Garawys 2022: Stori Miriam
Gan Dr Heather Payne, Warden Eglwys yn Ardal Weinidogaeth Bywoliaeth Reithorol y Rhath a Cathays. Seiliedig ar Stori Miriam Women in Holy Week gan Paula Gooder.
Roedd yr holl gliwiau yno, er nad oedd Miriam yn eu gweld i ddechrau.
Dyma fenyw gyffredin, a allai fod yn unrhyw un ohonon ni, yn mynd ynglŷn â’i thasgau dyddiol, yn cadw'r aelwyd a'r teulu'n mynd, yn ymwybodol o'r gwirioneddau gwleidyddol ond ddim wir yn teimlo unrhyw bŵer i newid dim byd. Y newyddion yn llawn sôn am drethi, milwyr, ymosod, dicter, nes gwneud iddi ddymuno y byddai'r cyfan yn diflannu – y gallai rhywun stopio’r ymladd. Mae'n anodd credu ein bod ni ddwy fil o flynyddoedd wedyn, yn teimlo fel petaen ni yn yr un sefyllfa
Daliai Miriam yn dynn at draddodiadau ac arferion y teulu – trefn braf gyfarwydd dawnsio gyda ffrindiau, canu salmau, a'r daith flynyddol i’r gwyliau yn Jerwsalem. Dyna gyffrous fyddai hynny, o'i gymharu â'r cyfyngiadau arferol ar deithio – yr un fath bryd hynny â heddiw. Y cyfle anghyffredin i ddal i fyny gyda’r teulu ehangach a ffrindiau wrth i bawb deithio gyda'i gilydd. Trafod problemau teuluol pawb – y ddau frawd yna a gefnodd ar fusnes pysgota eu tad i ddilyn rhyw bregethwr, yr arweinwyr eglwysig oedd yn ymddangos yn amheus iawn o'r dyn newydd yma oedd yn cwestiynu eu hawdurdod nhw. Roedd Miriam a'i ffrindiau’n hapus i sgwrsio’n braf a rhoi'r byd yn ei le wrth deithio.
Ond doedd yr amheuon a'r cwestiynau tawel oedd yn llechu yng nghalon Miriam ddim wedi diflannu. Ai’r bywyd yma oedd y gorau oedd i’w gael? Oedd, roedd llawer o bethau i fod yn ddiolchgar amdanyn nhw, ond pam roedd cymaint o bethau drwg yn digwydd? Ceisiai fod yn gymydog da, roedd hi'n hapus i dorchi llewys a helpu unrhyw un oedd yn llwglyd neu angen help llaw, ond doedd gwneud ei gorau ddim fel pe bai’n doad ag atebion i’r cwestiynau parhaus yma. Nid gwyliau yn unig oedd y bererindod yma, iddi hi roedd yn gyfle i chwilio am atebion.
Doedd Miriam ddim hyd yn oed yn siŵr am beth roedd hi'n chwilio. Roedd hi'n gwybod ei bod am gael atebion mwy cyflawn i broblemau bywyd nag oedd yn cael eu rhoi iddi, ac roedd hi'n teimlo bod rhywbeth ar goll. Roedd ganddi ymdeimlad cryf ei bod hi am estyn at rywbeth go iawn, parhaol, dibynadwy, cysurus, i fod yn bresennol yma nawr, yn y byd, nid dim ond addewid o rywbeth yn y dyfodol. Y geiriau hyfryd hynny o'r salm 'cariad cadarn’ – ble fyddai hi'n dod o hyd iddo?
Ond pan welodd yr ateb, person byw o gig a gwaed oedd yn ymgorffori popeth roedd hi'n chwilio amdano, doedd hi ddim yn ddigon parod i ymddiried yn ei greddf i gydnabod Iesu fel diwedd ei thaith. Ai'r person yma oedd y cariad cadarn roedd hi’n gwybod ei bod yn chwilio amdano, i'w helpu i ddehongli dirgelion bywyd? A allai hi fod mor syml â hynny – ychwanegu Iesu a dyna i gyd?
Dyw hi ddim yn syndod bod Miriam yn ansicr. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â dehongli'r byd drwy gyfrwng ein profiadau ein hunain, ein dealltwriaeth gyfarwydd o bwy dylen ni ymddiried ynddyn nhw a gwrando arnyn nhw. Rydyn ni’n dilyn llwybrau mae’n teuluoedd a'n ffrindiau wedi’n helpu a'n cefnogi i’w dilyn gan dyfu, ffynnu a rhoi yn ôl yn y pen draw. Mae'n anodd gollwng neu herio disgwyliadau’n cymuned ni, dilyn llwybr arall, nofio yn erbyn y llanw, a mentro cael ein gwrthod neu ddioddef colled.
Roedd Miriam ar ddechrau ei dirgelwch, nid ar ei ddiwedd. Roedd y cliwiau’n dod at ei gilydd ac roedd hi’n dechrau deall sut i weld pethau mewn ffordd wahanol, i ddod o hyd i'r ateb i bethau oedd wedi ei phoeni. Roedd hi’n gwawrio'n araf arni fod 'ychwanegu Iesu' wedi troi pethau wyneb i waered. Gallai gadael cartref i wneud gwaith Duw fod yn fantais, nid yn golled; gallai pŵer breswylio mewn tynerwch a gostyngeiddrwydd.
Fe allen ni edrych ar ein problemau fel cylchoedd anghyflawn, lle rydyn ni wedi gweld ein hochr ni yn unig, nes bod ychwanegu Iesu, a'i gariad ef tuag aton ni i gyd, yn rhoi golwg o safbwynt Duw yn hytrach na safbwynt dynol. Mae’r hynafol Mappa Mundi, y map canoloesol o'r byd sydd i'w weld yn Eglwys Gadeiriol Henffordd, yn dangos Jerwsalem, y Ddinas Sanctaidd, fel canol y byd, gyda phopeth yn cael ei fesur mewn perthynas â hi. Roedd presenoldeb Miriam yn y dyrfa honno yn Jerwsalem lle gwelodd Iesu, yn fodd iddi gydnabod yr hyn oedd yn hanfodol, yn ganolog i'w chwestiynau a'i phryderon am fywyd. Ychwanegwch Iesu, ac mae'r cyfan yn gwneud synnwyr.
Cychwynnodd Miriam ar ei thaith gan feddwl y deuai o hyd i Dduw mewn cyfoeth, braint, grym a mawredd, nid wedi’i guddio yn yr amlwg bob dydd, mewn gostyngeiddrwydd, tlodi, angen ac aberth. Roedd gweld Iesu'n golygu gollwng rhai rhagdybiaethau, er mwyn cael adnabod gwirionedd pan fyddai’n ei weld. Roedd ganddi ymdeimlad na fyddai’r dyfodol yn fêl i gyd. Ond roedd hi'n gwybod na fyddai hi byth ar ei phen ei hun ar y daith, achos byddai 'ychwanegu Iesu' yn ei helpu i ateb gwrthdaro, colled neu boen gyda'r ymddiriedaeth a'r gobaith sy’n dod o gariad cadarn.
Cwestiwn i fyfyrio arno
- Pa un o'r salmau sydd ag ystyr arbennig i chi?
- Sut mae'r geiriau a'r ymadroddion hyn yn eich helpu yn eich bywyd bob dydd?
- Ydych chi weithiau'n canfod ystyron newydd mewn geiriau cyfarwydd?