Ysgol Gynradd Yn Dweud 'I Do!' i Ddysgu Am Ddathliadau
Mae Dosbarth Wrecsam yn Ysgol Gynradd Fochriw wedi bod yn dysgu popeth am ddathliadau yn eu dosbarthiadau Addysg Grefyddol, felly fe gynhalion nhw briodas arbennig iawn yn Eglwys Sant Tyfaelog, Pontlotyn yn Ardal Weinidogaeth Taf Rhymni wythnos diwethaf i ddysgu popeth am briodas.

Dywed y Cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg 'Ar gamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol eu bod yn tyfu ac yn newid dros amser. Maent yn profi ac yn cymharu sut mae eu twf nhw a phobl eraill yn cael eu cydnabod a’u dathlu. Gallant ddangos sut mae eu bywydau yn gysylltiedig ag amseroedd a thymhorau arbennig. Ymhellach ar eu taith ddysgu, gallant archwilio digwyddiadau bywyd arwyddocaol a defodau newid byd, a gallant drafod y rolau y mae'r rhain yn eu chwarae ym mywydau pobl trwy dynnu ar fewnwelediadau crefyddol ac anghrefyddol.'

Anogir ysgolion i 'ymgysylltu â chymunedau lleol crefyddol ac anghrefyddol, mewn ffyrdd y bydd dysgwyr yn eu mwynhau ac yn eu cofio, a chymryd rhan mewn chwarae rôl a chymryd rhan mewn, neu arsylwi, gweithgareddau fel dathliadau neu ail-greu.'
Helpodd y Tad Alfie y Tad Darren i briodi Peyton a Roman a dilynwyd hynny gan dderbyniad hyfryd yn neuadd yr eglwys. Roedd y gynulleidfa’n cynnwys eu cyd-ddisgyblion, rhieni ac athrawon, yn ogystal â rhai o’r gynulleidfa o Sant Tyfaelog.
Roedd cyd-ddisgyblion hefyd wrth law i gofnodi’r diwrnod hapus fel ffotograffwyr swyddogol a fideograffydd.
Addurnodd aelodau o gymuned yr eglwys y neuadd a darparu lluniaeth. Cafodd pawb amser hyfryd er bod y priodfab newydd (6 oed) wedi mynegi peth pryder am ble mae’n mynd i fyw nawr ei fod wedi priodi.

Hyfryd oedd gweld yr eglwys a’r ysgolion yn dod at ei gilydd.
Meddai Fr Darren Lynch, curad yn Ardal Taf Rhymni, “Neidiais ar y cyfle i gefnogi Ysgol Gynradd Fochriw gyda’u ffug briodas.
Mae gennym ni berthynas wych gyda'r ysgol ac rydym bob amser yn caru eu hymweliadau.
Mae mor bwysig i mi bod y plant yn gweld yr eglwys fel rhywle maen nhw’n perthyn, oherwydd mae angen iddyn nhw weld bod Iesu allan yma, bod Iesu gyda nhw, Iesu’n eu caru nhw a gallant gael hwyl gydag ef.”