Cyhoeddi Deon Newydd Eglwys Gadeiriol Llandaf
Mae’r Parchedig Ganon Richard Peers i ddod yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llandaf. Ar hyn o bryd mae’r Canon Richard yn Is-Ddeon yn Eglwys Crist Rhydychen a bydd yn ymgymryd â’i rôl fel Deon Llandaf wrth gael ei sefydlu am 3pm ddydd Sul 20 Tachwedd 2022.
Mae gan y Canon Richard gysylltiad hir â’r Eglwys yng Nghymru, drwy arwain encilion, pregethu, ac addysgu ledled Cymru. Mae Richard wedi gwneud gwaith ymgynghori addysgol yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, ac mae’n cynorthwyo fel cynghorydd i reoli newid ymysg clerigwyr. Mae’n Ganon Anrhydeddus yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy.
“Rwy wrth fy modd fy mod wedi cael gwahoddiad gan yr Esgob June i fod yn Ddeon nesaf Llandaf,” meddai’r Canon Richard Peers. “Mae’r Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Gadeiriol Llandaf â lle pwysig yn fy nghalon ers blynyddoedd lawer. Rwy’n edrych ymlaen at weddïo, gweithio, a byw yn Llandaf fel rhan o’r tîm cryf yn yr Eglwys Gadeiriol.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys yng Nghymru ac i Esgobaeth ac Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae’r Eglwys Gadeiriol yn fan lle mae ffydd yn bwysig a byddaf yn falch o arwain yr Eglwys Gadeiriol wrth iddi ddatblygu gweledigaeth yr esgobaeth o adrodd stori lawen, tyfu teyrnas Dduw, ac adeiladu gallu eglwysi ar draws yr Esgobaeth i wneud daioni.”
“Rwy’n edrych ymlaen at gael byw mewn digonedd llawen a hyderus gyda’r gymuned yn Llandaf a chyda chlerigwyr a lleygwyr yr esgobaeth. Mae Iesu’n ein galw ni’n ffrindiau iddo a chyfeillgarwch gydag Iesu sydd wrth wraidd pwy ydw i fel person. Byddaf yn falch o adnewyddu cysylltiadau â hen gyfeillion a gwneud ffrindiau newydd ar draws yr Esgobaeth.”
Yn rhinwedd ei swydd fel Deon Llandaf, bydd y Canon Richard yn arwain Eglwys Gadeiriol Llandaf yn ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth a daw’n rhan annatod o dîm arwain yr esgob.
Wrth gyhoeddi penodiad y Canon Richard, dywedodd y Gwir Barchedig June Osborne, Esgob Llandaf, “Mae’n bleser gen i groesawu’r Canon Richard Peers i fod yn Ddeon nesaf Llandaf. Daw Richard â thoreth o brofiad a fydd yn cyfoethogi bywyd yr Eglwys Gadeiriol ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd yr Esgobaeth.
“Gyda’i brofiad aruthrol fel offeiriad, cynghorydd ysbrydol ac is-ddeon, mae Richard mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu enw da Eglwys Gadeiriol Llandaf ymhellach fel lle addoli rhagorol sydd â thraddodiad corawl llewyrchus. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ym mywyd yr Eglwys Gadeiriol, ac rwy’n edrych ymlaen at ei groesawu i’r Esgobaeth.”
Wrth roi diolch am ei gyfnod yn Eglwys Crist, dywedodd y Canon Richard, “Mae wedi bod yn fraint aruthrol ac yn llawenydd mawr i weinidogaethu fel Is-Ddeon yn Eglwys Crist yn y blynyddoedd heriol diwethaf.
“Mae’r tîm yn Eglwys Gadeiriol Crist yn ddyfeisgar a gwydn a byddaf yn gweld eisiau gweithio gyda fy ffrindiau a’m cydweithwyr yn y lle hardd a chysegredig yma.
“Mae Eglwys Crist yn sefydliad gwych ac unigryw a bydd yn bendant yn fy meddyliau a’m gweddïau wrth iddi gynnal yr Adolygiad Llywodraethiant a chyflawni ei galwedigaeth fel Cyd-sefydliad yn y Brifysgol a’r Esgobaeth.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Esgob Steven, staff academaidd y Coleg ac i bawb sydd wedi darparu cymorth a gofal yn fy ngweinidogaeth i yma.”
Cynigiodd yr Archddiacon Mike Komor, Deon Dros Dro Llandaf, ei longyfarchiadau i’r Deon newydd gan ddweud, “Ar ran Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol rwy’n falch iawn bod y Canon Richard wedi derbyn gwahoddiad yr Esgob i fod yn Ddeon newydd Llandaf. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y rhoddion a’r profiad enfawr y bydd Richard yn dod â nhw i sicrhau bod Eglwys Gadeiriol Llandaf yn cyrraedd ei llawn botensial i wasanaethu pobl Cymru.”
Bydd yr Archddiacon Mike Komor yn parhau â’i rôl fel Deon Dros Dro nes bod y Canon Richard wedi ei sefydlu’n Ddeon Llandaf ym mis Tachwedd.
Wrth edrych ymlaen at ddechrau yn ei rôl newydd, dywedodd y Canon Richard, “Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf mewn sefyllfa unigryw i fod wrth galon prifddinas Cymru a’i bywyd cenedlaethol. Bydd meithrin perthynas ar draws y ddinas amrywiol yma gyda chymunedau ffydd eraill, busnes a gwleidyddiaeth yn rhan bwysig o’m gwaith i. Mae datblygu Eglwys Gadeiriol Llandaf fel cyrchfan i ymwelwyr lle gall twristiaid ddod yn bererinion a lle mae pobl o bob ffydd a phobl heb ffydd ddod o hyd i gartref yn rhan o alwad Duw aton ni yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Ynglŷn â’r Parchedig Ganon Richard Peers
Cafodd y Parchedig Ganon Richard Peers ei eni yn Chesterfield yn Swydd Derby a chafodd ei hyfforddi a bu’n gweithio fel athro cyn cael ei ordeinio yn 1993. Daeth yn Is-Ddeon yn Eglwys Crist, Rhydychen ym mis Medi 2020, sef cyd-sefydliad un o golegau Prifysgol Rhydychen, ac Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Rhydychen. Cyn symud i Rydychen, bu Richard yn Gyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Lerpwl ac yn Brif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Ysgolion Esgobaeth Lerpwl. Mae wedi hen arfer â gweinidogaeth gyfun mewn addysg ac fel offeiriad.
Treuliodd y Canon Richard wyth mlynedd fel pennaeth Ysgol Trinity All Through, Lewisham, yn Llundain, ac mae wedi gwasanaethu mewn plwyfi yn Esgobaethau Efrog, Portsmouth, Caerlwytgoed a Southwark. Yn ogystal, bu’n un o sylfaenwyr ac yn Bennaeth cyntaf Brawdoliaeth Mair, Mam Offeiriaid, sef cymuned ar wasgar o offeiriaid Anglicanaidd sydd ag aelodau ledled y byd. Mae wedi cynghori mudiadau newydd eraill sy’n dod i’r amlwg i roi mynegiant i fywyd cymunedol yn yr eglwys.
Mae gan Richard brofiad helaeth fel Cyfarwyddwr Ysbrydol, arweinydd encilion ac arweinydd llawer o bererindodau yng Nghymru. Mae wedi bod yn ymarfer myfyrdod, sydd erbyn hyn yn cael ei alw’n ymwybyddiaeth ofalgar yn gyffredin, gydol ei oes fel oedolyn. Mae wedi’i ddylanwadu’n fawr gan Julian o Norwich, Thomas Merton, a’r Ffilocalia Rwsiaidd.
Mae Richard yn byw gyda’i bartner Jim, sy’n ysgrifennu am erddi, a’u ci Teilo. Mae gerddi a dylunio gerddi’n rhan arwyddocaol o’u bywyd gyda’i gilydd.
Daw’r penodiad yn sgil ymddiswyddiad y Tra Pharchedig Gerwyn Capon ym mis Mehefin eleni. Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad ef, dywedodd yr Esgob June “Hoffwn dalu fy nheyrnged bersonol fy hun i weinidogaeth Gerwyn yn yr Esgobaeth, fel cydweithiwr, ac yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Rwy’n dymuno’r gorau iddo wrth iddo ddirnad ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac rwy’n gofyn ichi ei gadw ef a’r Eglwys gadeiriol yn eich gweddïau wrth iddynt symud ymlaen mewn gobaith.”