Arian Loteri wedi'i Sicrhau Ar Gyfer Gardd Gymunedol
Mae Prosiect Cymunedol San Pedr yn y Tyllgoed, Caerdydd, wedi derbyn dros £90,000 gan Gronfa 'Pobl a Lleoedd' y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect newydd i hybu iechyd a lles.
Dros y blynyddoedd mae'r prosiect llawr gwlad hwn wedi denu arian i ailadeiladu'r neuadd drws nesaf i Eglwys San Pedr gan ddarparu lleoliad modern hygyrch i'r gymuned. Datblygwyd y gerddi o amgylch Eglwys San Pedr gan wirfoddolwyr o fod yn dir diffaith o sbwriel wedi'i adael i fod yn werddon lewyrchus i fyd natur yng nghanol y gymuned.
Datblygwyd yr ardd a chaiff ei chynnal gan lawer o grwpiau amrywiol o wirfoddolwyr. Dechreuwyd y prosiect gan aelod gweledigaethol o Eglwys San Pedr, Ian Thompson, ac mae wedi mynd o nerth i nerth.
Dyfarnwyd arian y Loteri i ddechrau gweithgareddau garddio therapiwtig newydd i blant lleol, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol, hyfforddiant i oedolion i dyfu ffrwythau a llysiau gartref, a gweithgareddau newydd ar gyfer iechyd a lles ar gyfer y gymuned ehangach.
Dywedodd Jacquie Turnbull, aelod o Bwyllgor Rheoli Prosiect Gardd a Neuadd Gymunedol San Pedr, “Mae hyn yn newyddion gwych i’n cymuned ac i San Pedr.
Bydd y dyfarniad o £96,924 yn ariannu ein prosiect am y tair blynedd nesaf. Rheolir y gweithgareddau yn y Neuadd Gymunedol a’r Ardd gan dri aelod o staff rhan amser a chriw o wirfoddolwyr gweithgar.
Maen nhw i gyd yn angerddol am eu gwaith a bydd y grant yn ein galluogi i barhau am dair blynedd arall."