Cofio Aberthau ac Anrhydeddu Cymynroddion
Fel rhan o’u dathliadau 160 mlwyddiant, a oedd yn cyd-daro â Sul y Cofio, mae Eglwys Sant Tyfaelog wedi agor ei drysau i wahodd y gymuned i Ŵyl Pabi wythnos o hyd, gyda ffocws ar ddathlu 160 mlynedd o wasanaeth ffyddlon yn ei holl ffurfiau.
Yn cael ei hadnabod fel Eglwys Gadeiriol y Cwm, adeiladwyd Sant Tyfaelog ym 1862-3 gan Charles Buckeridge, ar gyfer y Parchg Gilbert Harries. Lladdwyd bron i 100 o ddynion ifanc y dref tra’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’r gynulleidfa wedi ymgymryd â’r dasg fanwl o gofnodi eu henwau a’u straeon i sicrhau nad yw eu haberthau’n cael eu hanghofio.
Agorodd yr ŵyl ddydd Sadwrn 11 Tachwedd gyda Gwasanaeth Coffa. Yn ystod yr ŵyl mae’r eglwys ar agor bob dydd i ymwelwyr edmygu gwaith caled y gwirfoddolwyr sydd wedi treulio misoedd yn creu’r crefftwaith hardd sy’n cael ei arddangos o amgylch yr eglwys.
Mae arddangosfa fawr yn yr awyr agored o babïau a grëwyd gan blant ysgol o Ysgol Idris Davies ac Ysgol Gynradd Fochriw i'w gweld yn arllwys drwy'r ffenestri lliw ac ymlaen i'r allor. Mae'r arddangosfa arloesol, y cyfan wedi'i greu gan aelodau'r eglwys, yn symbol o weddïau'r gymuned yn llifo i'r eglwys ac yn gorffwys ar yr allor.
Mae croes fawr wedi'i haddurno â phabïau wedi'u crosio â llaw yn rhan o ganolbwynt o flaen yr eglwys. Mae thema’r pabi yn parhau gyda doliau wedi’u gwau yn cynrychioli aelodau o’r Fyddin, y Llynges a’r Awyrlu a roddodd, ac sy’n parhau i roi, eu bywydau mewn gwasanaeth gweithredol.
Fel y dywedodd y Parch Darren Lynch, Curad yn Ardal Weinidogaeth Taf Rhymni, “Gan fod y pen-blwydd yn cyd-fynd â Sul y Cofio roeddem am achub ar y cyfle i fyfyrio a chofio, ond hefyd i ddathlu.
Fel cymuned mae’n bwysig cofio’r gorffennol, ond mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni’n anrhydeddu ac yn dathlu’r dyfodol hefyd. Dathlwn bawb a aeth o'n blaenau, y rhai yr ydym yn eu dilyn yn y ffydd. Rhoddwyd cymynrodd i ni yma, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.
Mae gennym y groes yn y fan honno yn y blaen. Y groes yw ein ffocws oherwydd cofiwn, hyd yn oed yng nghanol rhyfel a gwrthdaro, Crist yw Tywysog Tangnefedd. Os safwn dros heddwch, yna safwn gydag ef.”
Daw’r ŵyl i ben ar ddydd Sul, 18fed Tachwedd gyda digwyddiad arbennig Songs of Praise, a fydd yn cael ei fynychu gan sawl aelod o’r clerigwyr sydd wedi gwasanaethu yn Sant Tyfaelog yn flaenorol, a’r gobaith yw y bydd y gymuned ehangach yn dod draw i dathlu penblwydd yr eglwys.
Fel yr eglura’r Parch Darren, “Mae Sant Tyfaelog yn perthyn i’r gymuned hon. Mae yna lawer o gariad at yr eglwys yn y gymuned. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddathlu 160 mlynedd o wasanaeth cariadus yr wythnos hon, tra’n edrych ymlaen at o leiaf 160 arall!”