Cerddoriaeth a’r Wythnos Fawr
Yn yr ail mewn cyfres o fyfyrdodau ar gerddoriaeth a’r Wythnos Fawr, gofynnwyd i Timothy Hill, Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Sant Martin y Rhath esbonio sut y gall cerddoriaeth wella’r litwrgi a dod â ni'n nes at ddrama Dioddefaint Crist.
Cerddoriaeth yw calon bywyd bob dydd – yn llythrennol mae yna gân ar gyfer pob achlysur a bydd unigolion yn cysylltu atgofion neu anwyliaid â chaneuon penodol. Nid yw'r eglwys yn wahanol - mae cerddoriaeth yn rhan annatod o'i litwrgi, ac yn arbennig felly yn ystod yr Wythnos Fawr.
Yn Eglwys Sant Martin y Rhath, mae'r clerigwyr a'r cerddorion yn gweithio ymhell ymlaen llaw i gynllunio'r gerddoriaeth litwrgïaidd ar gyfer yr Wythnos Fawr. Er bod cerddoriaeth yn rhan annatod o'r litwrgi, mae’n bendant yn was i’r litwrgi hefyd. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod y gerddoriaeth yn ychwanegu at y litwrgi ac nad yw'n tynnu sylw – bron yn gyngerdd gydag ambell weithred litwrgaidd yn rhan ohono!
Y nod yw manteisio'n llawn ar y lle mawr a defnyddio’n hadnoddau i'r eithaf wrth gynllunio'r gerddoriaeth. Mae hi bob amser yn her sicrhau’r 'sŵn' iawn ar gyfer pob litwrgi.
Cerddoriaeth yn ystod yr Wythnos Fawr
- Mae Sul y Blodau yn dechrau yn sain yr Ingrediente Domino gan Malcolm, sef ffanffer gorawl yn cyhoeddi dyfodiad Iesu i Jerwsalem. Mae'r ymdeithganau’n adlewyrchu naws fuddugoliaethus litwrgi Sul y Blodau. Fel mewn llawer o eglwysi eraill, mae naws yr Offeren sy'n dilyn yn cael ei hadlewyrchu gan y defnydd o bolyffoni a phlaengan gynnil.
- Yn yr un modd mae offeren Swper yr Arglwydd yn dechrau mewn modd buddugoliaethus. Mae organ yn seinio, mae’r Gloria yn dilyn ffanffer ac mae’r côr a'r gynulleidfa yn ymuno mewn cerddoriaeth sydd wedi'i hysgrifennu’n unswydd iddyn nhw. Er hynny, mae'r naws yn newid yn gyflym, ac yn ystod seremoni emosiynol golchi’r traed mae Ubi Caritas yn cael ei ganu ar drefniant gan Maurice Duruflé. Mae'r Offeren yn gorffen mewn tywyllwch gyda'r côr yn canu'r siant Taizé 'Stay here’ wrth i'r ffyddloniaid aros i weddïo wrth Allor yr Ymorffwys.
- Mae litwrgi Gwener y Groglith yn ddathliad syml ond eto'n emosiynol. Mae'r emynau'n cael eu canu’n ddigyfeiliant. Cenir Dioddefaint Sant Ioan ar drefniant gan y cyfansoddwr o Sbaen Victoria, ac mae trefniant yr un cyfansoddwr ar gyfer y Ceryddon yn cael ei ddefnyddio wrth i’r ffyddloniaid fawrygu’r Groes.
- Mae Gwylnos y Pasg yn dechrau gyda’r Cantor a’r gynulleidfa yn ymuno yn yr Exultet fawr. Mae'r côr yn canu trefniant prydferth Salm 42 gan Palestrina yng ngolau’r gannwyll wrth inni aros am seiniau gwefreiddiol yr organ yn cyhoeddi'r Gloria ac yn ailgyflwyno'r Aleliwia i'r Litwrgi.
- Mae Offeren Sul y Pasg, fel y disgwylid, yn llawn cerddoriaeth fuddugoliaethus ac afieithus i gyd-fynd â llawenydd yr Atgyfodiad. Un o'r uchafbwyntiau arbennig yw trefniant gwahanol o ddilyniant y Pasg 'Victimae Paschali'. Mae'r gynulleidfa'n codi'r to wrth i'r Offeren gloi â 'Regina Cœli', gyflawn gan gynnwys ffanfferau a desgant ysgubol.
Gobeithio y bydd y 'sŵn' yma yn ysbrydoli'r ffyddloniaid i barhau â'u taith fel pobl y Pasg, wedi eu cyfoethogi a'u hadnewyddu gan eu dathliad o Ddioddefaint, marwolaeth ac Atgyfodiad yr Arglwydd.
Ynglŷn ag Eglwys Sant Martin y Rhath
Mae Eglwys Sant Martin y Rhath yn nodedig am ei rhagoriaeth ym maes cerddoriaeth a litwrgi. Mae cerddoriaeth yn ganolog i genhadaeth a gweinidogaeth Sant Martin y Rhath. Mae offeren y Sul a’r dyddiau gŵyl yn cael ei chanu gan y côr litwrgaidd sy'n arwain y gynulleidfa yn eu haddoliad, gan dynnu ar repertoire eang sy'n amrywio o siantiau hynafol i weithiau cyfoes.
Os hoffech gefnogi cenhadaeth Eglwys Sant Martin, ymaelodwch â Chyfeillion Cerdd Eglwys Sant Martin. Mae’r arian a godir yn cael ei ddefnyddio i gynnal ac ehangu safonau uchel cerddoriaeth litwrgïaidd Eglwys Sant Martin y Rhath. Mae’r Cyfeilion wedi darparu dros 45 o ysgoloriaethau cerddorol ers eu sefydlu ac mae yna gynlluniau uchelgeisiol i sicrhau bod cyfleoedd o'r fath ar gael yn y dyfodol.