Deon Newydd i Gadeiriol Llandaf
Mae’n bleser gan yr Esgob Mary gyhoeddi bod y Parch Ganon Dr Jason Bray wedi derbyn ei gwahoddiad iddo ddod yn Ddeon nesaf Eglwys Gadeiriol Llandaf.
Daw Jason yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, ac mae wedi gwasanaethu ei holl weinidogaeth ordeiniedig yn yr Eglwys yng Nghymru ers ei ordeinio gan yr Esgob Rowan Williams yn 1997. Heblaw am yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol a hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth mae wedi byw yng Nghymru erioed, ac mae’n yn meddu ar Gymraeg litwrgaidd a sgyrsiol sylfaenol.
Gyda doethuriaeth mewn Diwinyddiaeth a diddordeb angerddol mewn ysgolheictod Beiblaidd, cyfundrefneg a hanes y canol oesoedd a’r diwygiad, mae Jason yn awdur cyhoeddedig ac yn athro medrus y ffydd yn ogystal â bod yn offeiriad doeth a bugeiliol ac yn arweinydd eglwysig profiadol. Mae cyhoeddi ei lyfr Gwaredigaeth: ymchwiliadau beunyddiol i’r goruwchnaturiol am ei fywyd a’i brofiadau fel gweinidog gwaredigaeth Anglicanaidd wedi golygu ei fod yn adnabyddus mewn rhai cylchoedd y tu allan i’r Eglwys yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Jason yn Ficer San Silyn, Wrecsam sy’n rhan o’r Rhwydwaith Eglwysi Mawr a dyma eglwys blwyf ganoloesol fwyaf Cymru ac mae’n Ganon yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Mae Jason wedi cryfhau a thyfu’r weinidogaeth yn San Silyn gan ddatblygu ei chysylltiadau dinesig, cyfryngau a chenedlaethol yn ogystal â’i bywyd o weddi a gwasanaeth tra’n gweithio i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn sylweddol. Mae'n feddyliwr strategol cryf gyda gogwydd at y dyfodol a chalon fugeiliol ac ewcharistaidd.
Fel oblate Benedictaidd, mae Jason yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymuned a lletygarwch mewn gweddi a bywyd eglwysig ar draws y sbectrwm Anglicanaidd.
Disgrifia ei gefndir a'i ffurfiant fel un a fu mewn traddodiad catholig rhyddfrydol a dywed ei fod yn gyfforddus ag ystod amrywiol o weddïo ac addoliad Cristnogol.
Mae Jason yn frwd dros gyfiawnder cymdeithasol ac mae'n eiriolwr cryf dros genhadaeth ac allgymorth i gymunedau lleol. Mae ganddo hanes profedig o feithrin ac arloesi twf eglwysig, mewn tyfu timau o wirfoddolwyr, datblygu gwaith gyda phlant, teuluoedd a phobl ifanc, yn ogystal â chreu a rhedeg rhaglenni disgyblaeth ac ysbrydolrwydd.
Yn ogystal, mae Jason wedi hyfforddi a chefnogi ystod eang o glerigwyr sy'n ceisio tyfu i fod yn arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar Grist. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr ysbrydol, ac wedi dysgu astudiaethau beiblaidd am flynyddoedd lawer yng Ngholeg Mihangel Sant, ac ar hyn o bryd mae’n hwylusydd ar gyfer rhaglen Diwinyddiaeth am Oes Padarn Sant. Mae’n gefnogwr cerddoriaeth glasurol a chorawl ac yn edrych ymlaen at y cyfle i weithio gyda’r adran gerddoriaeth ragorol yn ein Cadeirlan.
Mae Jason yn briod â Laura, ac mae ganddyn nhw ddau fab sydd wedi tyfu i fyny, Thomas a Benedict, ac maen nhw'n dod gyda thair cath - un ohonyn nhw'n ystyried ei hun yn ddelfrydol fel ymgeisydd ar gyfer swydd Cath Cadeirlan. Maent yn bwriadu symud i'r Ddeoniaeth ym mis Gorffennaf, ac edrychwn ymlaen at eu croesawu i'r esgobaeth.
Daliwch Jason, Laura, a’u teulu yn eich gweddïau wrth iddynt baratoi ar gyfer y bennod newydd hon, cofiwch hefyd y gynulleidfa yn Eglwys Gadeiriol San Silyn Wrecsam ac Eglwys Gadeiriol Llandaf ar yr adeg hon o newid.