Cyhoeddi Cyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaethol (DDO) Newydd.
Mae’n bleser gan yr Esgob Mary gyhoeddi bod y Parchg Ian Hodges wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Ordinandiaid yr Esgobaeth.
Ar hyn o bryd mae Ian yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth ym Mhedair Afon ac yn Ddeon Bro yn Neoniaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Ordeiniwyd Ian yn Llandaf yn 2005 ac ers hynny mae wedi gwasanaethu’r esgobaeth mewn sawl rôl gan gynnwys fel periglor hyfforddi, caplan i’r ATC ac yng Nghabbidwl y Gadeirlan Fwyaf.
Mae’r Esgob Mary wedi dweud “Gyda phrofiad cyfoethog Ian yn y weinidogaeth yn ogystal â’i bersonoliaeth egniol a chyfeillgar, rwy’n hyderus y bydd yn DDO flaengar, weddigar ac yn hael.”
Bydd Ian yn dechrau ar y rôl yn y gwanwyn.
Ymunwch â ni i ddal Ian, ei deulu, a’r rhai y mae’n eu gwasanaethu, yn ein gweddïau wrth iddynt baratoi ar gyfer y cyfnod hwn o drawsnewid.