Mae'r broses lawn gofal a gweddi i ddirnad pwy ddylai fod yn Esgob nesaf Llandaf wedi dechrau
Mae'r broses lawn gofal a gweddi i ddirnad pwy ddylai fod yn Esgob nesaf Llandaf wedi dechrau. Mae'r dasg yn syrthio ar Goleg Etholiadol, sy’n cynrychioli holl esgobaethau Cymru, ac sydd bron yn sicr o gael ei gynnal ym mis Ionawr 2023. Mae yna 12 o etholwyr o Esgobaeth Llandaf (chwe lleygwr a chwe chlerigwr) sydd wedi’u dewis trwy bleidlais ymysg aelodau lleyg a chlerigwyr Cynhadledd yr Esgobaeth.
Tasg gyntaf etholwyr Llandaf yw llunio proffil, gan fanylu ar anghenion ein hesgobaeth a'r rhoddion rydyn ni’n ceisio eu dirnad yn ein Hesgob newydd. Mae'n hanfodol bod y proffil hwn yn adlewyrchu’n bendant flaenoriaethau ein hesgobaeth wrth inni ddechrau ar y cyfnod nesaf yn ein cenhadaeth, ochr yn ochr â rhoddion a rhinweddau penodol arweinyddiaeth, profiad ac ysbrydolrwydd a fydd yn llywio gwaith yr Esgob newydd yn ein plith. Mae'r etholwyr wedi nodi tri chwestiwn craidd a fydd yn codi i'n hesgobaeth ac i'r Eglwys ehangach, ynghyd â gwahoddiad mwy cyffredinol i ychwanegu sylwadau eraill a allai helpu i ffurfio'r rhan gychwynnol hon o'r broses.
Mae’r etholwyr yn awyddus i ymgynghori'n eang ynglŷn â'r proffil, ar draws Esgobaeth Llandaf a’r tu hwnt, a bydd pob ymateb yn cael ei ystyried. Bydd Arweinwyr a Chadeiryddion Lleyg yr Ardaloedd Gweinidogaeth yn cael neges yn y dyddiau nesaf, yn gofyn iddyn nhw chwilio am ystod eang o safbwyntiau yn eu Hardal Weinidogaeth, a chyfleu’r safbwyntiau hyn i'r etholwyr. Mae'r amserlen yn dynn, ac mae angen cwblhau'r gwaith cychwynnol hwn yn gyflym, am fod yr etholwyr yn dymuno cnoi cil ar yr ymatebion a chreu proffil a all gael ei ddosbarthu i'n hesgobaeth, ein talaith a'r Cymundeb Anglicanaidd ehangach cyn diwedd mis Tachwedd.
Cadwch lygad am newyddion am yr ymgynghoriad hwn yn eich eglwys leol a'ch Ardal Weinidogaeth yn y dyddiau nesaf, a siaradwch ag Arweinydd eich Ardal Weinidogaeth, eich Cadeirydd Lleyg neu’ch clerigwyr lleol i ddarganfod sut gallwch chi gyfrannu’ch barn, os na fyddan nhw’n cysylltu â chi'n uniongyrchol, neu’n dweud sut gallwch chi ymateb.
Cadwch y broses hon o benodi’n Hesgob newydd yn eich calon, eich meddwl ac, yn anad dim, yn eich gweddïau. Rydyn ni’n ceisio cyfeiriad Ysbryd Glân Duw i arwain etholwyr Llandaf a'r Coleg Etholiadol cyfan, i ddirnad y person iawn i arwain ein Hesgobaeth i'n cyfnod nesaf o waith a thystiolaeth yn enw Iesu.
Rydym yn annog pobl Esgobaeth Llandaf i gynnwys etholiad ein Hesgob newydd yn gyson yn ein hymbiliau preifat a chorfforaethol, gan gynnig y gweddïau hyn...
Dad Tragwyddol, y mae dy Fab yn fugail ac y mae dy Ysbryd Glân yn Dywysydd inni, yn dy drugaredd rho i esgobaeth Llandaf fel ein Hesgob fugail ar ôl dy galon di dy hun, a fydd yn cerdded yn dy ffyrdd di, a chyda golwg cariadus yn gwylio dros dy bobl. Rho inni arweinydd â gweledigaeth i addysgu dy wirionedd, fel y gall dy Eglwys di yma gael ei hadeiladu a'th enw di gael ei ogoneddu. Gweddïwn hefyd am dy arweiniad i aelodau'r Coleg Etholiadol, a phawb sy'n ymwneud â'r broses o ethol yr Esgob newydd. Gofynnwn hyn oll yn enw Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen
Dduw byw,
Rwyt ti'n galw arnom i rannu dy fywyd
ac i rannu dy gariad,
fel y dangoswyd i ni drwy Iesu dy Fab.
Ar yr adeg hon o bontio i'n hesgobaeth
gweddïwn am arweiniad dy Ysbryd Glân,
i bawb fydd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb
ethol esgob newydd.
Trwy weddi,
a chalon sy’n ymddiried yn dy ddibenion i’th Eglwys
boed iddynt adnabod y person rwyt ti'n ei alw i fod yn esgob nesaf i ni,
wrth inni barhau i adrodd stori lawen,
i dyfu dy deyrnas,
ac i adeiladu ein gallu er daioni.
Gofynnwn hyn drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Dyma aelodau Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru a fydd yn cynrychioli Esgobaeth Llandaf wrth ethol Esgob nesaf Llandaf:
Aelodau lleyg:
Mr Michael Lawley
Dr. Heather Payne
Mr Luca Alexander Sparey
Mrs Julia Plaut
Mrs Moira Randall MBE
Mrs Susan Rivers
Aelodau clerigol:
Y Parchedig Ganon Mark Preece
Yr Archddiacon yr Hybarch Michael Komor
Y Parchedig Ganon Jan Gould
Y Parchedig Zoe King
Y Parchedig Ganon Edwin Counsell
Y Parchedig Peter Lewis