Gwneud Diogelu’n Haws i Eglwysi drwy Hyfforddiant Pobl fy Eglwys i
Mae diogelu ar gyfer eglwysi yn cael ei wneud yn haws gyda system Pobl fy Eglwys i (MCP) a ddaeth i Landaf ym mis Gorffennaf 2022.
Mae MCP yn cael ei ddefnyddio i drefnu a dangos data’r DBS a data diogelu ac mae hyfforddiant un-i-un a chymorth parhaus ar gael i’r defnyddwyr sydd wedi’u henwebu.
Matthew Ankin yw Swyddog Cymorth Prosiect Pobl Fy Eglwys i i'r Eglwys yng Nghymru. Ymunodd â’r Corff Cynrychiolwyr ym mis Chwefror 2023 i arwain pobl ar sut i ddefnyddio system Pobl fy Eglwys i ac i fynd a nhw hyd at bwynt lle maen nhw'n teimlo'n gyffyrddus i’w defnyddio ar eu pen eu hunain.
Mae Pobl fy Eglwys i yn wefan sy'n caniatáu i Arweinwyr yr Ardal Weinidogaeth, cydlynydd diogelu’r Ardal Weinidogaeth a swyddog(ion) diogelu oruchwylio pob agwedd ar ddiogelu sydd angen ar Ardal Weinidogaeth er mwyn cyflawni ymrwymiadau diogelu effeithlon ac effeithiol. Gyda chronfa ddata o wirfoddolwyr, gweithwyr a deiliaid swydd, mae Pobl fy Eglwys i yn darparu gwybodaeth am y rôl y maen nhw’n ei chwarae ym mywyd yr eglwys, ble maen nhw o ran gwiriadau DBS a materion sy’n gysylltiedig â hyfforddiant.
Mae Esgobaeth Llandaf wedi ymrwymo i sicrhau bod yr Eglwys yn y De yn amgylchedd diogel a gofalgar, lle caiff plant, pobl ifanc ac oedolion eu meithrin a'u gwarchod; a lle mae pob person, ac yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed, yn gallu addoli, gweithio a gwirfoddoli’n ddiogel.
Mae Matthew yn gwahodd arweinwyr yr holl Ardaloedd Gweinidogaeth a'u swyddogion diogelu (neu staff swyddfa a fydd yn cynnal Pobl fy Eglwys i ar ran yr Ardal Weinidogaeth) i ymuno ag ef ar-lein ar gyfer tiwtorialau un-i-un ynghylch defnyddio'r wefan a fydd yn para tua 60 i 90 munud. Bydd angen ichi fod gyda'ch cyfrifiadur, wedi mewngofnodi i MCP ac os oes un ar gael, restr o'ch pobl a pha rolau maen nhw'n eu chwarae.
"Dwi wedi bod yn cwrdd â phobl ar gyfer sesiynau hyfforddi unigol, sy'n cael eu cynnal ar-lein ac yn para tua 60 i 90 munud. Dwi'n gofyn i bobl fewngofnodi i Pobl fy Eglwys i a rhannu eu sgrin gyda fi. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n defnyddio’ch cyfrifiadur pan fyddwn ni'n cwrdd er mwyn imi allu cynnig yr hyfforddiant gorau ichi. Mae’r hyfforddiant yn agored i bawb, p'un a ydych chi'n ddefnyddiwr newydd neu wedi bod yn ei ddefnyddio ers peth amser. Mae croeso ichi i gyd gysylltu â mi! "
Mae wedi'i eni a'i fagu yng Nghasnewydd, ac mae'n sgwrsio’n gyfeillgar iawn ac yn hyblyg o ran sut mae'n darparu hyfforddiant Pobl fy Eglwys i. Ei unig nod yw mynd â phob Ardal Weinidogaeth i bwynt lle gallan nhw reoli eu data.
"Bydd rhai pobl yn adnabod Pobl fy Eglwys i, ac efallai bod rhai heb syniad o gwbl beth yw Pobl fy Eglwys i. Felly, fy ffordd i o fynd ati yw gweithio gyda phawb wrth eu pwysau. Hyd yn oed os ydyn nhw'n dal i deimlo eu bod nhw'n cael ychydig o drafferth ar ôl y 90 munud cyntaf yna gallwn ni wneud sesiwn arall. Y nod yn y pen draw yn ddelfrydol yw eu bod nhw'n dod yn ôl a’n bod ni’n gwneud mwy gyda'n gilydd nes eu bod nhw'n teimlo'n hyderus. Unwaith maen nhw wedi mynd i’r afael â Pobl fy Eglwys i maen nhw'n gallu cysylltu â fi os oes ganddyn nhw unrhyw ymholiadau."
Gan fod Pobl Fy Eglwys i yn cael ei ddefnyddio gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ac wedi'i integreiddio gydag Infonet y Corff Cynrychiolwyr, mae Matthew yn gallu datrys problemau o’i ochr e i’r system ac mae bob amser yn fodlon rhoi cymorth ymarferol neu sesiynau hyfforddi gloywi.
Mae Pobl Fy Eglwys i yn cydymffurfio â’r GDPR ac mae'n dangos data ar gyfer pob eglwys ym mhob Ardal Weinidogaeth. I ddefnyddio Pobl Fy Eglwys i yn llawn, bydd angen ichi wybod pwy yw eich pobl ym mhob eglwys, beth yw eu rolau ac os oes arnyn nhw angen gwiriad DBS pa lefel o fanylder a gwahardd sydd angen cael eu gwirio. Trwy storio’r holl ddata yng nghofnodion pobl mewn un lle a’i drefnu fesul eglwys/Ardal Weinidogaeth, mae'n hawdd gweld pryd mae angen adnewyddu gwiriadau DBS a hyfforddiant.
Bydd MCP yn prosesu ac yn storio ceisiadau DBS ac yn dychwelyd tystysgrifau DBS. I helpu yn y broses o ddechrau gwiriad, fe welwch chi siartiau llif DBS sy'n awgrymu pa rolau y gall fod angen gwiriad DBS ar eu cyfer. Fydd dim angen gwiriad DBS ar gyfer pob rôl.
Mae MCP yn gymorth gweledol gwych ar gyfer adnewyddu hyfforddiant ac adnewyddu gwiriadau DBS a gall Matthew eich siarad trwy'r dangosyddion pan fyddwch yn cwrdd.
Gallwch gysylltu â Matthew i drefnu’ch sesiwn drwy anfon neges e-bost - mychurchpeople@cinw.org.uk