Gweddïo dros heddwch y Nadolig hwn – neges ar y cyd gan arweinwyr Cristnogol Cymru
Mae arweinwyr Cristnogol, yn cynrychioli eglwysi a chapeli ar draws Cymru, yn ymuno i wahodd pobl i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn.
Mae Archesgob Anglicanaidd Cymru, Andrew John, Archesgob Catholig Caerdydd ac Esgob Mynyw, Mark O’Toole a Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Simon Walkling, yn cyhoeddi neges ar y cyd sy’n cydnabod y tensiynau a’r trychinebau yn y byd heddiw ac yn gwahodd pobl i’r eglwys i fyfyrio a gweddïo dros heddwch.
![The Anglican Archbishop of Wales, Andrew John, the Roman Catholic Archbishop of Cardiff and Bishop of Menevia, Mark O’Toole, and the Moderator of the Free Church Council of Wales, Simon Walkling](https://llandaff.contentfiles.net/media/images/square_format_14_MTlo9ms.width-1200.png)
Neges Nadolig ar y cyd
Mae'r newyddion wedi bod yn llawn o'r trychineb ofnadwy sy'n datblygu yn Gaza ar ôl y cyrch terfysgol arswydus ar Israel. Lladdwyd miloedd o blant mewn rhyfel nad oedd o’u dewis. Mae'n sefyllfa wahanol iawn i’r hysbysebion Nadolig yn ein gwlad ni, a'r pwysau sydd arnom i fod yn llawen. Gellir deall pam y mae arweinwyr yr eglwys yn Jerwsalem wedi gwahodd y Cristnogion yno i hepgor unrhyw weithgareddau Nadoligaidd diangen, a sefyll yn gadarn gyda'r rhai sy'n wynebu cystudd. Mae’n ymgais i sefyll o blaid y rhai sy'n parhau i ddioddef, yn union fel y gwnaeth Iesu trwy gael ei eni yn faban ym Methlehem ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.
Ganwyd Iesu mewn gwlad a oedd wedi ei meddiannu gan y Rhufeiniaid. Ni chafodd ei eni gartref oherwydd bod cyfrifiad yn cael ei gynnal. Roedd tensiynau teuluol am fod Mair yn feichiog a rhoddwyd Iesu i orwedd mewn preseb am fod y llety yn llawn. Lladdodd Herod y bechgyn ym Methlehem i gael gwared ar y bygythiad i'w rym. Mae'r pethau hyn i gyd yn rhan o'r Nadolig, ynghyd â'n llawenydd am gariad Duw a'r traddodiadau sy'n ein helpu i ddathlu.
Y Nadolig hwn efallai y byddwn yn ymwybodol o densiynau mewn teuluoedd, a'r anawsterau o gael dau ben llinyn ynghyd. Eleni rydyn ni'n cofio'r rhyfeloedd yn y wlad lle ganwyd Iesu, yn Wcráin ac mewn rhannau eraill o'r byd. Rydyn ni’n cofio hefyd ein bod eleni wedi dathlu canmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru, i gofio am y ddeiseb a gyflwynwyd ganddynt i America ynghylch ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd i hyrwyddo 'Cyfraith nid Rhyfel'. Llofnodwyd y neges gan tua 60% o fenywod Cymru, ar ôl teithio o gartref i gartref ac o aelwyd i aelwyd, a dangos beth mae pobl gyffredin yn gallu ei gyflawni trwy gydweithio â’i gilydd.
Mae angen heddwch yn ein byd. Hwyrach ein bod am ddianc rhag tensiwn ein teuluoedd. Efallai y carem gael pum munud o lonydd i ni'n hunain wrth baratoi at y Nadolig. Beth am ymweld ag eglwys i gael lle i dawelu a myfyrio, a rhoi amser i weddïo dros heddwch y Nadolig hwn? Rydyn ni'n gweddïo am lawenydd a gobaith i ni i gyd.
![](https://llandaff.contentfiles.net/media/images/square_format_16_E6lkJX1.width-1200.png)