Blas ar Gynhadledd Lambeth 2022: 'Eglwys Dduw ar gyfer byd Duw'
Gan Esgob June
Roedd pawb yn gytûn bod pethau wedi dechrau'n wael.
Rhowch 650 o esgobion ynghyd â llawer o'u gwŷr a’u gwragedd, cyfran dda ohonyn nhw heb Saesneg, ar gampws Prifysgol poeth ac mae'n siŵr y bydd rhywfaint o deimlad eich bod chi ar goll. Cafodd pethau eu gwaethygu gan y pellter hir i brydau bwyd, ciwiau araf ar ôl ichi gyrraedd yno, ac weithiau, diffyg bwyd, oedd yn golygu bod rhai cario esgobion llwglyd a sarrug o fan i fan mewn bws. Nid y ffordd orau i gadw pawb yn hapus!
Mae pymthegfed Gynhadledd Lambeth, sef un o'r 'offerynnau' sy'n rhwymo'r Eglwys Anglicanaidd fyd-eang at ei gilydd, yn dod i ben y penwythnos hwn yng Nghaergaint. Mae’n rhaid mai gorffen y gynhadledd gyda'r Cymundeb Anglicanaidd yn dal yn gyfan oedd prif nod Archesgob Caergaint ('offeryn' arall, sef offeryn o undod). Ym 1998 pasiodd Cynhadledd Lambeth benderfyniad (1:10) ynghylch perthnasoedd un rhyw a oedd yn ddadleuol bryd hynny fel y mae nawr. Yn 2008 dewisodd nifer sylweddol o'r Taleithiau beidio â derbyn y gwahoddiad i Gaergaint, gan deithio yn hytrach i gynulliad amgen yn Jerwsalem. Wrth inni ymgynnull yn 2022 gwelsom y gwahaniad hwnnw’n cael ei ailadrodd wrth i esgobion Nigeria, Uganda a Rwanda wrthod bod gyda ni. Serch hynny, roedden ni’n gwybod hefyd mai hon fyddai'r Gynhadledd Lambeth gyntaf â nifer sylweddol o fenywod yn esgobion, 97 i gyd, gan gynnwys yr Esgob Elizabeth, yr esgob benywaidd cyntaf yn Ne Swdan, yr Esgob Maria Grace y cyntaf yn Nippon Sei Ko Kei, Eglwys Anglicanaidd Japan, a’r Esgob Marinez, y cyntaf i ddal y swydd honno ym Mrasil, fel Esgob yr Amason. Hwn hefyd oedd y cyfarfod cyntaf lle byddai esgobion hoyw sydd â phartneriaid yn bresennol yn eu niferoedd, gan gynnwys ein Hesgob Cherry ninnau.
Does fawr o syndod felly fod yna ansicrwydd ynglŷn â beth i'w ddisgwyl, ochr yn ochr â'r edrych ymlaen. Trodd yr ansicrwydd hwnnw yn ddryswch i raddau pan ddaeth testunau'r wyth 'Galwad Lambeth’, sef datganiadau a chadarnhadau ar bynciau allweddol, i’r fei lai nag wythnos cyn inni gyrraedd. Roedd rhai, gan gynnwys yr un ar 'Urddas Dynol' a'i gyfeiriadau at rywedd a rhywioldeb, wedi’u diwygio ers i'r grwpiau drafftio orffen eu gwaith. Doedd neb yn fodlon arddel cyfrifoldeb dros y gwaith golygu terfynol, ond roedd digon o ddamcaniaethau cynllwyn yn cyniwair.
Ac eto i gyd, fe hoeliodd y sgyrsiau cyntaf sylw nid ar y testunau ond ar y prosesau roedd gofyn inni eu mabwysiadu er mwyn mynegi barn, neu er mwyn gweithio tuag at feddwl cyffredin. Cafwyd llawer o ymateb i'r newyddion ein bod ni am gael dyfais electronig i 'bleidleisio' arni ond lle nad oedd modd pleidleisio 'na'. Cafodd y posibilrwydd o ddweud 'na' ei ychwanegu'n gyflym at y botymau, ond gorffennodd yr ymgais gyntaf at bleidleisio â chanlyniad difyr ond anffodus.
Roedd yr 'Alwad Lambeth’ gyntaf yn ymwneud â chenhadu ac efengylu gydag anerchiad cyffrous gan Archesgob Caerefrog. Roedd hi’n sicr yn teimlo fel pe bai'r ystafell yn rhannu ei angerdd dros fod yn Eglwys sydd wedi ymrwymo i genhadu, a'i phwrpas o greu disgyblion. Pan ofynnwyd inni ddefnyddio'n dyfeisiau i fynegi’n barn roedd nifer sylweddol yn gwrthwynebu ac yn ymatal – nid rhag cenhadu ac efengylu – ond rhag y broses ddeuaidd o bleidleisio 'ie' neu 'na' ar bynciau cymhleth. Erbyn y diwrnod canlynol gallai'r cyfryngau ddweud nad oedd rhyw un rhan o dair o’r esgobion Anglicanaidd wedi cefnogi'r alwad i genhadu!
Aethom ymlaen wedyn at 'Alwad Lambeth’ ynghylch Diogelu a doedd neb yn fodlon mentro gweld yr un canlyniad felly cafodd y dyfeisiau eu rhoi i gadw a rhoddodd Archesgob Caergaint gynnig ar ffordd wahanol o ennill cefnogaeth yr esgobion. Erbyn inni ddod at y 'Galwadau' ar Hunaniaeth Anglicanaidd, Cymod a Hunaniaeth Ddynol roedden ni wedi casglu pum proses wahanol ar gyfer profi meddwl cyffredin y Cymundeb, er mai pur anwadal oedd y meddwl hwnnw weithiau.
Yn hyn i gyd mae'n hawdd colli'r pethau hynod bwerus sydd wedi bod yn digwydd ac sy'n ein huno ni, ac mae’r rhain wedi bod yn rhan amlwg o'r Gynhadledd hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cyrraedd y sesiynau ffurfiol neu’r ohebiaeth ehangach.
Mae Anglicaniaeth bob amser wedi mynegi ei diwinyddiaeth foesol a chymdeithasol drwy lens fugeiliol, gan ddangos calon fugeiliol. Dwi'n dweud weithiau mai un rhan o arbenigrwydd y bywyd Anglicanaidd yw ein bod ni’n camu i realitïau newydd sydd wir o bwys ym mywydau pobl, a dim ond wedyn y byddwn ni’n trafferthu eu troi nhw’n rhan o’r sefydliad.
Ac fe allech chi dystio i hyn yng Nghaergaint wrth i’r esgobion symud ymysg ei gilydd. Buom yn gwrando ar wirioneddau'n gilydd â pharch mawr iawn. Yn fy ngrŵp i i astudio’r Beibl roedd esgobion o Ghana, India, De Swdan, Awstralia a’r Unol Daleithiau yn ogystal ag esgob hwyluso o Eglwys Loegr. Wrth astudio'r Ysgrythur gyda'n gilydd ac ystyried yr hyn yr hoffen ni ei gadarnhau a’i ddatgan daethon ni wyneb yn wyneb â heriau cyd-destunol hynod o wahanol, ac felly barn wahanol am ble y gellid dod o hyd i Iesu. Dyma brofiad teimladwy a thrawsnewidiol, ac un a fyddai ar ei ben ei hun wedi gwneud y pythefnos yn un gwerth chweil.
Yn yr un modd, gwnaethom gyfeillion newydd ymysg esgobion yr oedd yr heriau yn eu hesgobaethau nhw yn anodd i’w dychmygu. Esgob roedd ei esgobaeth gyfan dan ddŵr oherwydd newid hinsawdd ac ymddygiad gelyniaethus gwladwriaeth gyfagos. Esgob a ddaeth â chlwyf ar ei wyneb am fod rhywun wedi saethu ato fe a'i deulu yn ddiweddar. Rhai ac arnyn nhw greithiau rhyfel cartref, neu erledigaeth gan y Wladwriaeth, neu rai wedi’u hymlid gan y rhai sydd ag agenda ymosodol. Buom yn fugeiliaid i'n gilydd wrth inni wrando ar feichiau swydd esgob a chydnabod cost galwad rhywun arall, wrth inni gydnabod ystod fyd-eang Anglicaniaeth a'r gwaith sy’n dal i’w wneud er mwyn bod yn Eglwys ddiogel mewn cyfnod ôl-drefedigaethol.
Ac roedd natur 'cymundeb' ei hunan wrth wraidd ein cyfarfod a'r dewisiadau a wnaed. Roedd cais wedi’i wneud i'r esgobion hynny a oedd yn gysylltiedig â Chynhadledd y Dyfodol Anglicanaidd Byd-eang (GAFCON) beidio â derbyn y cymun bendigaid gyda'r gweddill ohonom fel ffordd o brotestio bod rhai ohonon ni (gan gynnwys holl esgobion Cymru) yn 'torri Gair Duw mewn ffordd ddiedifar’. Roedd yna dristwch mawr yn y gwasanaeth agoriadol pan na chawsom y cymun gyda'n gilydd ond estynnodd yr Archesgob Justin Welby, a oedd yn gweinyddu, wahoddiad i bob un ohonon ni gymryd rhan i'r graddau mwyaf posibl. Wedi hynny, cyhoeddodd lythyr y gallwch ei ddarllen yma: https://www.lambethconference.org/wp-content/uploads/2022/08/Archbishops-letter-to-Anglican-Bishops-2-August-2022.pdf
Cais yr Archesgob yw y dylen ni dderbyn bod yna nifer o safbwyntiau ar bwnc rhywioldeb, ac yn yr ysbryd hwnnw y cafodd ‘Galwad Lambeth' ar Urddas Dynol ei derbyn a’i thrafod. Efallai yr hoffech chithau ei hystyried: https://www.lambethconference.org/wp-content/uploads/2022/08/LC_Human-Dignity_ENG.pdf
Mae'r Datganiad yn gorffen â'r geiriau hyn: “Therefore, the church catholic declares that life is sacred and all persons are worthy of respect and worthy of conditions that make for life in all its fullness. From such holy standards there can be no faithful dissent.”
Bydd y taleithiau'n parhau i geisio bywyd yn ei holl lawnder o fewn eu cyd-destun eu hunain ac i dystio i ras Duw fel y mae wedi’i rhoi iddyn nhw. Bydd cysylltiadau partneriaeth a chyfeillgarwch yn parhau, fel ein cysylltiad newydd ninnau ag Esgobaeth Pennsylvania. Fe fyddwn ni, rwy'n gweddïo, yn chwilio am ostyngeiddrwydd a lletygarwch yn ein holl ymwneud â'n cyd-Anglicaniaid ar draws y byd. Oherwydd mae bendithion teyrnas y nefoedd yno er lles y byd, ac felly rydyn ni wir yn bodoli fel 'Eglwys Dduw ar gyfer byd Duw'.