn ganolbwynt ar gyfer profedigaeth gyhoeddus. Gall ficeriaid fod ar gael hefyd i gynnig caplaniaeth i ymwelwyr, gan gynnig presenoldeb caredig a chlust i wrando.
Yma, mae Esgob Llandaf, June Osborne, yn cynnig geiriau o anogaeth i'r rhai sy'n galaru ar ôl marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines.
Mae'r rhain yn ddyddiau o dristwch go iawn i'n cenedl ac mae pawb yn rhannu ymdeimlad o dristwch. Beth bynnag fo’u hatgofion am y Frenhines a beth bynnag fo’u cred, mae pawb yn rhannu'r tristwch hwnnw.
Rydyn ni yn aml yn gwahodd pobl i ddod i’n hadeiladau eglwysig ar yr adeg yma. Mae yna wasanaethau ac mae gan bron bob un ohonyn nhw ddrysau agored. Mae yna ganhwyllau i'w cynnau. Mae yna luniau o'r Frenhines ei hun i'n hatgoffa am ei dyletswydd a'i hysbrydoliaeth. Ond yn bennaf oll, mae yna le i weddïo.
Pam felly y bydden ni eisiau gwahodd pobl i mewn i’n hadeiladau eglwysig?
Wel, y peth cyntaf wrth gwrs yw ei bod hi'n dda peidio â bod ar ein pen ein hunain. Rydyn ni am fod mewn man cyhoeddus mewn lle sy'n cael ei rannu gyda'n cymdogion a’n cymuned ac mae'n heglwysi yn sicr yn cynnig hynny.
Ond y peth arall hefyd yw eu bod nhw'n lleoedd sy'n ein helpu i gofio ein galar ein hunain.
Un o'r pethau mae marwolaeth y Frenhines wedi'i wneud, wyddoch chi, yw mynd â phob un ohonon ni’n ôl i'r mannau lle rydyn ni wedi cael colled a thristwch ein hunain: rhieni sydd wedi marw, ffrindiau rydyn ni wedi’u colli. Ac rydyn ni'n cael ein hatgoffa ein bod ni'n byw gyda'r galar hwnnw o ddydd i ddydd. Dydy bywyd ddim yr un fath pan ydyn ni wedi colli rhywun roedden ni'n ei garu. Ac felly mae eglwysi yn aml yn fannau lle gallwn ni fynd â'r galar hwnnw ac eistedd gydag e, lle gallwn ni feddwl am y ffaith bod y ffydd Gristnogol bob amser wedi sôn am obaith y bywyd tragwyddol, y byddwn ni’n eu gweld nhw eto ond yn fwy na hynny gallwn weddïo drostyn nhw a gallwn eistedd gyda'n teimladau ni’n hunain.
Mae'r rhain yn ddyddiau pan mae angen inni fod gyda'n gilydd. Mae'r rhain yn ddyddiau yn ein bywyd cenedlaethol ac mae'n cymunedau’n llawn ymdeimlad bod rhywbeth yn mynd ymlaen i ni. Wel, gadewch inni fynd â hynny gyda ni i mewn i’n hadeiladau eglwysig. Dewch i wasanaethau. Maen nhw ar gael yn gyson – yn sicr yn wythnosol os nad yn ddyddiol.
Ond yn fwy na hynny, beth bynnag fo'ch cefndir, beth bynnag fo’ch cred, cofiwch y gallwch chi ddod i'r eglwys fel rydych chi a dod â’ch teimladau ac fe gaiff eich teimladau eu caru, eu parchu a’u hanrhydeddu.
Cyfieithiad o neges fideo’r Esgob June.
CYMORTH PROFEDIGAETH I EGLWYSI
Loss and Hope
Paratoi Eglwysi i Roi Cymorth yn ystod Profedigaeth Equipping Churches in Bereavement Support - Loss and Hope
At A Loss