Tîm Newydd ar Gyfer y Panel Wrth Iddo Ehangu Mynediad i Weinidogaeth
Uwch newyddiadurwraig a Chanon Lleyg yw cadeirydd newydd y panel sy’n dethol pobl ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig.
Penodwyd Caroline Woollard, sy’n Ganon yng Nghadeirlan Casnewydd ac yn warden yn Ardal Gweinidogaeth y Fenni, yn gadeirydd Panel Dirnadaeth Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru wrth iddo geisio ehangu mynediad i weinidogaeth. Mae’n olynu Deon Aberhonddu, Paul Shackerley, a gadeiriodd y panel am bum mlynedd.
Yn ymuno â Caroline, sydd wedi gwasanaethu fel aelod o’r panel ers 2021, bydd tri is-gadeirydd: y Parch Tracy Jones a’r Parch Naomi Starkey, y ddwy o Esgobaeth Bangor, a’r Parch Rhys Jenkins, meddyg teulu yn Esgobaeth Llandaf.
Mae’r Panel Dirnadaeth Taleithiol yn dethol ymgeiswyr ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig. Ar ôl ymchwilio eu galwad dros nifer o fisoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, mae ymgeiswyr yn mynychu panel preswyl yng Ngogledd Cymru, lle mae aelodau’r panel yn cael sgyrsiau dwfn gyda nhw ac yn eu harsylwi yn gwneud gwahanol weithgareddau. Bydd y rhan fwyaf o’r rhai a ddetholir yn mynd ymlaen i hyfforddi at gyfer y weinidogaeth yn Sefydliad Padarn Sant, coleg diwinyddol yr Eglwys yng Nghymru.
Yn gyn brif is-olygydd gyda’r South Wales Argus, mae Caroline yn awr yn bennaeth adran sy’n galluogi cynhyrchu golygyddol papurau rhanbarthol dyddiol ac wythnosol Newsquest ac mae’n hyfforddi ei holynydd i’w dilyn pan fydd yn ymddeol ym mis Ionawr. Mae hefyd yn aelod o Gorff Llywodraethu a Choleg Etholiadol y Coleg.
Dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Van, yr esgob sydd yn dal y portffolio gweinidogaeth, “Mae hwn yn adeg cyffrous ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru wrth i ni ail-siapio’r Panel Dirnadaeth Taleithiol. Bydd y tîm newydd yn ymuno â’r Parch Ganon Dr Trystan Owain Hughes, Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth, wrth helpu i ehangu mynediad i weinidogaeth ordeiniedig a sicrhau fod gennym ystod o glerigwyr sydd wedi darparu’n iawn ar gyfer gweinidogaeth yn ein Heglwys a chymdeithas sy’n newid yn barhaus. Ein nod yw cynyddu nifer y galwedigaethau ac i offeiriaid newydd adlewyrchu amrywiaeth gwych ein cymunedau a’n cynulleidfaoedd.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhoi o’u hamser a’u doniau i’r Panel Dirnadaeth ac yn diolch, yn arbennig, i’r Deon Paul Shackerley am yr holl waith sylfaen a wnaeth.”
Ychwanegodd Archesgob Cymru, Andrew John: “Mae Caroline yn Gristion profiadol a dawnus a chaiff ei doethineb ei werthfawrogi’n fawr iawn wrth ddirnad gweinidogaeth ar gyfer yr Eglwys. Rwyf mor ddiolchgar iddi am dderbyn y rôl hon, a gydag eraill wedi eu penodi i weithio gyda hi, gwyddom cawn ein gwasanaethu’n dda.”