Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor a Llanhari wedi'i henwi'n Ysgol Noddfa
Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor a Llanhari yn Ardal Weinidogaeth y Bont-faen, sef y cyntaf o’n hysgolion ym Mro Morgannwg i ennill Gwobr fawreddog yr Ysgolion Noddfa, yn dilyn dwy flynedd o waith caled.

Mae Schools of Sanctuary yn brosiect DU gyfan sy’n cydnabod ysgolion sy’n addysgu cymuned yr ysgol gyfan am brofiadau a realiti pobl sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o’u cartrefi i feithrin dealltwriaeth, cysylltiad ac undod.
Er mwyn derbyn y wobr rhaid i ysgolion ddangos diwylliant o groeso a diogelwch lle gall pob plentyn ffynnu, a chodi ymwybyddiaeth ac eiriol dros agwedd fwy caredig tuag at y rhai sy'n ceisio diogelwch.
Daeth aelodau o Dîm Cydlyniant y Fro, Tîm Cysylltiadau Dysgu a’r Cynghorydd Sivagnanam i’r ysgol i roi eu gwobr iddynt yn ystod gwasanaeth arbennig dan arweiniad arweinwyr addoli’r ysgol.
Roedd yn achlysur llawen i bawb. Sicrhaodd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon fod pob plentyn yn cael darn o gacen i ddathlu’r llwyddiant.
Mae’n hyfryd gweld Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansannor a Llanhari yn cael ei chydnabod am fyw allan ein galwad i ‘weithredu’n gyfiawn, caru daioni, ac i gerdded yn ostyngedig gyda’n Duw.’ (Micha 6:8)