Cydnabyddir y Parchedig Ganon Stewart Lisk yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Mae Ei Mawrhydi y Brenin wedi dyfarnu Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i’r Parchedig Ganon Stewart Lisk yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Mae wedi cael ei gydnabod am ei rôl wirfoddol fel Caplan Dinesig am fwy na deng mlynedd ar hugain ac am ei gefnogaeth i amrywiol weithgareddau elusennol.
Meddai Stewart “Mae’n ostyngedig iawn derbyn y gydnabyddiaeth gyhoeddus hon o’m gwaith yn Ninas a Sir Caerdydd. Mae wedi bod yn fraint ac yn fendith enfawr i fod yn rhan fach o ugeiniau o addoliadau, coffau a digwyddiadau cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd o bob rhan o’n cenedl amrywiol yn ystod y tri degawd diwethaf.
Ni fyddai’r un o’r achlysuron hyn wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth a’r doniau llawer o gydweithwyr ymroddedig a gweithgar, plwyfolion a ffrindiau ac yn bennaf oll cariad a gofal fy nheulu.”
Ym 1992 penodwyd Stewart yn Gaplan i Gyngor Sir De Morgannwg gan y Parchedig Ganon Bob Morgan OBE, Arweinydd De Morgannwg a Chadeirydd y Cyngor. Cafodd ei ailbenodi yn Gaplan i Lywodraeth y Ddinas a Chyngor Caerdydd gan y Cynghorydd Russell Goodway OBE.
Yn dilyn hynny fe’i hailbenodwyd yn Gaplan y Cyngor gan y Cynghorydd Rodney Berman, OBE ac yn dilyn hynny fe’i hailbenodwyd gan y Cynghorydd Hugh Thomas. Dros y 30 mlynedd diwethaf mae wedi dal rolau fel caplan dinesig i Arglwydd Feiri olynol Dinas Caerdydd. Derbyniodd fedal y City Crest i gydnabod ei wasanaeth gwirfoddol yn y rôl hon i'w gwisgo ar bob achlysur dinesig.
Mae Stewart yn briod â’i wraig Karen Turnbull, prif weithredwr yr elusen Amelia Trust Farm ym Mro Morgannwg, ac yn cael cefnogaeth aruthrol ganddi. Mae ganddyn nhw ddwy ferch hyfryd Lydia, 22 a Sophie, 18.
Estynnwn ein llongyfarchiadau cynhesaf iddo!