"Ddylai plant niwrowahanol ddim cael eu cau allan o'r eglwys."
Bydd prosiect newydd sy’n addas i’r synhwyrau ac sy’n cael ei lansio mewn eglwys yng Nghaerdydd yn creu profiad mwy croesawgar i blant niwrowahanol.
Mae eglwys Sant Marc yn y Gabalfa wrthi’n creu man amlsynhwyraidd i fynd i'r afael ag anghenion synhwyraidd plant ag awtistiaeth, ADHD, anableddau dysgu a phryder. Mae’r eglwys yng Nghaerdydd wedi ymuno â’r rhaglen Eglwysi Synhwyraidd Iach i'w helpu i groesawu plant ag anghenion synhwyraidd, ennyn eu diddordeb a’u hintegreiddio yn yr eglwys.
Fel rhan o'r prosiect, bydd eglwys Sant Marc yn creu proffil synhwyraidd fydd yn helpu teuluoedd i ddeall yr amgylchedd maen nhw'n dod iddo. Mae'r proffil synhwyraidd yn dangos i bobl beth maen nhw’n gallu ei ddisgwyl wrth ddod i eglwys Sant Marc, fydd yn eu helpu i reoli gorlwyth synhwyraidd.
"Mae’n proffil synhwyraidd ni’n cerdded teuluoedd drwy'r synhwyrau a'r profiadau y byddan nhw’n cael wrth ymweld â ni," meddai Becky Heaps, Bugail Plant a Theuluoedd ac arweinydd y prosiect. "Rydyn ni'n egluro sut cân nhw eu cyfarch, beth yw'r trefniadau eistedd, pa stafelloedd sydd â cherddoriaeth a goleuadau a lle mae’n man synhwyraidd diogel ni."
Bydd yr eglwys yn darparu ffonau clust, teganau â phwysau, goleuadau synhwyraidd a chlustogau siglo sydd â mân fympiau sydd wedi'u cynllunio i ysgogi derbynyddion synhwyraidd y plentyn wrth eistedd. Y nod yw tynnu rhwystrau sy'n atal teuluoedd niwrowahanol rhag ymwneud â'r eglwys.
Wrth i deuluoedd ddechrau dychwelyd i'r eglwys ar ôl Covid, sylwodd y tîm yn eglwys Sant Marc ar gynnydd yn nifer y teuluoedd ag anghenion ychwanegol oedd yn cymryd rhan yn eu gweithgareddau wythnosol. Sylwodd Becky, sydd â mab sydd ag ADHD ac awtistiaeth, ar gynnydd yn nifer y teuluoedd ag anghenion ychwanegol oedd yn cymryd rhan yn eu gweithgareddau wythnosol. Dywedodd Becky ei bod hi wedi’i hysbrydoli gan ei mab i ddileu rhwystrau sy'n atal teuluoedd rhag bod yn rhan o deulu’r eglwys.
"Gobeithio y bydd ein prosiect eglwys synhwyraidd yn helpu i annog plant niwrowahanol i ymwneud â’r eglwys," meddai Becky. "Rydyn ni eisiau creu amgylchedd lle mae plant a theuluoedd yn deall pa amgylchedd maen nhw'n dod iddo a’u bod nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain pan maen nhw yma. Rydyn ni’n creu man synhwyraidd-gyfeillgar sy'n darparu profiad synhwyraidd tawel."
Ychwanegodd Becky, "Rydyn ni'n dyheu am weld pob plentyn yn nabod llawenydd a rhyfeddod Iesu ac yn tyfu mewn perthynas ag ef.
"Ddylai bod yn niwrowahanol ddim atal plentyn rhag cael y berthynas anhygoel yma. Drwy’r prosiect yma, gobeithio y bydd mwy o blant yn cael eu cyflwyno i Iesu mewn ffyrdd sy'n hygyrch iddyn nhw."
Mae Ruth Clemence, aelod o Eglwys Sant Marc yn y Gabalfa sy'n helpu i lansio'r fenter, yn credu y bydd yr eglwys synhwyraidd yn ysbrydoli eglwysi eraill i ystyried anghenion plant niwrowahanol.
"Fel rhiant â phlant niwrowahanol, gallwch chi werthfawrogi sut maen nhw'n gweld a phrofi'r byd yn wahanol," meddai Ruth. "Efallai bod mynd i’r eglwys gyda llawer o bobl yn siarad a chanu yn llethol iddyn nhw a gall hyn achosi i rai plant actio’n wael. Pan fydd hyn yn digwydd, gall eu hymddygiad nhw yn aml gael ei gamddeall felly mae'r prosiect yma hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n dangos cariad Duw i bob plentyn. Duw a wnaeth ni i gyd ac fe greodd Duw ni â rhoddion unigryw. Gadewch inni beidio â chyfyngu ar yr hyn y gall Duw ei wneud drwy bobl ag anghenion ychwanegol. "
Mae Christoph Auckland, y mae ei fab Arthur yn defnyddio cadair olwynion ac sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth, o'r farn mai proffiliau synhwyraidd yw'r cam cyntaf o ran helpu plant a phobl ifanc i deimlo'n gyffyrddus yn mynd i mewn i adeilad newydd. "Gall yr eglwys fod yn her, o'r pryderon cychwynnol o fynd yno i sŵn a gweithgarwch y gwasanaeth, gall fod yn anarferol, yn llethol, hyd yn oed yn frawychus. Mae gan fy mab i Arthur anghenion cymhleth, gan gynnwys ASD, ac yn aml gall y pryder o fynd i adeilad newydd olygu bod mynd i'r eglwys yn amhosib. Mae'n defnyddio cadair olwynion felly gall mynediad a sedd gyffyrddus fod yn rhwystr arall. Mae grisiau, seddi, hyd yn oed parcio hefyd yn gallu bod yn anodd.
"Rydyn ni wedi cael digwyddiadau lle na allen ni hyd yn oed fynd i mewn i'r eglwys, neu ddod o hyd i rywle lle gallai eistedd yn gyffyrddus. Ond pan fydd mesurau lliniaru fel proffil synhwyraidd yn eu lle, mae'r pryderon a'r rhwystrau hyn yn cael eu newid, ac mae'r golygfeydd, y seiniau a’r arogleuon yn mynd yn dawel ac yn gyfarwydd. Ac i Arthur yn enwedig, mae rhythm a chyfarwyddineb y litwrgi yn trawsnewid eglwys yn fan o gymuned a chysur."
Mae eglwys Sant Marc yn gweithio gyda Mark Arnold o Urban Saints sy'n cyflwyno rhaglen hyfforddi i eglwysi sy'n dymuno cynnwys plant a phobl ifanc awtistig. Mae’r hyfforddiant yn rhoi cyngor ar sut i wneud eglwys yn fan lle gall plant a phobl ifanc awtistig ffynnu a sut y gall aelodau'r eglwys fod yn gyfryngau newid drwy adeiladu lle gwell ar gyfer hygyrchedd, cynhwysiant, perthyn a datblygiad ysbrydol i bawb. Bydd adnoddau, hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu gan y rhaglen Eglwysi Synhwyraidd Iach, sydd wedi'i datblygu gan CHOTS (Cymorth Therapi Galwedigaethol Cristnogol).
Mae Christoph, sydd hefyd yn Arweinydd Allgymorth Esgobaeth Llandaf, yn ychwanegu, "Mae plant ag anghenion cymhleth, plant fel Arthur, lawn cymaint yn nelw Duw ag unrhyw un arall, ac mae sut rydyn ni'n eu croesawu a'u cefnogi nhw yn adlewyrchiad o'r ffordd rydyn ni'n croesawu Duw. Mae'r esgobaeth wedi ymrwymo i helpu eglwysi ac ardaloedd gweinidogaeth i sicrhau bod eu hadeiladau a'u gwasanaethau yn cael eu trefnu i groesawu pawb oherwydd, fel mae Iesu'n ein hatgoffa ni, 'pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.' "