Cynhadledd Lambeth yn gyfle i ‘siarad a gweithredu er lles ein byd’ meddai esgobion Cymru
Bydd esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn ymuno â channoedd o esgobion eraill o bedwar ban byd yr wythnos nesaf ar gyfer cynhadledd ddwy-wythnos i drafod cenhadaeth y Cymun Anglicanaidd am y degawd nesaf.
Disgwylir i fwy na 600 esgob, yn cynrychioli cymunedau Cristnogol o 165 o wledydd, gymryd rhan yng Nghynhadledd Lambeth, a gynhelir yng Nghaergaint rhwng 26 Gorffennaf ac 8 Awst.
Mewn datganiad cyn y Gynhadledd dywedodd saith esgob yr Eglwys yng Nghymru y bydd y cyfarfod yn gyfle i “siarad a gweithredu er lles ein byd” ac maent yn gwahodd pobl i weddïo am fendith Duw arni.
Datganiad Lambeth
Bydd esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn ymgynnull yng Nghaergaint rhwng 26 Gorffennaf ac 8 Awst gydag esgobion o’r holl Gymun Anglicanaidd ar gyfer Cynhadledd Lambeth. Cynhelir yr achlysur bob 10 mlynedd ac mae’n un o’r pwysicaf ar gyfer esgobion Anglicanaidd (a elwir yn “Offeryn Undod”) oherwydd ei fod yn ein tynnu ynghyd mewn gweddi, cymdeithas ac ymgynghoriad.
Wrth i ni fyfyrio ar yr heriau sy’n wynebu ein byd – p’un ai yn newid yn yr hinsawdd, tlodi, y rhyfel yn Wcráin (a nifer di-rif o anghydfodau tiriogaethol eraill) neu’n tystio i ras Duw a ddatgelwyd yn Iesu Grist, rydym yn ymwybodol fod ein cyfarfod yn rhoi cyfle i ni siarad a gweithredu er lles ein byd. Mae mwy na 75 miliwn o Anglicaniaid yn fyd-eang sy’n rhannu ffydd gyffredin ac ymroddiad i Deyrnas Duw a bydd ein hamser gyda’n gilydd yn ei gwneud yn ofynnol i ni leisio ein gobeithion a hefyd ein pryderon ar gyfer yr eglwys a’r byd.
Gofynnodd Archesgob Caergaint (a estynnodd y gwahoddiad i fynychu) i ni ganolbwyntio ar Pedr 1 gyda’i themâu o obaith yn wyneb dioddefaint. Yn ogystal ag adegau o weddi ac addoli byddwn yn trafod materion hollbwysig sy’n ein hwynebu, megis cenhadaeth ac efengyliaeth, y amgylchedd a chynaliadwyedd, ac urddas a hunaniaeth dynol, gan ymateb i’r galwadau hyn gyda dychymyg a symbyliad newydd.
Bydd y rhaglen (fydd yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer partneriaid, gŵyr a gwragedd sy’n mynychu) yn cynnwys cyfnodau ymaith o gampws y brifysgol i gynnwys ymweliadau i Balas Lambeth (preswylfa swyddogol Archesgob Caergaint) a Chadeirlan Caergaint, yn ogystal â chyfnodau i gwrdd yn anffurfiol.
Gofynnwn am eich gweddïau drosom fel esgobion ac am fendith Duw ar ein cynulliad a chynigiwn y weddi hon a gymeradwywn i chi. Ein gobaith yw adfywio ein ffydd ac ymgysylltu’n ddwfn gyda materion sy’n effeithio arnom i gyd ac i ddychwelyd, gyda’n hargyhoeddiad wedi ei adnewyddu mai Crist y gobaith y cenhedloedd.
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy
Esgob Llandaf, June Osborne
Esgob Trefynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Archesgob Cynorthwyol ym Mangor, Mary Stallard
Gadewch i ni weddïo
Dduw Grasol a Chariadlon, galwaist esgobion o bob rhan o’r byd i ymgynnull yn dy Fab Iesu Grist.
Wrth i ni gwrdd, rho i ni glustiau i wrando a chalonnau sy’n agored i ti ac i’n gilydd.
Gwna ni yn barod i ddysgu, yn barod i ymateb ac yn obeithiol byth bythoedd fod dy Deyrnas ar waith yn ein plith, drwy Iesu Grist, dy Fab a’n Hachubwr.
Amen