Plant dros Gymru yn dysgu am Betty Campbell mewn drama newydd
Bydd cannoedd o blant dros Gymru yn cael cyfle i ddysgu mwy am Betty Campbell – y brifathrawes ddu gyntaf yng Nghymru a hyrwyddwr amlddiwylliant – diolch i ddrama newydd fydd yn dechrau teithio yr wythnos yma.
Bydd y ddrama un person, o’r enw Betty Campbell – Darganfod Trebiwt, yn mynd â’r plant ar siwrne’ hanesyddol trwy Trebiwt, Caerdydd, o gyfnod adeiladu’r dociau trwy ddau ryfel byd hyd at heddiw – a’r oll trwy lygaid Betty.
Bydd y ddrama, yn y Gymraeg, yn cael ei lansio yn Ysgol Hamadryad ym Mae Caerdydd wythnos yma, cyn dechrau taith ysgolion ledled Cymru. Mae cynlluniau ar y gweill i lansio fersiwn Saesneg o’r ddrama yn fuan.
Wedi’i hysgrifennu gan Nia Morais, awdur ifanc o Gaerdydd, mae’r ddrama yn cael ei llwyfannu gan gwmni theatr i blant Mewn Cymeriad/In Character, ar ôl i’r cwmni gael ei ysbrydoli gan ymgyrch ‘Prosiect Merched Mawreddog’ – ymgyrch welodd gerflun o Betty Campbell yn cael ei ddadorchuddio yn Sgwâr Ganolog Caerdydd haf diwetha’.
Ganed Betty yn Nhrebiwt ym 1934. Roedd yn blentyn galluog, ond dywedodd un o’i hathrawon wrthi na allai merch ddu o’r dosbarth gweithiol byth gyrraedd yr uchelfannau academaidd roedd yn dyheu amdanynt. Profodd Betty yr athrawes yn anghywir a chael swydd fel prifathrawes ddu gyntaf erioed Cymru. Mae gwaith Betty ar gydraddoldeb hefyd wedi’i gydnabod ar draws y byd.
Mae Mewn Cymeriad wedi gweithio’n agos â theulu Betty Campbell, sy’ wedi cefnogi’r prosiect o’r cychwyn. Mae’r ddrama a’r cynhyrchiad wedi’u datblygu mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth BACA - Butetown Arts and Culture Association.
Meddai merch Betty Campbell, Elaine Clarke: “Roedd mam yn athrawes angerddol, oedd yn benderfynol o gyfoethogi bywydau ei disgyblion. Roedd hi hefyd yn arloesi, gan ddysgu ei disgyblion am gaethwasiaeth a hanes pobl o liw. Gweithiodd yn ddiweddarach i’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol a helpu i greu Mis Hanes Pobl Dduon. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Mewn Cymeriad ar y ddrama, sy’n parhau â’r gwaith oedd mor agos at galon mam. Gobeithio y bydd plant dros Gymru yn cael eu hysbrydoli gan stori Betty i wireddu eu breuddwydion a’u dyheadau nhw eu hunain.”
Kimberley Abodunrin, sy’n wreiddiol o Sir Benfro ac sy’ bellach yn byw yn Birmingham ers symud i’r ddinas i astudio drama, fydd yn chwarae rhan Betty Campbell. Yr actores a’r gyfarwyddwraig o Abertawe, Carli De’La Hughes, sy’n cyfarwyddo.
Meddai Kimberley Abodunrin: “Dw i’n cyffrous ac yn teimlo balchder mawr i fod yn chwarae rhan menyw mor ysbrydoledig â Betty Campbell, ac i allu rhannu hanes cyfoethog Trebiwt gyda phlant dros Gymru gyfan.”
Meddai Arwel Gruffydd o Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae stori Betty Campbell yn un sy’n bwysig i’w dweud wrth blant ysgol Cymru ac yn un sydd eisoes, heb os, ac a fydd eto i’r dyfodol, yn ysbrydoliaeth i lawer; ac mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gefnogi’r cynhyrchiad arbennig hwn. Mae’r cwmni’n arbennig o falch o allu cefnogi datblygiad proffesiynol y ddau artist theatr arweiniol sydd ynghlwm â’r prosiect, sef y dramodydd Nia Morais a’r cyfarwyddwr Carli De’La Hughes. Mae wedi bod yn bleser cyd-weithio â’r ddwy. Dymunwn bob hwyl i’r actores Kimberley Abodunrin a phob llwyddiant i’r cynhyrchiad wrth iddo ymweld ag ysgolion ledled Cymru.”
Ychwanega’r cynhyrchydd Ffion Glyn, sy’n gweithio i Mewn Cymeriad/In Character: “Mae cael gweithio ar brosiect am Gymraes mor ysbrydoledig wedi bod yn bleser. Roedd Betty Campbell yn angerddol am addysgu plant am hanes pobl dduon, a’n bwriad ni, drwy’r ddrama, yw i anrhydeddu ei bywyd a’i gwaith, drwy roi’r cyfle i blant ddysgu amdani ynghyd â hanes ardal Trebiwt oedd mor agos at ei chalon. Gyda dysgu am hanes pobl Dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol bellach yn ganolog i gwricwlwm newydd Cymru, ein gobaith yw y bydd ysgolion dros Gymru gyfan yn manteisio ar y cyfle arbennig yma.”