CYMUNEDAU AML-FFYDD YN YMUNO I FYND I'R AFAEL AG UNIGRWYDD AR DDYDD LLUN Y FELAN
Mae cymunedau aml-ffydd yng Nghaerdydd yn dod ynghyd i gynnal cyfres o ddigwyddiadau fydd yn mynd i'r afael ag unigrwydd yn eu cymuned. Mae digwyddiadau Diwrnod y Cawl yn cael eu trefnu fel rhan o’r Great Winter Get Together ac yn cael eu lansio ar Ddydd Llun y Felan – sy’n cael ei adnabod fel diwrnod mwyaf digalon y flwyddyn.
Mae Diwrnod y Cawl wedi’i drefnu gan y Tad Dean Atkins o Eglwys y Santes Fair yn Butetown, a bydd yn cynnwys sefydliadau aml-ffydd o Grangetown, Sblot a Butetown a fydd yn gweini cawl cartref wedi’i seilio ar ryseitiau sy'n ymwneud â'u treftadaeth a'u hanes teuluol. Mae’r Great Winter Get Together wedi’i drefnu gan Sefydliad Jo Cox sy'n dod â chymunedau at ei gilydd i hybu byd mwy caredig a goddefgar.
Mae Butetown yn adnabyddus fel un o gymunedau amlddiwylliannol cyntaf y Deyrnas Unedig gan fod pobl o fwy na 50 o wledydd a diwylliannau wedi cael noddfa yno ar ddechrau'r 20fed ganrif.
Mae'r Parchedig Dean Atkins yn gweithio'n gyson gyda mannau addoli, ysgolion a chymunedau lleol ymfudwyr o’r genhedlaeth gyntaf, yr ail a’r drydedd genhedlaeth. Mae Diwrnod y Cawl yn adlewyrchu'r gymuned leol felly mae'n rhaid i bob rysáit fod yn llysieuol fel eu bod ar gael i bawb er gwaethaf gwahaniaethau diwylliannol a chrefyddol. Dywedodd y Tad Dean fod gweini cawl am ddim yn ffordd syml o estyn croeso i bawb sy'n byw yn yr ardal leol waeth beth fo'u hil, eu crefydd neu eu cefndir.
Dywedodd, "Mae Diwrnod y Cawl yn ymwneud â thaclo unigrwydd a rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd a chymdeithasu. Mae'n ffordd i bobl gael gwybod am hanes a threftadaeth ei gilydd mewn lle croesawgar. Mae cawl yn fwyd rhad a maethlon felly mae'n adlewyrchu’r argyfwng costau byw ac yn helpu i gynnig lle diogel a chynnes i unrhyw un sydd angen cwmni. Mae'n ffordd syml ac effeithiol o ddod â chymuned ynghyd i ddathlu amrywiaeth".
...does angen ond ychydig o bobl i wneud gwahaniaeth mawr
Bydd pob sefydliad, gan gynnwys Synagog Caerdydd, canolfan Islamaidd a thair ysgol gynradd, yn creu ac yn darparu eu cawl eu hunain fydd â stori neu arwyddocâd y tu ôl i'r rysáit. Bydd Eglwys y Santes Fair yn cyfrannu Cawl Moron, Ffacbys a Sbeisys sydd wedi bod yn ffefryn mewn digwyddiadau blaenorol ac felly'n gysylltiad cyson rhwng holl ddigwyddiadau'r eglwys ar hyd y blynyddoedd.
Dywedodd y Tad Dean, "Roedden ni am wneud cawl oedd ddim yn defnyddio llawer o gynhwysion ond yn blasu'n hyfryd er mwyn dangos beth sy'n bosib ag ychydig yn unig o eitemau rhad. Mae hyn ychydig bach fel gwaith cymunedol – does angen ond ychydig o bobl i wneud gwahaniaeth mawr!"
Cafodd y Tad Dean arian i gynnal y digwyddiadau gan Gyngor Caerdydd y gall y cyfranogwyr ei ddefnyddio i brynu cynhwysion a chyfarpar ar gyfer y diwrnod.
Mae Diwrnod y Cawl yn cael ei gynnal ar safle’r tair eglwys yn yr ardal weinidogaeth: Eglwys Sant Saviour yn Sblot ddydd Iau 17 Ionawr, Eglwys y Santes Fair yn Butetown ddydd Mawrth 24 Ionawr ac Eglwys Sant Paul, Grangetown, ddydd Iau 26 Ionawr.
Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 3pm a 4.30pm ac yn cynnwys gweithgareddau sy'n dibynnu ar y tywydd yn yr eglwysi a'r tu allan gyda chyfle i gyfrannu at brosiectau ac achosion lleol.
Mae’r Tad Dean wedi’i galonogi y bydd y 'Great Winter Get Together' yn ysbrydoli cymuned a hwyl rhwng y crefyddau a’r enwadau. Dywedodd, "Y rheswm dros gynnal y digwyddiadau hyn nawr yw’r unigrwydd tymhorol ac mae hyn yn cysylltu â Dydd Llun y Felan. Felly, y bwriad yw dod â goleuni a chodi calon a dod â rhywfaint o obaith a hapusrwydd i bobl – sef ein galwad ni. Ein galwad ni fel Cristnogion yw cyfrannu at feithrin bywyd cymunedol ac adeiladu bywydau pobl."
Mae’r Great Get Together wedi'i ysbrydoli gan y ddiweddar Jo Cox AS, a laddwyd ar 16 Mehefin 2016. Yn ei haraith gyntaf yn y Senedd, dywedodd Jo, "Mae gennyn ni fwy yn gyffredin na'r hyn sy'n ein gwahanu". Mae digwyddiadau yn enw Jo, fel Diwrnod y Cawl, bellach yn cael eu cynnal yn flynyddol ledled y Deyrnas Unedig gan anelu at godi pontydd, mynd i'r afael ag unigrwydd a 'dangos y grym cyfunol sydd gennym fel cymuned'. I gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i ddigwyddiad yn agos atoch chi, ewch i https://www.greatgettogether.org/about.