Teithiau Ffydd: Angela Clarke
Drwy gydol y Garawys byddwn yn clywed straeon am ffydd o bob rhan o'r Esgobaeth. Yr wythnos hon cawn glywed gan Angela Clarke, ein Harweinydd Galluogwyr Twf ...

Stori fy ffydd, stori sy'n dal i fod yn daith... Cefais fy ngeni i deulu Cristnogol, o wahanol enwadau. Cefais fy medyddio’n faban yn ddeufis, wythnos trychineb Aberfan, lle’r oedd fy Nhad yn weithiwr achub, ac yn yr un Eglwys lle rwy’n dal i addoli.

Mae fy ffydd a chred yn rhywbeth sydd wedi bod gyda mi o blentyn, cyn belled ag y gallaf gofio. Gan gymryd fy addewidion yn fy nghadarnhad yn 11 oed, roeddwn i'n gwybod bod hyn yn gydol oes, gan wybod bod Duw yn rhan ohonof yn fy mywyd, ei ddyluniad ef oedd fi.
Roedd gweddïau a sgyrsiau gyda Duw, gwylio ac aros am arweiniad yr Ysbryd Glân (neu Holy Ghost pan oeddwn yn blentyn) a gwybod bod Iesu wedi marw ond yn fyw yn bethau arferol yn fy mhlentyndod, fel yr oeddent yn fy mhlant ac yn awr fy wyrion ac wyresau.
Roeddwn i, ac yn dal i fod, yn gyfforddus yn addoli mewn unrhyw enwad gan ein bod yn un Eglwys, ac yn un teulu Cristnogol estynedig, er fy mod wedi fy ngwreiddio fel Anglican.
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Galluogwr Twf i'r Esgobaeth, swydd yr wyf yn ei charu, yn helpu pobl, lleoedd ac Eglwysi, i ymuno â'r dotiau a thyfu. Mae'r swydd yn wahanol bob dydd, yn dechrau mewn gweddi, a swydd fy mreuddwydion yw hi mewn gwirionedd. Rwy'n dal i wirfoddoli fel warden, gweithiwr plant ac ieuenctid yn fy Eglwys gartref gan fy mod eisiau i eraill wybod y Newyddion Da a dod i Ffydd. Hon oedd y daith roeddwn i'n mynd i ddweud wrthych chi amdani, ond mae yna bob amser OND ...
Felly, sut mae'r daith hon yn dal i fod yn daith ffydd? Mae'n edrych yn gyflawn?
Ym mis Ionawr eleni, digwyddodd yr annisgwyl.
Cefais fy nghymryd yn ddifrifol wael.
Roedd yn ddigwyddiad a newidiodd fy mywyd dros ddau ddiwrnod, a arweiniodd at ddweud wrthyf fod gennyf anaf i fadruddyn y cefn, fy mod yn baraplegig, ac ni allwn symud unrhyw beth o fy mrest i lawr.

Byddaf yn cyfaddef ei bod yn sefyllfa frawychus, pan fyddwch yn yr ysbyty yn gwbl ddibynnol ar bobl eraill am bopeth.
Felly hefyd fy nhaith ffydd fel y mae'n digwydd yn awr, ffydd yr addewid. "Fi sy'n gwybod beth dw i wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi.” — Jeremeia 29:11.
Wrth wynebu sefyllfa neu golled sy'n newid bywyd, i bwy fyddech chi'n angori? Edrychais at Hebreaid, “Gobaith ac angor i'r enaid, ….
Rwyf wedi darllen ac ail ddarllen stori’r dyn sydd wedi’i barlysu a’r fersiwn gan Luc sydd wedi siarad â mi. Yn enwedig y modd y cariwyd y dyn hwn gan ffydd ei gyfeillion. Yr oedd y cyfeillion hyn a gymerodd ei bwysau, ac a ysgwyddasant ei faich, gydag ef pan oedd ar ei bwynt isaf, eu ffydd yn cynnal y dyn hwn. Roedd yn rhaid iddo ef, yn ei dro, ddibynnu ar y ffrindiau hyn am bopeth, ac rwyf wedi canfod fy hun yn gwneud yr un peth yn y staff nyrsio, sydd wedi dod yn ffrindiau i mi, yn gofalu ac yn fy ngharu.

Rwyf hefyd wedi cael fy nghefnogi gan weddïau am iachâd, am gefnogaeth, am gysur.
Ac mae’r gweddïau hyn wedi’u hateb, yn ffordd yr addewid i Jeremeia, “cynllunio i ffynnu ac nid niweidio.”
Rwyf yn fy nhrydydd ysbyty ar hyn o bryd. Dyma fy nhaith ffydd, lle mae pobl yn fy ngweld yn gweddïo, yn fy ngweld yn cymryd cymun yn y ward, yn gweld fy nghroes dal ar fy mwrdd, ac yn gofyn cwestiynau i mi.
Rwyf nawr ar fy nhaith ffydd am y gobaith a’r dyfodol y mae Duw wedi’i gynllunio ar fy nghyfer ar daith nad oeddwn i erioed wedi disgwyl ei chymryd, ond rwy’n ei chofleidio â’m cariad at Dduw y Tad, y Mab a’r Ysbryd, a chysylltiad newydd â Mair…ond stori ffydd arall yw honno, am gyfnod arall.