Teithiau Ffydd: Debbie Orriss

Drwy gydol y Garawys byddwn yn clywed straeon am ffydd o bob rhan o'r Esgobaeth. Yn gyntaf mae Sr Debbie Orriss, CA, un o'n Hwyluswyr Twf.

Dechreuodd fy nhaith pan gafodd fy Mam a Dad wahoddiad gan gymydog, i Wasanaeth Teulu yn yr eglwys leol. Aethon ni i gyd, a mwynheais glywed hanesion y Beibl, a dysgu am Iesu gan ein hathrawes Ysgol Sul, a oedd wir yn cael ei galw yn Mrs Love!
BLE DECHREUODD Y CYFAN…
Cefais fy nghadarnhau pan oeddwn yn 13 – fy mhrofiad ‘goruwchnaturiol’ cyntaf o Dduw, yr Ysbryd Glân. Rwy’n dal i gofio’r cynhesrwydd a orlifodd fy nghorff pan osododd yr Esgob ei law ar fy mhen.

Roedd gennym ni grŵp ieuenctid llewyrchus yn yr eglwys, a daeth ochr gymdeithasol ffydd yn fwyfwy pwysig i mi. Roeddem ni fel teulu yn gwerthfawrogi agwedd gymunedol ffydd yn fwy byth pan fu farw fy nhad yn 1981 heb rybudd. Ni chafodd yr un ohonom gyfle i ffarwelio, ac roeddwn mewn sioc fel yr oedd fy Mam a brawd iau.
Roeddwn i hanner ffordd trwy fy mlwyddyn Lefel A gyntaf, ac i fod yn onest roedd yr amser hwnnw’n niwl o ddicter, tristwch dwfn, a ‘dod ymlaen â’r peth’. Fe wnes i fflicro rhwng casáu Duw, a phenderfynu nad oedd yno, ond wrth i mi orwedd yn effro un noson yn aros am fy nghanlyniadau lefel A, meddyliais yn ôl dros y 18 mis blaenorol a sylweddoli ein bod ni fel teulu wedi profi cariad Duw trwy garedigrwydd aelodau’r eglwys, yn ogystal â chymdogion a theulu. Ac heb Dduw ni fyddai unrhyw bwynt i fywyd na marwolaeth Dad, na fy mywyd i.
Es i ffwrdd i’r brifysgol ac i weddill fy oes o’r eiliad honno, wedi dweud ‘ie’ petrusgar wrth Dduw, gan wybod y byddai cwestiynau, ac uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond gyda Iesu fel fy angor-bwynt. Mae fy siwrnai wedi fy arwain at addysgu yn yr ysgol gynradd, ac yna gweinidogaeth lawn amser fel Efengylwr Byddin yr Eglwys, gan wasanaethu mewn amrywiaeth o rolau. Mae fy ffydd yn dal i dyfu, trwy fod yn agored i wahanol ffyrdd o ddod ar draws Duw a meddwl am Dduw: trwy weddi, y Beibl, addoli, dysgu gydag eraill, a gwasanaethu. Ni allaf ddychmygu fy mywyd heb Dduw ynddo!