Gweddïau Ar Gyfer Dioddefwyr A Dealltwriaeth Yng Ngwasanaeth Coffa'r Holocost Ysgol
Mae gwesteion o Esgobaeth Llandaf, gwasanaeth yr heddlu a phwysigion lleol yn nodi Diwrnod Cofio’r Holocost gydag Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.
Yn 2010, arweiniodd Ms Bell y Chweched Dosbarth ar daith i Auschwitz lle cwrddon nhw â’r goroeswr, Josef Rosotowski, a ofynnodd i’r grŵp beidio byth â gadael i’r erchyllterau a gyflawnwyd yn ystod yr Holocost gael eu hanghofio. Bob blwyddyn ers hynny, mae Ms Bell wedi arwain cynulliad ymroddedig i wasanaethu fel atgof o erchyllterau'r gorffennol, a gweddi o obaith ar gyfer y dyfodol.
Ar 26 Ionawr 2024, cymerodd staff a disgyblion ran yn y gwasanaeth, a oedd yn cynnwys cyflwyniad o ffotograffau a dynnwyd yn Auschwitz I ac Auschwitz-Birkenau. Roedd y Pennaeth Dr Mitchell, Pennaeth Hanes Ms Bell a’r tîm uwch swyddogion yn falch o gael cwmni gwesteion gwadd o Esgobaeth Llandaf, gwasanaeth yr Heddlu, pwysigion lleol, bwrdd y Llywodraethwyr a Chyfeillion St Johns.
Arweiniodd yr Athro Hanes, Mr Barlow y gweddïau dros ddioddefwyr yr Holocost, a hil-laddiadau sydd wedi digwydd ers hynny gan gynnwys Rwanda, Cambodia, Bosnia a Darfur, gan gloi trwy ofyn i Dduw, “Helpu ni i ddeall ddoe, byw heddiw, ac edrych ymlaen at yfory.”
Daeth y gwasanaeth i ben gyda’r emyn ‘Shine, Jesus, Shine’, i’n hatgoffa bod cariad Duw yn disgleirio trwy’r tywyllwch.